Clod ar draws y DU i fenter gyflogaeth myfyrwyr newydd
Aelodau o Adran Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd Prifysgol Aberystwyth yn derbyn Gwobr Adeiladu Partneriaethau Effeithiol yng Nghynhadledd Flynyddol Cymdeithas Gwasanaethau Cynghori Gyrfaoedd i Raddedigion.
19 Gorffennaf 2024
Mae menter gan Brifysgol Aberystwyth i wella rhagolygon swyddi myfyrwyr sy'n llai tebygol o fynychu prifysgol wedi cael ei chydnabod mewn seremoni wobrwyo fawreddog.
Cafodd yr e-Hwb Cyflogadwyedd ei lansio ym mis Rhagfyr 2023 ac mae eisoes wedi denu dros 2 filiwn o wylwyr ar y cyfryngau cymdeithasol, gyda dros 100,000 o gliciau i’r hwb ar-lein gan ei gynulleidfa darged.
Derbyniodd yr e-Hwb, sy’n “drawiadol” yn ôl y beirniaid, Wobr Adeiladu Partneriaethau Effeithiol yng Nghynhadledd Flynyddol Cymdeithas Gwasanaethau Cynghori Gyrfaoedd i Raddedigion (AGCAS) a gynhaliwyd yn ddiweddar.
Gwasanaeth Gyrfaoedd y Brifysgol greodd yr e-Hwb mewn partneriaeth â phrifysgolion eraill yng Nghymru a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC), gyda’r nod o adeiladu hyder myfyrwyr yn eu sgiliau a’u cyflogadwyedd a’u harwain tuag at sicrhau cyflogaeth raddedig ar ôl iddynt adael y brifysgol.
Dywedodd Bev Herring, Pennaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd Prifysgol Aberystwyth: “Roedd yn fraint fawr gallu derbyn Gwobr Rhagoriaeth AGCAS ar gyfer ‘Adeiladu Partneriaethau Effeithiol’ ar ran Prifysgol Aberystwyth (Gwasanaeth Gyrfaoedd). Mae'r wobr yn cydnabod un o nifer o ddulliau cyflogadwyedd arloesol, cynhwysol a chydweithredol a ddefnyddir gan Wasanaeth Gyrfaoedd y Brifysgol.
“Yn ehangach, mae’r wobr hefyd yn dangos ein hymrwymiad sefydliadol tuag at gydweithio a’r defnydd o ddatblygiadau digidol i wella cyflogadwyedd ein myfyrwyr a’n graddedigion fel rhan o’r strategaeth gyflogadwyedd sydd newydd ei lansio.
“Diolch yn arbennig i Lewis Richards ein Rheolwr Cymorth Parodrwydd am Yrfa a arweiniodd ar y fenter e-Hwb, ein partneriaid ym mhrifysgolion Cymru, a’n partneriaid ariannu CCAUC (Medyr erbyn hyn)”, ychwanegodd.
Gan ddarparu system gymorth gynhwysfawr i fyfyrwyr, mae'r e-Hwb yn meithrin amgylchedd cynhwysol a chefnogol sydd wedi gwella rhagolygon cyflogadwyedd yn sylweddol ar gyfer grwpiau a dangynrychiolir.
Wrth sôn am y cais buddugol, dywedodd y beirniaid: “Mae’r bartneriaeth glodwiw hon yn amlwg yn cael effaith drawsnewidiol ar fyfyrwyr a graddedigion. Mae graddfa’r cydweithio ar draws nifer o sefydliadau a’r agwedd ddigidol yn wirioneddol drawiadol.”
Cymdeithas Gwasanaethau Cynghori Gyrfaoedd Graddedigion (AGCAS) yw'r sefydliad aelodaeth arbenigol ar gyfer datblygiad gyrfa myfyrwyr addysg uwch a gweithwyr proffesiynol ym maes cyflogaeth graddedigion. Mae gan AGCAS tua 5,000 o aelodau unigol a chysylltiadau o 165 o sefydliadau addysg uwch.