Chwilio am gyfranwyr ar gyfer astudiaeth cysylltedd ddigidol yng Ceredigion

Chwith i'r dde: Dr Aloysius Igboekwu, Dr Sarah Lindop a Dr Maria Plotnikova o Ysgol Fusnes Aberystwyth fu’n astudio effeithiau pandemig COVID-19 ar fusnesau ac aelwydydd yng Ngheredigion.

Chwith i'r dde: Dr Aloysius Igboekwu, Dr Sarah Lindop a Dr Maria Plotnikova o Ysgol Fusnes Aberystwyth fu’n astudio effeithiau pandemig COVID-19 ar fusnesau ac aelwydydd yng Ngheredigion.

26 Gorffennaf 2024

Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth yn chwilio am gyfranwyr i astudiaeth newydd i effeithiau cysylltiadau rhyngrwyd gwael ar gymunedau gwledig.

Gan adeiladu ar astudiaeth fawr i effeithiau pandemig COVID-19 ar gartrefi a busnesau yng Ngheredigion a gyhoeddwyd y llynedd, mae tîm o Ysgol Busnes Aberystwyth yn chwilio am gyfranwyr ar gyfer grwpiau ffocws a gynhelir yn y Brifysgol ym mis Medi 2024.

Roedd Dr Aloysius Igboekwu, Uwch Ddarlithydd mewn Cyllid yn Ysgol Fusnes Aberystwyth, yn un o awduron adroddiadau 2023 ac ef sydd y tu ôl i’r astudiaeth newydd i annigonolrwydd y seilwaith digidol yng Ngheredigion.

“Roedd y materion yn ymwneud â darpariaeth rhyngrwyd, hyfedredd digidol ac argaeledd seilwaith digidol digonol yn amlwg yn yr ymatebion i’r ddau arolwg i astudiaethau COVID-19. Rydym nawr yn chwilio am bobl o Geredigion i gymryd rhan mewn dau grŵp ffocws yn y Brifysgol fel y gallwn wneud astudiaeth fanylach o’r canlyniadau hyn a chael gwell dealltwriaeth o’r heriau sy’n wynebu aelwydydd a busnesau heddiw.”

“Nododd y pandemig COVID-19 newid sylweddol ym mywydau pobl, gyda phobl yn dod yn llawer mwy dibynnol ar gysylltedd ar gyfer pethau fel addysg. Ein nod yw i’r gwaith newydd hwn lywio penderfyniadau polisi a fydd o fudd i’r rhai sy’n byw mewn cymunedau gwledig mewn byd a fydd yn fwy dibynnol ar rwydweithiau cyfathrebu digidol da ar gyfer popeth, o fasnach i addysg a darpariaeth iechyd, a chymaint mwy.”

Yn ôl awduron adroddiadau 2023 ar effeithiau pandemig COVID-19 ar aelwydydd, dywedodd bron i hanner yr ymatebwyr fod arafwch band eang, hygyrchedd digidol gwael a phroblemau cysylltedd wedi gwaethygu’r straen a’r pryder a brofwyd gan drigolion.

Ar y pryd, dywedodd Dr Igboekwu: “Byddai darparu gwell mynediad i seilwaith digidol ledled y sir wedi bod o fudd i aelwydydd a busnesau yn ystod y pandemig.”

Gofynnir i ddarpar gyfranogwyr sy’n dymuno cyfrannu at yr astudiaeth newydd ‘Cysylltedd Digidol mewn Ardaloedd Ymylol’ gofrestru ar gyfer y sesiynau trwy gwblhau holiadur ar-lein erbyn.

Bydd Dr Igboekwu yn gweithio ar yr astudiaeth gyda Dr Sarah Lindop, Uwch Ddarlithydd mewn Cyllid a Dr Maria Plotnikova, Darlithydd Economeg yn Ysgol Fusnes Aberystwyth a gyfrannodd hefyd at yr Astudiaethau yn 2023 i effeithiau COVID-19 ar fusnesau a chartrefi yng Ngheredigion.