Arbenigwyr biomas y byd yn ymgynnull yn Aberystwyth
Rhai o fynychwyr y gynhadledd yn ymweld â phlotiau ymchwil IBERS ym Mhrifysgol Aberystwyth
03 Hydref 2024
Mae arbenigwyr biomas rhyngwladol wedi ymgynnull ym Mhrifysgol Aberystwyth i drin a thrafod gallu cnydau i ddatgarboneiddio amaeth a diwydiannau eraill.
Mae cnydau ynni a biomas yn gallu cyflenwi bioynni, cynnyrch fferyllol, gweithgynhyrchu gwyrdd a deunydd adeiladu, gan gyfrannu at gyrraedd targedau sero net.
Roedd cynrychiolwyr o Japan, yr Unol Daleithiau, yr Almaen ac Ynysoedd y Canary ymysg mynychwyr cynhadledd o fri Cynghrair y Biolegwyr Cymhwysol yn y Coleg ger y Lli.
Fel rhan o’r digwyddiadau tridiau, ymwelodd y mynychwyr â chyfleusterau yn Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) yng Ngogerddan, gan gynnwys Canolfan Genedlaethol Ffenomeg Planhigion, y banc hadau o bwys cenedlaethol ac ystod o dreialon cnydau biomas.
Dywedodd yr Athro Iain Donnison, Pennaeth IBERS ym Mhrifysgol Aberystwyth:
“Mae’n bleser croesawu cymaint o arbenigwyr o bob rhan o’r byd i Aberystwyth. Mae cnydau biomas ac ynni yn dod yn rhan gynyddol bwysig o fynd i’r afael â newid hinsawdd o ystyried pwysau’r argyfwng. Mae’r maes wedi ehangu’n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf gyda nifer o raglenni ymchwil o bwys yn cael eu sefydlu’n ddiweddar.
“Mae gan y gynhadledd hon nod pwysig sef dod ag ymchwilwyr rhyngwladol, i rannu gwersi o wahanol gnydau, i gyfnewid syniadau a meithrin cydweithio agosach, a thrwy hynny sicrhau y gall biomas a chnydau ynni gyflawni eu potensial ar gyfer y bobl a’r blaned.”
Ychwanegodd Dr Gerry Tuskan, Cyfarwyddwr a Phrif Weithredwr Canolfan Arloesi Bioynni yn Labordy Oak Ridge yn yr Unol Daleithiau, a fynychodd y gynhadledd:
“Mae wedi bod yn bleser ymweld ag Aberystwyth a thrin a thrafod y cnydau pwysig hyn. Roedd yn braf yn enwedig i weld cymaint o wahanol gnydau ochr yn ochr â’i gilydd ar safle arddangos Cyswllt Biomas. Er bod llawer o academyddion yn gweithio ar un o’r cnydau yn unig, beth sy’n bwysig i dyfwyr potensial yw gallu cymharu â gwrthgyferbynnu’r opsiynau sydd ar gael iddyn nhw.”