Ymchwil Prifysgol Aberystwyth yn defnyddio Deallusrwydd Artiffisial i wella’r gefnogaeth i oroeswyr caethwasiaeth fodern

Llun gan freestocks ar Unsplash

Llun gan freestocks ar Unsplash

30 Gorffennaf 2024

Diolch i brosiect ymchwil arloesol dan arweiniad Athro yn y Gyfraith yn Aberystwyth mae gwell dealltwriaeth ynglŷn ag anghenion goroeswyr masnachu pobl a chaethwasiaeth fodern gan y sefydliadau a’r llunwyr polisi sy'n eu cynorthwyo.

Er mwyn casglu gwybodaeth ynglŷn â'r gefnogaeth a gynigir i oroeswyr caethwasiaeth fodern cafodd deallusrwydd artiffisial (DA) ei defnyddio gan RESTART (Reporting Experiences of Survivors to Analyse in Real Time).

Arweiniwyd y prosiect gan yr Athro Ryszard Piotrowicz o Adran y Gyfraith a Throseddeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, sy’n arbenigwr ar gyfraith ymfudo a chyfraith ddyngarol ryngwladol. Roedd partneriaid y prosiect yn cynnwys Causeway a FiftyEight, dau sefydliad sy’n arbenigo ym maes masnachu pobl a chaethwasiaeth fodern, yn ogystal â Trilateral Research, cwmni preifat sy’n datblygu ac yn ymchwilio i DA yn foesegol.

Defnyddiodd y prosiect ddull prosesu iaith naturiol (NLP), math o Ddeallusrwydd Artiffisial, i ddadansoddi bron i 40,000 o nodiadau achos dienw a gofnodwyd gan weithwyr achos Causeway yn ystod eu cyswllt â 545 o oroeswyr caethwasiaeth fodern.

Roedd y gwaith dadansoddi’n canolbwyntio ar anghenion cymorth goroeswyr mewn meysydd fel llety, cymorth cyfreithiol, dibynyddion, addysg, cyflogaeth, iechyd corfforol a meddyliol, cyllid ac integreiddio cymdeithasol.

Datblygodd y prosiect ap hunan-gofnodi ar gyfer ffonau clyfar, a ganiataodd i oroeswyr masnachu pobl a chaethwasiaeth fodern gofnodi eu meddyliau, eu teimladau, eu problemau a’u hamcanion mewn amser real. 

Ar ben hyn, casglodd yr ap eu profiadau o'r gwasanaethau cymorth a gawsant, a'u barn ar yr hyn y gellid ei wneud yn well i'w cynorthwyo.

Cafodd y testun a gofnodwyd yn yr ap gan y defnyddwyr ei ddadansoddi gan ddefnyddio NLP, er mwyn gallu adnabod tueddiadau a phatrymau yn anghenion y goroeswyr.

Yn ogystal â hyn, roedd yr ap yn grymuso defnyddwyr i adnabod eu hanghenion eu hunain a chynnig atebion, i wahaniaethu rhwng anghenion uniongyrchol ac amcanion hirdymor, a bu hefyd yn fodd o olrhain eu cynnydd a’u hysgogi.

Yn ôl yr Athro Ryszard Piotrowicz:

"Mae prosiect RESTART wedi llwyddo i ddangos manteision defnyddio pŵer DA i ddadansoddi'r setiau data cymhleth hyn, a thrwy hynny ddatgloi adnodd helaeth na fyddai ar gael fel arall i bob pwrpas, oherwydd prinder adnoddau.

"Er ei bod yn amhrisiadwy, mae yna ddiffygion i'r dechnoleg ac roedd ein panel cynghori o bobl sydd wedi goroesi caethwasiaeth fodern yn hanfodol wrth hyfforddi'r modelau DA a dilysu'r wybodaeth a gynhyrchwyd ganddynt. Mae cadw bodau dynol yn y broses yn sicrhau dealltwriaeth gyd-destunol a sensitifrwydd i natur wahanol profiadau personol ac ystyriaethau moesegol, y gallai systemau awtomataidd eu hanwybyddu.

“Mae'r prosiect wedi dangos y gall technoleg DA, ar y cyd â mewnbwn gan bobl, roi gwell dealltwriaeth ynghylch sut i ddiwallu anghenion cymorth goroeswyr yn fwy effeithiol, a hynny’n seiliedig ar safbwyntiau defnyddwyr y gwasanaethau eu hunain."

 

Ariannwyd y prosiect RESTART gan y Ganolfan Polisi a Thystiolaeth Caethwasiaeth Fodern a Hawliau Dynol, sy'n cael ei hariannu gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau ar ran Ymchwil ac Arloesi y DU (UKRI).