Angen am drawsnewid o ofal yn sgil ‘colli hawliau dynol’ yn ystod y pandemig

Dr Simmonds o Brifysgol Aberystwyth

Dr Simmonds o Brifysgol Aberystwyth

16 Hydref 2024

Mae angen trawsnewid systemau gofal wedi effaith negyddol pandemig COVID-19 ar hawliau dynol pobl hŷn ac anabl, yn ôl academyddion.

Mewn casgliad ymchwil newydd, ‘Croestoriadau rhwng heneiddio ac anabledd yn ystod pandemig COVID-19’, mae Dr Bethany Simmonds o Brifysgol Aberystwyth yn tynnu sylw at golli hawliau dynol pobl hŷn ac anabl, yn enwedig mewn lleoliadau gofal.

Yn ei gwaith, mae’n dweud bod penderfyniadau bywyd a marwolaeth yn aml yn seiliedig ar oedran, wedi arwain at arferion ‘eithriadol’ a dadleuol a oedd yn cynnwys gorchmynion ‘Peidiwch â Dadebru’ a ddefnyddiwyd yn amhriodol, rhyddhau anniogel o’r ysbyty, a gwrthod mynediad at driniaeth.

Roedd y dogni hwn o ofal pobl hŷn, yn enwedig yn ystod ton gyntaf y pandemig, yn mynd yn groes i ddeddfwriaeth hawliau dynol a chydraddoldeb, yn ôl y papur a gyhoeddwyd yng nghyfnodolyn Frontiers in Sociology.

Mae Dr Simmonds yn dadlau y gall y gwahaniaethu hwn gael ei weld fel ffrwyth mesurau neo-ryddfrydoli a llymder y Deyrnas Gyfunol.

Mae’r arbenigwr mewn cymdeithaseg heneiddio, iechyd a risg yn cynnig dull gofal ffeministaidd amgen: un sy’n gwerthfawrogi gwaith gofal menywod ac sy’n ystyried anghydraddoldebau mynediad at adnoddau yn seiliedig ar oedran, rhyw, ethnigrwydd ac anabledd wrth wneud penderfyniadau am ofal.

Dywedodd Dr Simmonds o Brifysgol Aberystwyth:

“Mae’r achosion clir o dorri hawliau dynol pobl hŷn ac anabl yn ystod y pandemig yn dangos bod angen i ni ail-ddychmygu’n radical sut rydyn ni’n gwneud penderfyniadau am ofal. Ar hyn o bryd does dim digon o ystyriaeth yn cael ei rhoi i sut yr ydyn ni’n sicrhau bod pobl sy'n heneiddio ag anabledd, neu'n hŷn a chanddyn nhw nam, yn cael gofal ag urddas. Mae’n hanfodol bod y llywodraeth yn dysgu’r gwersi, gan gynllunio gwasanaethau'r dyfodol sy'n mynd i'r afael yn fwy effeithiol â gwahaniaethu systemig sy'n gorgyffwrdd.

“Mae’n gyffredin i feddwl am fregusrwydd fel rhywbeth sy’n effeithio ar bobl hŷn, menywod neu grwpiau lleiafrifoedd ethnig, ac mae hyn yn anochel. Fodd bynnag, mae pobl mewn peryg o fod yn agored i niwed oherwydd penderfyniadau’r llywodraeth. Mae bod yn agored i niwed yn rhywbeth y gall unrhyw un ei brofi ar unrhyw adeg yn eu bywyd. Ond mae'r penderfyniadau y mae'r llywodraeth yn eu gwneud yn creu senarios peryglus ac ansicr i rai grwpiau yn fwy nag eraill.

“Mae angen i ni symud i ffwrdd o’r hen fodelau, lle mae anghenion unigol yn cael eu hecsbloetio gan gyfranddalwyr a gofal yn cael ei ddogni, i ddulliau perthynol, therapiwtig a dwyochrog, sy’n integreiddio nodweddion moeseg gofal o ystyrioldeb, cyfrifoldeb, cymhwysedd ac ymatebolrwydd o fewn rhwydweithiau gofal.”

 

Fel rhan o’r casgliad, mae ymchwil Dr Maria Berghs yn tynnu sylw at wahaniaethu yn erbyn grwpiau ethnig lleiafrifol a’r ofn o gael eu ‘brysbennu’ oherwydd ableddiaeth, camwahaniaethu ar sail oed a hiliaeth a brofir gan bobl â chlefyd y crymangelloedd, y nodwyd eu bod nhw’n hynod agored i niwed yn glinigol yn ystod y pandemig.

Yn ei herthygl hi, mae Dr Jami McFarland a chydweithwyr o Ganada yn pwysleisio effaith gadarnhaol technoleg ar-lein ar wella mynediad i’r celfyddydau i oedolion hŷn ag anableddau.

Canfu bapur gan Dr Ronny König a Dr Alexander Seifert o Brifysgol Zurich nad oedd COVID-19 wedi cael unrhyw effaith sylweddol ar ddefnydd digidol pobl hŷn yn y Swistir, gan awgrymu bod angen canolbwyntio ar gynnwys a gwneud technoleg yn hygyrch gyda phobl hŷn.

Mae erthygl Amani Alnamnakani yn rhoi disgrifiad manwl o’r gwahaniaethu a brofodd fenyw Fwslimaidd anabl, hŷn yn ystod y pandemig. Mae’n dangos yr effaith anuniongyrchol a gafodd cyfyngiadau COVID ar brofiadau o anabledd, hiliaeth a rhywiaeth ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Mae’r casgliad ymchwil yn dweud bod angen  ystyried modelau gofal amgen sy’n mynd i’r afael ag anghydraddoldeb ac yn arwain at greu system gofal cyfiawn a moesegol.