Gofalwyr Gorllewin Cymru yn ymdrin â lles drwy greadigrwydd

Gofalwyr yn mwynhau gweithgareddau ysgrifennu creadigol a chrefft yn un o'r gweithdai lles

Gofalwyr yn mwynhau gweithgareddau ysgrifennu creadigol a chrefft yn un o'r gweithdai lles

15 Hydref 2024

Mae gofalwyr Gorllewin Cymru yn cael cyfle i ymdrin â lles trwy grefft ac ysgrifennu creadigol, yn rhan o brosiect a gynhelir gan Brifysgol Aberystwyth.

Mae academyddion o Ganolfan Ymchwil y Brifysgol ar gyfer Creadigrwydd a Lles yn gweithio mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Fathom, Credu a’r Ymddiriedolaeth Gofalwyr ar gyfres o ddiwrnodau llesiant creadigol i ofalwyr.

Nod y prosiect, a ariennir gan Sefydliad Shaw, yw creu man diogel ond gweithredol ar gyfer ymdrin ag iechyd a lles a’i wella; gan ddefnyddio gweithgareddau crefft ac ysgrifennu sy’n cynnig ffordd o sicrhau bod pobl yn gysylltiedig â'u lles eu hunain.

Dr Jacqueline Yallop yw Cyfarwyddwr y Ganolfan Creadigrwydd a Lles. Dywedodd:

"Drwy'r Ganolfan Creadigrwydd a Lles, rydym yn ymdrin â’r cysyniad amlochrog o les trwy ymarfer creadigol. Rydym wedi mabwysiadu dull cyfannol ac ychydig yn amgen o fynd i'r afael â lles, gan dynnu ar brofiadau gwneuthurwyr, artistiaid, gwneuthurwyr ffilm, ac awduron.

"Mae'r prosiect penodol hwn yn ceisio cefnogi oedolion a phobl ifanc sy’n ofalwyr ledled gorllewin Cymru, drwy ddefnyddio gweithgareddau creadigol sy'n ysgogi ffyrdd newydd o fynd i’r afael ag iechyd corfforol neu feddyliol a’i reoli, ac yn rhoi cyfle i gyfranogwyr fynegi neu ymdrin â phrofiadau ac emosiynau cymhleth."

Cathy Boyle yw Rheolwr y Gwasanaethau Cymorth i Ofalwyr yn Ymddiriedolaeth Gofalwyr Croesffyrdd Gorllewin Cymru. Dywedodd:

"Mae treulio amser i ffwrdd o’u rôl ofalu ac ymgymryd â diddordebau, hobïau a gweithgareddau yn galluogi gofalwyr di-dâl i gadw golwg ar eu hunain, lleihau straen, a dychwelyd i'w rôl ofalu gyda chydbwysedd ac egni o’r newydd.” 

Yn y digwyddiad cyntaf yn y gyfres, cymerodd grŵp o ofalwyr ran mewn gweithgareddau ysgrifennu creadigol a gwehyddu. Arweiniwyd y sesiwn gan Jo Lambert, awdur a myfyriwr uwchraddedig sy’n astudio Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Aberystwyth, a Clare Clark, Therapydd Galwedigaethol sy'n gweithio gydag Ymddiriedolaeth Fathom.

Ar ôl y gweithdy, dywedodd un cyfranogwr:

"Er fy mod yn bryderus cyn y sesiwn gan ei fod yn wahanol iawn i unrhyw beth yr oeddwn i wedi'i wneud o'r blaen, mae’r cyfeillgarwch y gwnaethom ei feithrin wrth weithio trwy'r gweithgareddau wedi gwneud i mi ddatblygu cyswllt dwfn â phobl eraill ac wedi fy helpu i feithrin agwedd bositif tuag at ymdopi â heriau bywyd bob dydd."

Cynhaliwyd gweithdy wedi’i anelu’n benodol at ofalwyr LHDTC+ yn Llyfrgell Caerfyrddin ar 7 Hydref. Mae sawl gweithdy arall wedi'u cynllunio, gan gynnwys gweithdy wedi'i anelu at ofalwyr o leiafrifoedd ethnig yn Llyfrgell Llanelli ar 8 Tachwedd; a gweithdy wedi'i anelu at ofalwyr gwrywaidd ym Mharc y Scarlets yn Llanelli ar 6 Rhagfyr.   

Dylai unrhyw ofalwyr sydd â diddordeb mewn cymryd rhan mewn gweithdy anfon e-bost at: phj13@aber.ac.uk. Nid oes angen i chi fod wedi gwneud unrhyw o'r gweithgareddau o’r blaen, a darperir yr holl ddeunyddiau.