Gwawr newydd ar gyfer rhybuddion storm ofod i helpu i warchod technoleg y Ddaear

Alldafliad màs coronaidd yn ffrwydro o’r Haul yn 2015. Llun: NASA Goddard Flight Center.

Alldafliad màs coronaidd yn ffrwydro o’r Haul yn 2015. Llun: NASA Goddard Flight Center.

30 Gorffennaf 2024

Cyn hir, gellid rhagweld stormydd gofod yn fwy cywir nag erioed o'r blaen diolch i naid enfawr ymlaen yn ein dealltwriaeth o’r union adeg y gallai ffrwydrad solar nerthol daro'r Ddaear.

Dywed gwyddonwyr ei fod bellach yn bosibl rhagweld yr union gyflymder y mae alldafliad màs coronaidd yn ei deithio a phryd y bydd yn taro’n planed - hyd yn oed cyn iddo ffrwydro'n llwyr o'r Haul.

Ffrwydradau o nwy a meysydd magnetig yw alldafliadau màs coronaidd, sy'n cael eu gollwng i'r gofod o atmosffer yr Haul.

Gallant achosi stormydd geomagnetig sydd â'r potensial effeithio’n andwyol ar dechnoleg y Ddaear oddi mewn i orbit ac ar wyneb ein planed, a dyna pam mae arbenigwyr ledled y byd yn gweithio’n ddyfal i wella rhagolygon tywydd y gofod.

Gallai datblygiadau fel yr un yma gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth wneud gwahaniaeth enfawr wrth helpu i ddiogelu seilwaith sy’n hanfodol i’n bywydau bob dydd ac fe gyflwynwyd eu canfyddiadau yng Nghyfarfod Seryddiaeth Cenedlaethol y Gymdeithas Seryddiaeth Frenhinol yn Hull.

Gwnaethant y darganfyddiad ar ôl astudio ardaloedd penodol ar yr Haul a elwir yn 'Rhanbarthau Gweithredol', sydd â meysydd magnetig cryf lle caiff alldafliadau màs coronaidd eu creu. Bu'r ymchwilwyr yn monitro newidiadau yn yr ardaloedd hyn yn y cyfnodau cyn, yn ystod ac ar ôl ffrwydrad.

Agwedd hanfodol y buon nhw’n yn edrych arni oedd "uchder critigol" y Rhanbarthau Gweithredol, sef yr uchder y mae'r maes magnetig yn troi’n ansefydlog ac sy’n gallu arwain at alldafliad.

“Trwy fesur sut mae cryfder y maes magnetig yn lleihau gydag uchder, gallwn bennu’r uchder critigol hwn,” meddai prif ymchwilydd y prosiect Harshita Gandhi, sy’n ffisegydd solar ym Mhrifysgol Aberystwyth.

“Gellir wedyn defnyddio’r data yma ynghyd â model geometrig a ddefnyddir i fesur gwir gyflymder alldafliadau màs coronaidd mewn tri dimensiwn, yn hytrach na dau yn unig, sy’n hanfodol ar gyfer pennu rhagfynegiadau manwl gywir.

“Mae ein canfyddiadau yn amlygu perthynas gref rhwng yr uchder critigol ar ddechrau alldafliad a gwir gyflymder alldafliad. Mae’r mewnwelediad yma’n helpu ni i ddarogan cyflymder yr alldafliad ac, o ganlyniad, pryd bydd yn cyrraedd y Ddaear, hyd yn oed cyn iddo dorri’n rhydd yn llwyr.

“Tra fod y gydberthynas rhwng uchder critigol a chyflymder yr alldafliad yn ddefnyddiol, ni ddylai fod yr unig sail ar gyfer rhagfynegiadau mewn rhanbarthau gweithredol newydd oherwydd eu cymhlethdod magnetig. Mae angen model cynhwysfawr sy'n ymgorffori paramedrau ac elfennau ansicr ychwanegol ar gyfer rhagfynegiadau dibynadwy.

Pan fydd yr alldafliadau yma’n taro'r Ddaear gallant ysgogi storm geomagnetig sy'n gallu cynhyrchu aurorae trawiadol, y cyfeirir atyn nhw’n aml yn hemisffer y gogledd fel Goleuadau’r Gogledd.

Ond mae potensial hefyd gan y stormydd i darfu ar systemau hanfodol yr ydym yn dibynnu arnyn nhw’n ddyddiol, gan gynnwys lloerennau, gridiau pŵer a rhwydweithiau cyfathrebu, a dyna pam mae gwyddonwyr ledled y byd yn gweithio'n galed i wella ein gallu i ddarogan pryd y bydd alldafliadau’n taro'r Ddaear.

Mae gofyn am wybodaeth fwy cywir ynghylch cyflymder alldafliad yn fuan ar ôl iddo ffrwydro o'r Haul er mwyn gallu darparu rhybuddion gwell ynghylch pryd y bydd yn cyrraedd ein planed.

“Mae deall a defnyddio’r uchder critigol yn ein rhagolygon yn gwella ein gallu i roi rhybudd am alldafliadau sy’n dod tuag aton ni, gan helpu i amddiffyn y dechnoleg y mae ein bywydau modern yn dibynnu arni,” meddai Gandhi.

“Mae ein hymchwil nid yn unig yn gwella ein dealltwriaeth o ymddygiad ffrwydrol yr Haul ond hefyd yn gwella’n sylweddol ein gallu i ragweld digwyddiadau tywydd y gofod. Mae hyn yn caniatáu paratoi gwell ac amddiffyn y systemau technolegol rydyn ni'n dibynnu arnyn nhw bob dydd.”