Ap i amddiffyn ffermydd Nigeria rhag ffliw adar
Dr Edore Akpokodje
09 Hydref 2024
Mae ymchwilwyr o Nigeria a Chymru yn datblygu ap a llwyfan gwybodaeth newydd i helpu i amddiffyn ffermydd dofednod a ffermwyr rhag ffliw adar.
Mae’r fenter Gwylio Ffliw Adar yn cael ei harwain gan grŵp o ymchwilwyr ac entrepreneuriaid ac mae wedi’i chynllunio’n benodol ar gyfer tyddynwyr.
Yn Nigeria, mae dofednod yn cynrychioli 33% o gyfanswm y defnydd o brotein ac yn cyfrannu 25% at yr economi amaethyddol.
Mae arolygon yn dangos mai dim ond 60% o ffermwyr y wlad sy’n ymwybodol o ffliw adar, ac mae llai nag un o bob chwech yn deall y gall drosglwyddo o anifeiliaid i bobl.
Mae mwyafrif helaeth y ffermwyr dofednod yn Nigeria yn dyddynwyr sy’n gweithio o’u iard gefn ac yr ydym yn gwybod eu bod yn hwyluso trosglwyddo ffliw adar.
Ac mae dros 40% o'r ffermwyr hyn heb wybodaeth ddigonol am arferion bioddiogelwch, sy'n golygu eu bod nhw a'u dofednod mewn perygl.
Mae Dr Edore Akpokodje, darlithydd Cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn goruchwylio’r prosiect. Dywedodd:
“Mae dofednod yn hanfodol ar gyfer yr economi a diogelwch bwyd yn Nigeria, gan ddarparu ffynhonnell hanfodol o brotein anifeiliaid ac adnoddau hanfodol ar gyfer cartrefi incwm isel. Nod y prosiect yw gwella ymwybyddiaeth tyddynwyr Nigeria o ffliw adar. Trwy gynnig cyngor arbenigol, data gwyliadwriaeth, a rhannu arfer gorau, mae'r llwyfan yn ceisio gwella rheoli clefydau a sicrhau cynaliadwyedd diwydiant dofednod Nigeria, yn ogystal ag iechyd ffermwyr ac ecosystemau.
“Gyda chynnydd yn y defnydd o ffonau symudol a chysylltedd gwledig ymhlith tyddynwyr, nod y platfform hwn yw adeiladu ar y momentwm hwn trwy ddarparu gwybodaeth hygyrch, all-lein a all wella iechyd pobl, anifeiliaid, ac ecosystemau.”
Gall ffliw adar hefyd gael ei drosglwyddo i adar gwyllt, sy'n cyfrannu at ledaeniad y clefyd ac achosion ledled y byd.
Bydd yr ymgyrch ymwybyddiaeth yn cael ei harwain gan yr Ymgyrch Dileu Clefydau a Esgeuluswyd, corff anllywodraethol yn Nigeria sy'n gweithio i fynd i’r afael â chlefydau heintus mewn cymunedau gwledig. Dywedodd Samson Omeiza Balogun, myfyriwr graddedig MSc mewn parasitoleg o Brifysgol Aberystwyth a rheolwr yr ymgyrch:
“Mae grymuso ffermwyr gyda gwybodaeth ac adnoddau yn hanfodol i atal lledaeniad ffliw adar, ac mae arloesi yn allweddol i sicrhau nad ydym ni’n gadael neb ar ôl.”
Bydd yr ap a’r llwyfannau’n cael eu dylunio mewn ymgynghoriad â ffermwyr a’r sectorau preifat a chyhoeddus.
Ychwanegodd Segun Adepoju, sylfaenydd Poultry Connect:
“Ein nod yw manteisio ar dechnoleg a rhannu gwybodaeth i hyrwyddo’r sector ddofednod yn Nigeria.”
Bydd yr ap a’r platfform yn cael eu datblygu gan Omeva Consulting, cwmni o Namibia sy’n arbenigo mewn harneisio data ac atebion technoleg gwybodaeth ar gyfer tyddynwyr.
Dywedodd Maria Luisa de la Puerta, cynrychiolydd Omeva Consulting:
“Rydym ni’n llawn cyffro am feithrin cydweithio ymhlith gwledydd Affrica ac i gyfrannu ein harbenigedd a’r gwersi sy’n cael eu dysgu ar draws y cyfandir i’r fenter bwysig hon.”
Bydd yr ymgyrch yn dechrau gydag arolwg cenedlaethol cynhwysfawr i gasglu data ar arferion ffermio cyfredol, ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o ffliw adar ymhlith tyddynwyr. Gall ffermwyr sydd â diddordeb gymryd rhan yma: https://forms.gle/A24vquL8v7EXfoFH6
Mae’r prosiect wedi’i ariannu gan yr Her Ymchwil Trawsnewidiol, a drefnwyd gan Fforwm Bwyd y Byd mewn cydweithrediad â Sefydliad Bwyd ac Amaeth y Cenhedloedd Unedig (FAO UN) a Phrifysgol ac Ymchwil Wageningen. Mae'r gronfa hon yn cydnabod cynigion ymchwil arloesol gan ymchwilwyr ifanc sy'n canolbwyntio ar atal milheintiau sydd ar gynnydd, a hynny drwy ddull byd-eang a chyfannol.
Mae ArewaLadies4Tech, menter gan Data Science Nigeria sydd wedi ymrwymo i rymuso menywod Gogledd Nigeria, hefyd yn cefnogi'r prosiect a'r ymgyrch ymwybyddiaeth.