Galwad am bethau cofiadwy am yr Hen Goleg fel rhan o Ddiwrnod y Sylfaenwyr 2024
Wrth glirio adeilad De Seddon yr Hen Goleg, daeth gweithwyr o hyd i ddarn o bren wedi’i guddio yn un o’r waliau gyda’r geiriau “Home Rule for Ireland” wedi ei ysgrifennu arno mewn inc du.
07 Hydref 2024
Mae gwahoddiad i’r cyhoedd ddod ag unrhyw bethau cofiadwy sydd ganddynt am yr Hen Goleg i’r Bandstand yn Aberystwyth brynhawn dydd Gwener 11 Hydref, fel rhan o ddathliadau Diwrnod Sylfaenwyr Prifysgol Aberystwyth.
Byddai tîm archifau’r Brifysgol ac ymchwilwyr sy’n gweithio ar brosiect yr Hen Goleg yn falch iawn o weld hen ffotograffau, rhaglenni ac unrhyw bethau cofiadwy eraill sy’n gysylltiedig â’r Brifysgol.
Byddant yn y Bandstand ar y Prom rhwng 12pm a 4pm, ac yn gallu sganio a dychwelyd unrhyw ffotograffau neu ddogfennau, ond mi fyddant hefyd yn hapus i drafod rhoddion i’r archif.
Mae’r digwyddiad yn rhan o raglen diwrnod i nodi pen-blwydd agor y Brifysgol yn Hydref 1872 pan groesawodd y Cofrestrydd-Lyfrgellydd, Thomas Charles Edwards, bump ar hugain o fyfyrwyr i westy a oedd wedi ei addasu ac a fyddai'n dod yn “Brifysgol y bobl”.
Cynhelir y digwyddiad gan dîm Datblygu a Chysylltiadau Alumni’r Brifysgol, DARO.
Dywedodd Cyfarwyddwr DARO, Lyndsey Stokes: “Mae’n bleser gennym gynnal dathliadau Diwrnod Sylfaenwyr eleni ac rydym ni’n edrych ymlaen at groesawu pawb i ymuno â ni wrth i ni nodi ein gwerthfawrogiad o’r rhai y gwnaeth eu gweledigaeth drawsnewid hen westy anorffenedig yn Goleg Prifysgol cyntaf Cymru, a gosod y sylfeini ar gyfer sefydliad sydd wedi agor drysau i genedlaethau o bobl ifanc o bob cwr o’r byd dros 150 o flynyddoedd.”
“Mae’r prosiect uchelgeisiol i roi bywyd newydd i’r Hen Goleg wedi datgelu llawer o’i hanes, gan gynnwys olion y tân mawr a ddinistriodd rhan ogleddol yr adeilad ym mis Gorffennaf 1885. Edrychwn ymlaen at adrodd hanes y Brifysgol, o’r blynyddoedd cynnar hyd at heddiw, ym mharth Byd Gwybodaeth a byddai’n hyfryd gweld a oes unrhyw beth a allai fod wedi cael ei drosglwyddo i lawr dros y cenedlaethau yn lleol yma yn Aberystwyth y gallem ei ychwanegu at hanes hynod yr adeilad gwych hwn.”
Hunan Lywodraeth i Iwerddon
Wrth glirio adeilad De Seddon yr Hen Goleg, daeth gweithwyr o hyd i ddarn o bren wedi’i guddio yn un o’r waliau gyda’r geiriau “Home Rule for Ireland” wedi ei ysgrifennu arno mewn inc du. Ac roedd yr ochr arall wedi'i arwyddo gan John Williams o 8 Stryd y Farchnad, â'r dyddiad “Chwefror 1888”.
Yn sgil ymchwil gan Faye Thompson, Cydlynydd Casgliadau prosiect yr Hen Goleg, gwelwyd bod enw John Williams yn ymddangos yng nghofnodion Pwyllgor Adeiladu’r Brifysgol o 1888, a’i fod wedi gweithio fel saer coed y coleg rhwng 1888 a 1892.
Meddai Faye: “Mae John Williams yn un o’r nifer fawr o bobl sydd wedi gweithio ar yr Hen Goleg dros y ganrif a hanner ddiwethaf ac wedi cyfrannu at ei ddatblygiad. Mae’r darn o bren sy’n dwyn ei enw yn rhoi cipolwg i ni ar y gorffennol, pwy ydoedd, lle’r oedd yn byw, beth oedd ei waith a’r hyn a gredai ynddo, ond byddai’n wych dysgu mwy amdano.”
“Yn yr un modd, byddem ni’n falch iawn o glywed gan unrhyw un a hoffai rannu eitemau sy’n ymwneud â’r Hen Goleg a’r Brifysgol mewn rhyw ffordd, ac a fyddai’n ein galluogi i ychwanegu at hanes gwych y sefydliad hwn a’r dref.”
Fel rhan o’r diwrnod, bydd aelodau tîm y prosiect wrth law i rannu’r cynnydd ar brosiect yr Hen Goleg a bydd cyfle hefyd i glywed sut y gall cyn-fyfyrwyr ymwneud â’r Brifysgol, trwy Gymdeithas y Cyn-fyfyrwyr (OSA) neu trwy wirfoddoli.
Bydd cyfle hefyd i ddeall sut mae ymchwilwyr yn y Brifysgol yn gweithio gyda golau a lliw ar ExoMars, taith yr Asiantaeth Ofod Ewropeaidd i’r blaned Mawrth, ac i gwrdd â chynrychiolwyr o’r elusen ieuenctid Area 43 o Aberteifi sy’n cydweithio ar ddatblygu canolfan ieuenctid ddwyieithog barhaol gyntaf Aberystwyth a fydd yn cael ei harwain gan bobl ifanc, ac a fydd yn rhan o’r Hen Goleg ar ei newydd wedd.