Dathlu dwy flynedd o addysg nyrsio yn y Sioe Fawr

Myfyrwyr nyrsio cyntaf erioed Prifysgol Aberystwyth yn dechrau ar eu hastudiaethau ym mis Medi 2022

Myfyrwyr nyrsio cyntaf erioed Prifysgol Aberystwyth yn dechrau ar eu hastudiaethau ym mis Medi 2022

22 Gorffennaf 2024

Caiff dathliad o ddwy flynedd gyntaf addysg nyrsio ym Mhrifysgol Aberystwyth ei gynnal ar faes y Sioe Fawr heddiw (11:30yb, dydd Mawrth, 23 Gorffennaf). 

Dechreuodd y garfan gyntaf o fyfyrwyr nyrsio ar eu hastudiaethau ym Mhrifysgol Aberystwyth ym mis Medi 2022.

Fel rhan o’r datblygiad, sefydlodd y Brifysgol ystafelloedd ymarfer clinigol o ansawdd uchel yn ei Chanolfan Addysg Gofal Iechyd newydd sydd gyferbyn ag Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth. Cafodd y datblygiad gwerth £1.7 miliwn ei gefnogi gyda grant o £500,000 gan Lywodraeth Cymru.

Datblygwyd addysg nyrsio ym Mhrifysgol Aberystwyth gyda chefnogaeth nifer o bartneriaid, gan gynnwys byrddau iechyd Hywel Dda, Betsi Cadwaladr a Phowys yn ogystal â defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr.

Fe ddyfarnodd Addysg a Gwella Iechyd Cymru gytundeb i Brifysgol Aberystwyth hyfforddi nyrsys ar gyfer oedolion ac iechyd meddwl sydd wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.

Caiff y myfyrwyr sy’n astudio ar gyfer y graddau’r cyfle i ddilyn hyd at hanner eu cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg.

Ymysg y siaradwyr yn y digwyddiad dathlu ar faes y Sioe fydd yr Ysgrifennydd Iechyd Eluned Morgan AS a Dr Chris Jones, Cadeirydd Addysg a Gwella Iechyd Cymru.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Gofal Cymdeithasol a’r Gymraeg, Eluned Morgan:

“Mae’n bleser i glywed am lwyddiannau’r ddwy flynedd o addysg nyrsio yn Aberystwyth, ac mae’n arwydd o’n hymrwymiad i sicrhau bod addysg gofal iechyd o ansawdd uchel ar gael mewn cymunedau ar draws Cymru.

“Rwy’n gobeithio gweld yr holl raddedigion yn ymuno â’n gweithlu GIG dawnus fel nyrsys cofrestredig.

“Byddwn ni’n parhau i weithio gyda phrifysgolion Cymru, GIG Cymru a chyda gofal sylfaenol a chymunedol i sicrhau bod gennym ni’r gweithlu sy’n diwallu anghenion gofal iechyd Cymru nawr ac yn y dyfodol.”

Ychwanegodd Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth yr Athro Jon Timmis:

“Hoffwn i longyfarch yr holl staff a myfyrwyr sydd wedi gweithio mor galed i wneud y ddwy flynedd gyntaf yn gymaint o lwyddiant. Mae’n ddarpariaeth newydd sy’n ehangu mynediad i lawer ac wedi’i theilwra at anghenion y Canolbarth a’r Gorllewin.  Mae eisoes yn profi ei gwerth ac mae’n mynd i fod yn hwb o ran recriwtio a chadw staff yn y gwasanaeth iechyd yn lleol ac yn rhanbarthol. A, thrwy gynnig llawer iawn o’r hyfforddiant drwy gyfrwng y Gymraeg, bydd yn fuddiol i’r ddarpariaeth iaith yn ein gwasanaeth iechyd yn ogystal.

“Dros y blynyddoedd i ddod, ac wrth weithio gyda phartneriaid, rydym yn awyddus i gyfrannu mwy a mwy at gwrdd ag anghenion hyfforddi ein gwasanaeth iechyd. Mae’r Ganolfan Addysg Gofal Iechyd yn adnodd pwysig yn hyn o beth. Rydyn ni wrthi’n gosod sylfeini ar gyfer twf darpariaeth addysg gofal iechyd yma yn Aberystwyth ar gyfer y dyfodol.”

Bydd y fyfyrwraig Annie Evans yn ei blwyddyn gyntaf ar y cwrs yn siarad yn y digwyddiad. Dywedodd:

“Yn dod o gymuned glos cefn gwlad, mae’r cyfle i mi allu astudio yn fy nhref enedigol yn bwysig i mi. Mae’r cwrs yma wedi galluogi i mi aros yn agos at deulu a ffrindiau wrth i mi astudio. Mae astudio mewn ardal lle rwy'n gobeithio dilyn fy ngyrfa yn y dyfodol yn bwysig i mi am ei fod yn rhoi’r cyfle i mi gael lleoliadau dysgu lleol a fydd o fudd i mi yn y dyfodol.”

Ychwanegodd Beth Elliot, sydd yn ei hail flwyddyn ar y cwrs:

“Mae’r ffaith bod gradd nyrsio i’w chael yn Aberystwyth wedi caniatáu i mi ddod yn nyrs. Cyn nawr, byddai’n rhaid i mi fod wedi teithio cryn dipyn ac y byddai hynny wedi’i wneud yn anodd iawn i mi gan fod gen i deulu i ofalu amdano.”