Myfyriwr amaeth Aberystwyth yw’r gorau ym Mhrydain

Enillydd myfyriwr amaeth y flwyddyn y Farmers Weekly, Logan Williams, sydd newydd raddio o Brifysgol Aberystwyth. Hawlfraint: Farmers Weekly

Enillydd myfyriwr amaeth y flwyddyn y Farmers Weekly, Logan Williams, sydd newydd raddio o Brifysgol Aberystwyth. Hawlfraint: Farmers Weekly

07 Hydref 2024

Mae ffermwr ifanc o Sir Gaerfyrddin sydd newydd raddio o Brifysgol Aberystwyth wedi ennill gwobr y Farmers Weekly am y myfyriwr amaeth gorau ym Mhrydain.

Gwobrau’r Farmers Weekly yw’r mwyaf mawreddog yn y diwydiant amaeth, ac maent yn cydnabod llwyddiannau ffermwyr ledled y wlad.

Curodd Logan Williams, a raddiodd mewn amaethyddiaeth gyda gwyddor anifeiliaid o Brifysgol Aberystwyth, fyfyrwyr eraill i ennill y wobr o fri am y myfyriwr amaeth gorau.

Mae wedi cynrychioli Cymru mewn treialon cŵn defaid ar lefel ryngwladol a byd-eang.

Astudiodd lawer o’i gwrs drwy gyfrwng y Gymraeg a buodd yn helpu i redeg fferm ochr yn ochr â'i rieni yn Nhirmynydd yn Sir Gaerfyrddin wrth astudio. Ac yntau newydd raddio, fe ymunodd â’r cwmni bwyd Dunbia’n ddiweddar.

Dywedodd y beirniaid: “Mae Logan yn fyfyriwr ymroddedig, a llwyddiannus iawn ac sy’n angerddol dros amaethyddiaeth a’i gymuned leol. Nid yw’r hyn y mae wedi’i gyflawni eisoes yn ddim llai na rhyfeddol.”

Wrth ymateb i’w fuddugoliaeth, dywedodd Logan:

“Dwi jyst wrth fy modd o fod wedi ennill - mae’n anhygoel. Dwi mor ddiolchgar am yr holl gefnogaeth dwi wedi’i derbyn oddi wrth fy narlithwyr a’m teulu. Amaethyddiaeth yw un o’r diwydiannau hynny - a'r pynciau - sydd jyst yn cario ymlaen i roi. Mae yna ddatblygiadau cyson mewn gwyddoniaeth a thechnoleg sy’n sicrhau darpariaeth bwyd ar gyfer y boblogaeth gynyddol.”

“Er mwyn i mi allu bod ar y fferm cymaint â phosibl dwi wedi defnyddio rhai technegau astudio creadigol, megis gwrando yn ôl ar ddarlithoedd trwy Bluetooth yn y pic-yp wrth gludo defaid o fferm i fferm. Dwi mor falch ei bod i gyd wedi talu ar ei ganfed - mae ennill y wobr yn ffordd grêt o orffen fy nghyfnod addysg.”

Fe lwyddodd Caryl Davies, myfyriwr arall o Brifysgol Aberystwyth, i gyrraedd y rhestr fer derfynol o dri ar gyfer y wobr yn ogystal. 

Yn wreiddiol o Eglwyswrw yn Sir Benfro, fe raddiodd gyda dosbarth cyntaf mewn amaethyddiaeth a gwyddor anifeiliaid. Cafodd hi ei magu ar fferm ddefaid a gwartheg ac mae hi’n weithgar mewn cystadlaethau’r Cynghrair Ddefaid Cenedlaethol gan gynrychioli’r Deyrnas Gyfunol mewn trin defaid.

Dywedodd beirniaid y wobr: “Gall Caryl yn trio ei llaw at unrhyw beth, ac mae’n gwneud popeth gyda brwdfrydedd i safon eithriadol o uchel. Mae ei hangerdd dros y sector yn ddigamsyniol.”

Dywedodd Caryl:

“Roedd hi’n teimlo mor sbesial i fod yn rhan o’r gwobrau hyn. Yn ystod y cwrs dwi wedi gallu astudio modiwlau fel geneteg, maeth, iechyd milfeddygol ac agronomeg, lle dwi wedi dysgu nifer o bethau newydd sy’n gallu cael eu cymhwyso i waith ymarferol ar y fferm, megis deall mwy am y dognau sydd eu hangen ar dda byw. Trwy ymestyn fy ngorwelion i feysydd newydd yn ystod fy mlwyddyn fel prentis a’m gradd, dwi wedi cael y fantais fawr o brofiadau, sgiliau a gwybodaeth newydd.”

Dywedodd Dr Manod Williams, Darlithydd Amaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth:

“Mae’n destun balchder mawr i ni weld ein myfyrwyr yn llwyddo -  ‘dyn ni wrth ein bodd o’u gweld yn gwneud cystal ar lefel mor uchel â’r gwobrau hyn. Mae’n bleser cael dysgu’r bobl ifanc dalentog hyn yma yn Aberystwyth - pobl sy’n llawn ymroddiad at y diwydiant a’i ddyfodol.

“Mae amaeth yn rhan hollol ganolog o fywyd a chymunedau yma yng ngorllewin Cymru ac yn wir y genedl gyfan. Mae’n fraint i allu cyfrannu yn y Brifysgol at ddatblygiad ein cymunedau gwledig.”