Y Brifysgol yn anrhydeddu arwres pêl-droed Cymru, Jess Fishlock

Yr Athro Fonesig Elan Closs Stephens DBE, Dirprwy Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, yn cyflwyno Cymrodoriaeth er Anrhydedd i Jess Fishlock

Yr Athro Fonesig Elan Closs Stephens DBE, Dirprwy Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, yn cyflwyno Cymrodoriaeth er Anrhydedd i Jess Fishlock

18 Gorffennaf 2024

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi cyflwyno Cymrodoriaeth er Anrhydedd i’r bêl-droedwraig a’r hyfforddwraig broffesiynol Jess Fishlock MBE.

Ganed Fishlock yn Llanrhymni, ac yn ddiweddar cyflawnodd y gamp o fod y pêl-droediwr cyntaf i ennill 150 o gapiau rhyngwladol i Gymru. Yr wythnos hon, gwnaeth hi hanes unwaith eto drwy dorri record sgorio goliau gorau Cymru.

Chwaraeodd ei gêm gyntaf dros ei gwlad yn Stighag, y Swistir yn 2006 gan gyrraedd ei chanfed cap yn chwarae yn erbyn Gogledd Iwerddon yn Ystrad Mynach yn 2017, gan fynd ymlaen i ennill ei 150fed cap hanesyddol yn Podujevo, Kosovo eleni ym mis Ebrill. 

Yn ystod deunaw mlynedd ei gyrfa broffesiynol, mae hi wedi chwarae i sawl tîm ledled y byd sydd wedi ennill pencampwriaethau a theitlau tymor, gan gynnwys ennill Cynghrair Pencampwyr UEFA gyda FFC Frankfurt a Lyon.

Ar hyn o bryd mae'n chwarae i glwb pêl-droed Seattle Reign yn ogystal â thîm cenedlaethol Cymru.

Fe’i henwyd yn Bêl-droediwr Cymreig y Flwyddyn bum gwaith ac fe’i hanrhydeddwyd ag MBE am wasanaethau i bêl-droed a'r gymuned LHDTh yn Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines yn 2018.

Cyflwynwyd Jess Fishlock yn Gymrawd er Anrhydedd gan Dr Elin Royles ym Mhrifysgol Aberystwyth ddydd Iau 18 Gorffennaf 2024.

Mae’r cyflwyniad llawn ar gael isod, yn yr iaith y’i traddodwyd.

Cyflwyno Jess Fishlock gan Dr Elin Royles:

Dirprwy Ganghellor, Dirprwy Is-Ganghellor, graddedigion a  chyfeillion.  Pleser o’r mwyaf yw cyflwyno Jessica Fishlock yn gymrawd Prifysgol Aberystwyth.

Pro Chancellor, Pro Vice-Chancellor, graduates and supporters.  It is an honour and a privilege to present Jessica Fishlock as a Fellow of Aberystwyth University.

At the end of this ceremony, we’ll sing ‘Mae Hen Wlad fy Nhadau’ the Welsh national anthem. Globally, the Welsh are renowned for their pride in singing this anthem, particularly at the start of sports matches. Even spontaneously during matches in order to raise our game. Our fellow today is a legend, who has inspired that singing, that emotion.

In April, Jess Fishlock became the first footballer to win 150 international caps for Wales. This week in a critical Euro 2025 qualifying match against Kosovo, she broke Wales’ all-time goalscoring record by netting her 45th goal for Wales. What an achievement! Now, it’s bring on the play-offs.

Her talent and dedication to football was clear from a young age. She joined Cardiff City Ladies at the age of 7. An exceptional eighteen-year professional footballing and coaching career spans playing for championship and season title winning teams across three continents.

She has won the Welsh Footballer of the Year title five times and has twice been a member of the winning team of the UEFA Women’s Championship league title. 

Pencampwraig heb ei hail. Pan siaradais â’r ddarlledwraig a chynfyfyrwraig Prifysgol Aberystwyth, Catrin Heledd, rhywun sydd wedi hen arfer bod ynghanol cyffro pêl droed Cymru, dywedodd hi am Jess: ‘Eicon. Mae wedi selio ei lle yn y llyfrau hanes ac yn oriel yr anfarwolion. I’r genhedlaeth nesaf o gyw bel droedwyr - yn fechgyn neu’n ferched -  mae’n ysbrydoliaeth  - yn cŵl gyda’i “undercut”  ond hefyd  yn brawf bod dycnwch a gwaith caled yn talu ar ei ganfed. Cymraes i’r carn sydd  - fel y ddraig goch ar ei chrys  - yn danllyd, yn angerddol ac yn llawn brwydr.’

A remarkable talent combined with sheer dedication and hard work, she has overcome many challenges. This pioneer of professional women footballers is a true inspiration for the next generation of young footballers.

Beyond the football pitches, Jess has been a strong advocate for the LGBT community and campaigned tirelessly for fair and equal treatment of women within the women’s game. She speaks openly and honestly about her own experiences and instils in others the confidence to be their true authentic self, as she is herself wherever she is.

Professor Laura McAllister, your first captain at Cardiff City, Deputy Chair of UEFA’s Women’s Football Committee told me that you’re ‘one of the true legends of football. Her achievements are immense, both on and off the field. Off the pitch, Jess is the definition of a role model. She has been a tireless pioneer and champion for equality and human rights, and especially for LGBTQ groups. Unlike many male professional players, Jess is never frightened to raise her voice to speak out for those for whom discrimination is a norm. All of us in Wales should be very proud to call her one of our own.’

As prospective graduates moving onto the next chapter in your lives, I hope that you’ll feel inspired and empowered by Jess’ commitment and dedication in her professional life and raise your game in making your own field and society more equal.

We are immensely proud of you Jess. As an University and as a nation.

Mae’n anrhydedd ac yn fraint i ni fel Prifysgol gael cydnabod a dathlu dy gyfraniad ar y meysydd chwarae ac yn ymgyrchu dros gydraddoldeb.

Dirprwy Ganghellor, mae’n bleser gen i gyflwyno Jessica Fishlock i chi yn Gymrawd.  

Pro Chancellor, it is my absolute pleasure to present Jessica Fishlock to you as a Fellow of Aberystwyth University.

Anrhydeddau Prifysgol Aberystwyth 2024

Bob blwyddyn, mae Prifysgol Aberystwyth yn dyfarnu Graddau er Anrhydedd i nifer fach o unigolion nodedig er mwyn cydnabod eu cyflawniad a’u cyfraniad rhagorol.

Dyma Gymrodyr er Anrhydedd 2024:

  • Yr Athro Syr Stewart Cole KCMG FRS, microbiolegydd o fri rhyngwladol sy'n gweithio ym maes iechyd byd-eang
  • Jess Fishlock MBE, pêl-droedwraig a hyfforddwraig broffesiynol, a enillodd 150 o gapiau rhyngwladol dros Gymru
  • Clare Hieatt, cyd-sylfaenydd yr ŵyl syniadau fyd-enwog The Do Lectures a chwmni Hiut Denim Co
  • David Hieatt, cyd-sylfaenydd cwmni jîns Hiut Denim Co o Aberteifi a The Do Lectures
  • Yr Athro Uzo Iwobi CBE FLSW FRSA, Sylfaenydd a Phrif Weithredwr Cyngor Hil Cymru
  • Dr Anna Persaud, Prif Swyddog Gweithredol a Sylfaenydd y brand moethus gofal croen a lles, This Works
  • Manon Steffan Ros, awdur arobryn, colofnydd a sgript-wraig