Cyhoeddi enillwyr InvEnterPrize 2024

Chwith i’r Dde: Huw Morgan, Cadeirydd panel beirniaid InvEnterPrize gyda’r enillwyr Lindsay Hayns o PropAPlant a Kara a Sam Penfold o Pearly Bites, a’r beirniaid Jamila La Malfa-Donaldson, Jamal Hassim a David Sargen.

Chwith i’r Dde: Huw Morgan, Cadeirydd panel beirniaid InvEnterPrize gyda’r enillwyr Lindsay Hayns o PropAPlant a Kara a Sam Penfold o Pearly Bites, a’r beirniaid Jamila La Malfa-Donaldson, Jamal Hassim a David Sargen.

28 Hydref 2024

Ffordd newydd ddisglair o lanhau dannedd plant a busnes sy’n tyfu a gwerthu planhigion tŷ lliwgar yw cyd-enillwyr cystadleuaeth entrepreneuriaeth flynyddol Prifysgol Aberystwyth.

Bellach yn ei 10fed flwyddyn, mae InvEnterPrize yn gystadleuaeth ar ffurf rhaglen Dragon’s Den sy’n agored i holl fyfyrwyr a graddedigion diweddar Prifysgol Aberystwyth ac sy’n darparu gwobrau ariannol a chymorth busnes i’r ymgeiswyr buddugol.

Cyflwynwyd dau ar hugain o syniadau busnes eleni gyda thri deg tri o fyfyrwyr a graddedigion yn cynrychioli un ar ddeg o adrannau academaidd ar draws y Brifysgol yn cymryd rhan.

Llwyddodd saith i gyrraedd y rownd derfynol, a’r cyfle i gyflwyno eu syniadau i banel o feirniaid o gyn-fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth.

Yn dilyn diwrnod dwys o gyflwyniadau a holi caled gan y beirniaid, barnwyd bod dau gynnig - Pearly Bites a PropAPlant - yn deilwng o rannu’r brif wobr o £10,000 sy’n cael ei hariannu gan gyn-fyfyrwyr Aberystwyth.

Syniad Kara Penfold, a gymhwysodd fel athrawes o Brifysgol Aberystwyth y llynedd, a’i gŵr Sam yw Pearly Bites.

Maent wedi bod yn datblygu’r syniad, tabled past dannedd sy'n toddi ar y dafod ac sy’n hepgor yr angen am bast dannedd traddodiadol, ers pum mlynedd ac mae eu plant eu hunain wedi bod yn ei brofi. Gall hefyd fod o gymorth i blant ifanc sydd ddim yn hoffi brwsio’u dannedd.  

Mae Kara a Sam hefyd yn credu y gallai eu dyfais wneud cyfraniad sylweddol at leihau pydredd dannedd mewn plant.

Dywedodd Kara: “Mae ein cynnyrch wedi’i wneud gyda thîm o arbenigwyr ar frig eu proffesiwn a’i brofi i’r safon uchaf, ac rydyn ni’n credu y bydd yn newid sylweddol fel y dabled wreiddiol ar gyfer iechyd y geg.”

“Rydyn ni’n credu yn ein cynnyrch, yn gwybod beth ydyw, yn gwybod pa mor dda ydyw, a pha mor boblogaidd ydyw gyda'n plant ein hunain, ond roedd clywed y beirniaid yn ein holi ni ac yna'n meddwl ei fod cystal ag yr ydym ni’n meddwl ydyw, yn dangos bod pobl yn credu ynom ni.”

“Mae ennill InvEnterPrize yn golygu y gallwn ni fynd i’r farchnad. Bellach mae gennym ni’r arian i gynhyrchu ein batsh cyntaf ac rydym ni’n gobeithio bod ar y farchnad cyn y Nadolig.”

Mae Lindsay Hayns, a raddiodd mewn Amaethyddiaeth a Gwyddor Anifeiliaid, wedi bod yn tendio’i busnes planhigion mewn potiau PropAPlant ers peth amser, ac wedi ennill InvEnterPrize ar ei hail gynnig.

Mae busnes Lindsay yn gwerthu planhigion tŷ prin a lliwgar fel Acroids gyda’u lliwiau gwyrdd, pinc, coch, melyn a gwyn llachar, a dail o liwiau dwfn.

Bellach yn Brighton lle mae'n cyfuno rhedeg ei busnes â darlithio mewn coleg lleol, mae Lindsay’n bwriadu chwilio am eiddo masnachol lle gall ehangu ei busnes.

“Mae ennill InvEnterPrize yn meddwl fy mod i’n gallu gwthio fy musnes ymhellach nag erioed o’r blaen. Roedd dychwelyd i’r gystadleuaeth eleni, ar ôl dysgu gwersi gwerthfawr o gymryd rhan y llynedd yn grêt, ac mae ennill yn wych. Mae'n meddwl cymaint i mi i gael mewnbwn gan bum arweinydd busnes. Mae InvEnterPrize yn sbardun i entrepreneuriaid ifanc fel fi, gan eu hannog nhw i fireinio eu busnes drwy gydol y broses.”

Mae Lindsay eisoes yn gwerthu ei phlanhigion ar Etsy ac Ebay ac mae'n gobeithio sefydlu lleoliad i'w werthu'n bersonol yn Nwyrain Sussex yn y dyfodol agos.

Mae Huw Morgan, Cadeirydd panel beirniaid InvEnterPrize, wedi bod yn rhan o’r gystadleuaeth ers ei sefydlu.

“Mae wedi bod yn bleser bod yn rhan o InvEnterPrize unwaith eto eleni a’n llongyfarchiadau cynhesaf ni i bawb a gyrhaeddodd y rownd derfynol. Dros y blynyddoedd mae ansawdd y cyflwyniadau wedi gwella'n aruthrol ac mae'r angerdd y mae pawb yn ei roi yn eu cyflwyniadau ar y diwrnod yn amlwg. Mae’r gystadleuaeth ei hun yn wych gan ei bod yn helpu’r myfyrwyr i ganolbwyntio ar amcan craidd eu busnes, yr hyn sy’n unigryw o ran gwerthu, a pham eu bod yn wahanol a pham y dylem ni fod yn eu cefnogi nhw gyda gwobr o £10k.”

“Mae’r gystadleuaeth hefyd yn amlygu bod mwy a mwy o fyfyrwyr yn meddwl am sefydlu eu busnesau eu hunain. Roedd yn gymharol fformiwlaig yn fy amser i, fe wnaethom ni gais a symud i fywyd corfforaethol, heb feddwl am ddatblygu ein busnes ein hunain. Nawr mae myfyrwyr yn ystyried sefydlu eu busnesau eu hunain, ac mae nifer yn gwneud hynny hyd yn oed cyn y Brifysgol. Sefydlwyd InvEnterPrize i gael mwy o’n myfyrwyr i feddwl am greu a rhedeg eu busnesau eu hunain, ac o edrych ar ein ceisiadau eleni rydym ni’n llwyddo. Gadewch i ni obeithio am hyd yn oed mwy y flwyddyn nesaf."

Derbyniodd y lleill a gyrhaeddodd y rownd derfynol - Sugar-Cane Straws a gyflwynwyd gan Liva Zviedre o’r Adran Gyfrifiadureg, Deveji – Datblygu Ap gan Frank Myslek o’r Adran Gyfrifiadureg, Knife-Proof Cloth gan James Mooney o’r Ysgol Fusnes, Heart Guard gan Louis Samuel o Adran y Gwyddorau Bywyd a Green Mountain Tea gan Eleni Ziu o’r Adran Gyfrifiadureg - £1000 yr un gyda Sugar-Cane Straws hefyd yn derbyn £1000 am ennill Gwobr y Peirianwyr.

Mae Tony Orme, Ymgynghorydd Gyrfaoedd ym Mhrifysgol Aberystwyth, wedi bod yn ymwneud ag InvEnterPrize o’r cychwyn cyntaf.

“Unwaith eto, mae InvEnterPrize wedi taflu goleuni ar greadigrwydd anhygoel ein myfyrwyr a’u hysbryd entrepreneuraidd, ac rydym ni’n eu llongyfarch ar yr hyn y maen nhw wedi’i gyflawni eleni ac yn dymuno’n dda iddyn nhw ar eu taith fusnes. Edrychwn ni ‘mlaen nawr at y rhifyn nesaf ac rydym ni’n annog myfyrwyr a graddedigion i ddechrau meddwl am gymryd rhan yn InvEnterPrize 2025 gyda’r hyn a fydd, heb os, yn gasgliad gwych arall o syniadau busnes a chynigion llawn dychymyg i’w beirniadu gan ein dreigiau.”

“Mae cefnogaeth ein beirniaid, David Sargen, Huw Morgan, Jamila La Malfa-Donaldson, Jamal Hassim, Peter Gradwell, Kerry Diamond a Dr Rhian Hayward MBE, Prif Weithredwr ArloesiAber, wedi bod yn anhygoel eto eleni. Hebddyn nhw a chefnogaeth ein cymuned o gyn-fyfyrwyr ni fyddai hyn yn bosibl.”