Diagnosis cyflym o TB – ymchwilwyr i ddatblygu synhwyrydd newydd

Yr Athro Glyn Hewinson, Cadeirydd ymchwil Sêr Cymru yn y Ganolfan Ragoriaeth ar gyfer TB Buchol ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Yr Athro Glyn Hewinson, Cadeirydd ymchwil Sêr Cymru yn y Ganolfan Ragoriaeth ar gyfer TB Buchol ym Mhrifysgol Aberystwyth.

10 Hydref 2024

Mae ymchwilwyr o Gymru wedi derbyn cyllid gwerth bron i £1.2 miliwn i ddatblygu synhwyrydd newydd ar gyfer twbercwlosis mewn pobl ac anifeiliaid a all roi canlyniad ymhen yr awr.

Bydd y dechnoleg yn ddigon syml i unrhyw weithiwr gofal iechyd neu filfeddyg ei ddefnyddio. Bydd yn fwy penodol a mwy sensitif na’r dulliau presennol ynghyd â sylweddol gyflymach na phrofion eraill.

Wedi’i gefnogi gan UKRI, mae'r prosiect yn dwyn ynghyd arbenigwyr ym maes twbercwlosis, meddygaeth filfeddygol, microbioleg, a pheirianneg microdon a ffotoneg, i ddatblygu ateb newydd i’r broblem iechyd byd-eang hon.

Mae TB yn un o brif achosion dioddefaint a marwolaeth mewn pobl ac anifeiliaid ledled y byd a dyma'r ail brif haint sy’n lladd pobl ar ôl COVID-19. Ar hyn o bryd mae tua 10 miliwn o heintiau TB dynol yn cael eu cofnodi bob blwyddyn, gyda chyfradd marwolaeth o 1.8 miliwn y flwyddyn.

Mae diffyg diagnosis cywir a chyflym, yn enwedig mewn gwledydd tlotach, yn aml yn arwain at ddiagnosis anghywir a thriniaeth aneffeithiol o gleifion TB.

Dywedodd yr Athro Glyn Hewinson, Cadeirydd ymchwil Sêr Cymru yn y Ganolfan Ragoriaeth ar gyfer TB Buchol ym Mhrifysgol Aberystwyth:

“Gall effaith TB fod yn ddinistriol, ac felly bydd datblygu ffordd o wneud diagnosis yn gyflym yn gwneud gwahaniaeth mawr. Mae dod â’r epidemig TB dynol i ben erbyn 2050 yn nod datblygu cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig, ac mae datblygu profion diagnostig cyflym mwy effeithiol yn argymhelliad allweddol gan Sefydliad Iechyd y Byd. Rydym ni’n edrych ymlaen at weithio gyda’n cydweithwyr yng Nghaerdydd er mwyn gwneud cynnydd yn y maes ymchwil pwysig hwn.”

Mae nifer uchel yr achosion o TB mewn gwartheg mewn rhannau o'r DU yn cael effaith fawr ar fywoliaeth a lles ffermwyr. Mae goruchwyliaeth, profion diagnostig, difa moch daear a brechu yn costio cyfanswm o £100 miliwn y flwyddyn i lywodraeth y DU yn unig.

Dywedodd cyd-arweinydd y prosiect, Yr Athro Les Baillie, Athro Microbioleg yn yr Ysgol Fferylliaeth a’r Gwyddorau Fferyllol ym Mhrifysgol Caerdydd:

"Mae twbercwlosis yn broblem benodol i ffermwyr yng Nghymru sydd wedi colli gwartheg o ganlyniad i TB buchol ledled y wlad. Mae diagnosis o gamau cynnar yr haint yn heriol oherwydd diffyg profion cyflym a chywir.

"Er mwyn mynd i'r afael â hyn, rydyn ni’n gweithio gyda chydweithwyr o Brifysgol Aberystwyth i ddatblygu prawf mewn amser real sy'n gallu canfod presenoldeb y pathogen mewn samplau clinigol ac amgylcheddol."

Bydd arbenigwyr Aberystwyth yn arwain ar ddatblygu a gwerthuso dyfais optegol a fydd am y tro cyntaf yn ceisio datrys problemau gydag amhureddau a sensitifrwydd sampl.

Dywedodd yr Athro Nigel Copner, Pennaeth yr Ysgol Fusnes ac Arweinydd Academaidd yr Uned Beirianneg ym Mhrifysgol Aberystwyth:

"Mae PCR yn cynnig y safon aur wrth ganfod pathogenau ond mae angen prosesu arbennig ar gyfer sensitifrwydd uchel. Fodd bynnag, mae’r rhan fwyaf o ddulliau canfod yn cael trafferth gydag amhureddau sampl.

“Gan ddefnyddio’r technegau a gafodd eu datblygu yng Nghaerdydd, mae’r tîm ffotoneg ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi arloesi dull sy’n caniatáu sensitifrwydd uchel i ganfod samplau ar y safle heb fod angen puro sy’n cymryd llawer o amser. Os bydd yn llwyddiannus, bydd y dechneg newydd hon yn caniatáu am y tro cyntaf sensitifrwydd yn agos at lefel PCR ar adeg cymryd y sampl, gan drawsnewid y ffordd y gellir rheoli pandemigau pathogen.”

Bydd buddsoddiad pellach yn y prosiect yn caniatáu lleihau ei faint a’i gost i greu synhwyrydd syml, cost isel. Bydd gwledydd sy'n datblygu yn elwa ar hyn yn arbennig.

Mae modd addasu'r platfform yn hawdd i ganfod y rhan fwyaf o bathogenau eraill, gan gynnwys SARS-CoV-2 ac MRSA, felly gallai ddod yn offeryn pwysig i helpu i reoli lledaeniad pandemig arall yn y dyfodol.

Mae'r prosiect wedi’i ariannu gan gynllun peilot dull ymatebol cyngor ymchwil UKRI (CRCRM), sy'n cefnogi syniadau rhyngddisgyblaethol newydd a chreadigol sy'n dod i'r amlwg o gymuned ymchwil y DU. Mae'r prosiect wedi derbyn £1,199,669 ac mae'n un o 36 prosiect sydd wedi’i ariannu gan gynllun CRCRM UKRI gwerth £32.4 miliwn.