Prifysgol Aberystwyth yn cyrraedd 50 uchaf Stonewall

18 Gorffennaf 2024

Mae Prifysgol Aberystwyth yn un o gyflogwyr mwyaf blaenllaw y DU am gynwysoldeb LHDTC+ yn ôl elusen flaenllaw.

Mae Prifysgol Aberystwyth yn safle 45 yn y DU ym Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall 2024 sydd wedi ei gyhoeddi’r wythnos hon.

Gwelodd Aberystwyth gynnydd o 59 safle ers 2023 ac mae hefyd wedi ennill statws Aur am ei gwaith yn cefnogi staff LHDTC+ i fod yn nhw eu hunain yn y gwaith.

Mae Aberystwyth yn ymuno â nifer o sefydliadau adeiladu, cyfreithiol, iechyd, cyllid ac addysg o’r radd flaenaf sydd wedi cyrraedd y rhestr flynyddol o’r 100 Uchaf o gyflogwyr cynhwysol LGBTQ+.

Mae’r Athro Neil Glasser (fe/ei), Dirprwy Is-Ganghellor â chyfrifoldeb dros amrywiaeth a chynhwysiant ym Mhrifysgol Aberystwyth, wedi croesawu’r cyhoeddiad.

Dywedodd yr Athro Glasser: “Rydyn ni wrth ein bodd gydag achrediad Gwobr Aur Stonewall yn ogystal â dringo i mewn i’r 50 cyflogwr gorau ym Mynegai Cyflogwyr Gweithle Stonewall ar gyfer cynwysoldeb LHDTC+.

“Mae’n glod haeddiannol i’n holl staff a myfyrwyr sy’n gwneud ein prifysgol yn lle mor groesawgar, cynhwysol a chefnogol i bawb. Mae cynhwysiant yn un o’n gwerthoedd craidd ac mae wedi’i wreiddio ym mhob rhan o’n gwaith, ac rydyn ni’n ymfalchïo’n fawr mewn creu amgylchedd lle mae staff LHDTC+ yn teimlo’n rhydd i fod yn nhw eu hunain, lle mae amrywiaeth nid yn unig yn cael ei groesawu, ond ei ddathlu.”

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae’r Brifysgol wedi datblygu polisi cynhwysol LHDTC+, gan drefnu ystod eang o ddigwyddiadau i ddathlu’r calendr LHDTC+, gan gynnwys digwyddiadau rhwydwaith staff LHDTC+ a chymryd rhan yn ‘Balchder’ ar y Prom.

Yn ogystal, datblygwyd hyfforddiant ymwybyddiaeth a chynnwys newydd megis ymosodiadau micro ac hyfforddiant ymyrryd mewn sefyllfaoedd niweidiol.

Yn ôl Stonewall, mae mwy na thraean o staff LHDT (35 y cant) wedi cuddio pwy ydyn nhw yn y gwaith rhag ofn gwahaniaethu.

Mae hyn yn golygu bod pobl LHDTC+ yn aml yn teimlo bod y dewisiadau sydd ar gael iddynt wrth geisio am swyddi wedi’u cyfyngu – neu nad yw'r diwylliant gwaith ar eu cyfer nhw pan fyddant yn cael swydd.

Dywedodd Colin Macfarlane, Cyfarwyddwr Rhaglenni ac Incwm Stonewall (fe/ei): “Mae gweithredu arferion a pholisïau cynhwysol yn hanfodol i gyflogwyr sy’n dymuno denu a chadw’r dalent LHDTC+ orau. Mae’r Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle yn cynnwys cyfranogwyr o ddiwydiannau a sectorau amrywiol, ac mae pob un ohonyn nhw yn deall mai cynhwysiant yw’r dyfodol ac yn arwain y ffordd yn y newid hanfodol hwn. Drwy hyrwyddo gweithwyr LHDTC+, rydych chi’n meithrin gweithlu hapus a llawn cymhelliant ac yn cyfrannu at wlad lle gall pobl LHDTC+ ffynnu fel eu hunain.”

Mae’r Rhestr o’r 100 Cyflogwr Gorau ar gael ar-lein ac wedi’i llunio drwy gyflwyniadau i offeryn meincnodi gwirfoddol rhad ac am ddim, sef y Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle.

Yna gaiff pob cyflwyniad ei farcio yn erbyn meini prawf trylwyr a safonol ac mae Stonewall yn dewis y 100 Cyflogwr Gorau am eu gwaith rhagorol yn creu gweithleoedd cynhwysol ar gyfer eu staff LHDTC+.