Rôl hyrwyddwr cydraddoldeb i academydd o Brifysgol Aberystwyth ar fenter amrywiaeth newydd ledled y DG

Dr Hannah Dee

Dr Hannah Dee

01 Hydref 2024

Mae sylfaenydd un o gynhadleddau mwyaf dylanwadol y Deyrnas Gyfunol sy’n hyrwyddo menywod mewn technoleg ar fin chwarae rhan flaenllaw mewn menter newydd i fynd i’r afael â heriau amrywiaeth.

Dr Hannah Dee, sylfaenydd Colocwiwm Merched Lovelace BCS ac uwch ddarlithydd mewn cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Aberystwyth, yw Hyrwyddwr Cydraddoldeb Rhywedd ar gyfer Hwb+ Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant Newydd (EDI Hub+).

Bydd yr Hwb yn harneisio ymdrech gyfunol y gymuned ymchwil ac arloesi ym meysydd peirianneg, y gwyddorau ffisegol a mathemategol i fynd i’r afael â heriau amrywiaeth sy’n benodol i’r sector.

Cefnogir y prosiect pedair blynedd gan Gyngor Ymchwil y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg UKRI (EPSRC) drwy fuddsoddiad o £2.5 miliwn.

Mae’r Hwb yn cynnwys wyth partner prifysgol gan gynnwys Prifysgol Aberystwyth, ac mae’n cael ei arwain gan Brifysgol Leeds.

Bydd Dr Dee, a gafodd MBE am wasanaeth i ‘Dechnoleg ac i Fenywod yn y Sector Technoleg Gwybodaeth’ yn rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Brenin eleni, yn arwain y prosiect yng Nghymru.

Dywedodd Dr Dee: “Rwy’n falch iawn o fod yn gweithio fel un o’r Hyrwyddwyr Cydraddoldeb ar y prosiect hwn. Y nod yma yw creu lleoedd gwell i bawb weithio, waeth beth fo’u hoedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas, partneriaeth sifil, beichiogrwydd, hil, credoau, rhyw, neu gyfeiriadedd rhywiol, ar sail yr hyn sy’n gweithio mewn gwirionedd ac sy’n werth ei wneud.

“Yn y pen draw, mae hyn yn ymwneud ag adeiladu systemau a fydd yn diffinio ein dyfodol fel rhywogaeth, sy’n gynhwysol ac yn gwneud y gorau o alluoedd pawb. Mae yna brinder sgiliau ac mae allgau unrhyw grwpiau, hyd yn oed yn anfwriadol, o ddatblygiad technolegau newydd megis systemau AI, yn golygu ein bod ni mewn perygl o ailadrodd y mathau o broblemau a welwn ni nawr, lle mae pobl yn cael eu heithrio o sefydliadau, systemau a hyd yn oed adeiladau oherwydd nad ydyn nhw wedi’u cynllunio gyda hygyrchedd mewn golwg”, ychwanegodd.

Bydd EDI Hub+ yn gweithredu fel canolbwynt gweithgaredd a gwybodaeth am arfer da ledled y Deyrnas Gyfunol.

Gan ddefnyddio arbenigedd a mewnwelediad gan bobl a sefydliadau o'r tu mewn a thu hwnt i'r sector, bydd y ganolfan yn darparu arweiniad i nodi heriau amrywiaeth sy'n unigryw i wyddorau peirianyddol, ffisegol a mathemategol.

Bydd yn mynd i'r afael â'r heriau hyn drwy gyflwyno mesurau a fydd yn cael eu hintegreiddio a'u mabwysiadu o fewn y gymuned.

Dywedodd Cadeirydd Gweithredol EPSRC, yr Athro Charlotte Deane: “Mae’r heriau amrywiaeth rydym ni’n eu hwynebu yn amddifadu unigolion o gyfleoedd, gyda’r canlyniad na all y system ymchwil ac arloesi, a chymdeithas yn ehangach, elwa o’u cyfraniadau a’u safbwyntiau.

“Nod EDI Hub+ yw mynd i’r afael â’r heriau parhaus a welwn ni ar draws y gymuned gwyddorau peirianneg, ffisegol a mathemategol trwy harneisio ein gwybodaeth gronedig gyfunol.

“Bydd yn atgyfnerthu gwaith mentrau presennol ac yn arwain rhaglenni gwaith newydd, gan sicrhau y gallwn ni ddod o hyd i’r atebion gorau i heriau sy’n benodol i’r 

cymunedau peirianneg a’r gwyddorau ffisegol a mathemategol.”

Mae’r Hwb yn un o’r gweithgareddau yng nghynllun gweithredu tair blynedd Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant y cyngor ymchwil.

Drwy weithio gyda phrifysgolion, cymdeithasau dysgedig, partneriaid mewn diwydiant, cyrff proffesiynol a chydweithredwyr rhyngwladol, bydd yr Hwb yn arwain mentrau i rymuso unigolion ar draws y rhan hon o’r gymuned wyddonol.

Dywedodd yr Athro Louise Jennings, cyd-arweinydd y prosiect, o Ysgol Peirianneg Fecanyddol ym Mhrifysgol Leeds:

“Rydym ni’n angerddol am y prosiect hwn gan ein bod ni’n teimlo ei bod yn bryd canolbwyntio ar drawsnewid parhaus ar sail tystiolaeth ar draws y gymuned ymchwil ac arloesi ym maes peirianneg, y gwyddorau ffisegol a mathemategol.

“Ein nod yw gweld prosesau teg a chynhwysol yn cael eu gwreiddio a’u normaleiddio mewn arferion bob dydd.

“Mae lefel y diddordeb rydym ni wedi’i dderbyn eisoes gan sefydliadau sydd eisiau cymryd rhan a phartneriaid sy’n awyddus i weithio gyda ni ar hyn, yn dangos bod awydd am newid ac mae sefydliadau eisoes yn ymgysylltu â’r broses.”

Dywedodd yr Athro Vania Dimitrova, cyd-arweinydd y prosiect, o Ysgol Cyfrifiadureg Prifysgol Leeds: “Rydym ni wrth ein bodd ein bod wedi dod â thîm rhyngddisgyblaethol mor gryf o hyrwyddwyr cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant at ei gilydd sydd yn meddu ar arbenigedd sy’n gweddu ac sydd â hanes o fynd i’r afael â heriau yn y maes hwn i newid pethau.

“Trwy’r EDI Hub+, byddwn ni’n nodi, yn meithrin ac yn cyd-greu ymyriadau ym maes cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, ac yn eu datblygu ar gyfer eu cyflwyno mewn modd cynaliadwy er mwyn iddyn nhw gael eu mabwysiadu’n eang.

“Rydyn ni’n credu y bydd y gweithredoedd hyn yn arwain at ddyfodol tecach, gan sicrhau bod pawb, gan gynnwys y rhai sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, yn cael eu clywed, eu deall, a’u galluogi i ddilyn eu nodau ac i lwyddo.”

Prifysgolion partner yr EDI Hub+ yw Aberystwyth, Leeds, Durham, Heriot-Watt, Bradford, Bryste, East Anglia ac Efrog.