Y Brifysgol yn cynnal digwyddiad ar dwyllwybodaeth yn rhan o gyfres o sgyrsiau uchel ei bri

01 Hydref 2024

Bydd arbenigwyr ac academyddion ym maes diwydiant y cyfryngau yn trafod yr her o ddiogelu cywirdeb adroddiadau newyddion mewn digwyddiad ym Mhrifysgol Aberystwyth yn ddiweddarach y mis hwn.

Mae'r Brifysgol yn cynnal y digwyddiad diweddaraf mewn cyfres o sgyrsiau uchel eu bri sy'n trafod materion geowleidyddol sy'n wynebu'r DU a'r Unol Daleithiau.

Y siaradwyr gwadd yn y digwyddiad 'Disinformation today' fydd Mary Jordan a Kevin Sullivan, Golygyddion Cyswllt yn The Washington Post, a Shayan Sardarizadeh, Uwch Newyddiadurwr yn BBC Verify.

Mae Mary Jordan a Kevin Sullivan yn newyddiadurwyr sydd wedi ennill Gwobr Pulitzer. Nhw oedd cyd-benaethiaid y Washington Post yn Tokyo, Dinas Mecsico a Llundain. Maent wedi gweithio ar lawer o straeon mwyaf y blynyddoedd diwethaf, ym Mhrydain ac o ddwsinau o wledydd ar chwe chyfandir, ac maent wedi ennill nifer o wobrau am eu gwaith. 

Mae Shayan Sardarizadeh yn Uwch Newyddiadurwr sy'n adrodd ar dwyllwybodaeth, damcaniaethau cynllwynio, dilysu, Deallusrwydd Artiffisial, ymchwiliadau ffynhonnell agored, ac eithafiaeth, i dîm twyllwybodaeth BBC Monitoring fel rhan o BBC Verify.

Dywedodd yr Athro Tim Woods, Athro Llenyddiaeth Saesneg ac Americanaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth:

"Rydym yn falch iawn o groesawu tri arbenigwr blaenllaw o’r byd newyddion, ac i glywed eu safbwyntiau ar natur twyllwybodaeth, sut mae’n cael ei lledaenu, a’i heffaith. Mae’r cynnydd mewn gwybodaeth gamarweiniol a newyddion ffug wedi dod yn her ddybryd i gymdeithasau democrataidd, ac mae hyd yn oed yn fwy arwyddocaol yn ystod y flwyddyn etholiad hanesyddol hon, felly mae'r digwyddiad hwn yn amserol iawn."

Cynhelir 'Disinformation today' am 18:00 ddydd Mercher 9 Hydref yn Theatr y Werin yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth ar Gampws Penglais. Cynhelir derbyniad cyn y ddarlith am 6pm.  Gellir archebu lleoedd yn rhad ac am ddim yn:
https://www.eventbrite.com/e/disinformation-today-tickets-1022574436667

Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal gan Brifysgol Aberystwyth mewn cydweithrediad â Llysgenhadaeth yr Unol Daleithiau a Grŵp Gwleidyddiaeth America o Gymdeithas Astudiaethau Gwleidyddol y DU.  

Mae'n rhan o'r gyfres o sgyrsiau ar daith a gynhelir ym mhrifysgolion y DU o dan y teitl ‘Unfolding Our Shared Future’.  

Bydd y digwyddiad hefyd yn cael ei ffrydio'n fyw yn https://bit.ly/3ZLiCcq, a bydd recordiad ar gael yn archif y gyfres.