Cyflwyno Cymrodoriaeth er Anrhydedd i Manon Steffan Ros 

Yr Athro y Fonesig Elan Closs Stephens DBE, Dirprwy Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, yn cyflwyno Manon Steffan Ros yn Gymrawd er Anrhydedd

Yr Athro y Fonesig Elan Closs Stephens DBE, Dirprwy Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, yn cyflwyno Manon Steffan Ros yn Gymrawd er Anrhydedd

17 Gorffennaf 2024

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi cyflwyno Cymrodoriaeth er Anrhydedd i’r awdur, y colofnydd a’r sgriptiwr arobryn, Manon Steffan Ros.

Mae wedi ennill sawl gwobr am ei gwaith, gan gynnwys Llyfr y Flwyddyn, Gwobr Tir Na N’Og, Medal Ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol, a Medal Yoto Carnegie am Ysgrifennu.

Cyflwynwyd Manon Steffan Ros yn Gymrawd er Anrhydedd gan Mererid Hopwood, Athro Cymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth, ddydd Mercher 17 Gorffennaf 2024.

Mae’r cyflwyniad llawn ar gael isod:

Manon Steffan Ros gyda'r Athro y Fonesig Elan Closs Stephens DBE

Yr Athro Mererid Hopwood yn cyflwyno Manon Steffan Ros:

Mae heddiw, raddedigion newydd, wrth reswm yn ddiwrnod arbennig. Diwrnod i’w gofio.  Byddwch yn gadael â swfenîrs y lluniau ohonoch mewn dillad go ryfedd yn dal tystysgrif sydd, ar y naill law’n cydnabod cau drws ar y gwaith caled y tu ôl i chi ac ar y llall sy’n allwedd i ddrysau newydd eich dyfodol. Ond yn llun y cof, dyna fraint fydd cael edrych yn ôl ar heddiw a gwybod eich bod wedi rhannu’r llwyfan hwn â rhywun mor gwbl arbennig â’n Cymrawd newydd ni: Manon Steffan Ros.

I unrhyw un sy’n caru iaith, llenyddiaeth, cerddoriaeth, ffilm, drama, theatr a chyd-ddyn – dyma wraig sydd wedi defnyddio ei doniau creadigol sylweddol i agor ein llygaid ni i ystyried pob un o’r meysydd hyn o’r newydd.

Enillodd wobrau lu am ei chreadigaethau: Medal Ddrama’r Eisteddfod Genedlaethol – ddwywaith; Medal Ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol; Gwobr Llyfr y Flwyddyn; Gwobr Tir na n’Og, … ac ymhlith y gwobrau diweddaraf – Medal Yoto Carnegie sy’n gydnabyddiaeth ryngwladol - am ei chyfieithiad hi ei hun o Lyfr Glas Nebo: The Blue Book of Nebo.  Hwn oedd y tro cyntaf erioed i banel mawreddog y wobr hon osod cyfieithiad yn y safle cyntaf. Tipyn o gamp!

Ac wrth dderbyn y wobr, nododd Manon mai un o freintiau mwyaf ei bywyd oedd y ffaith fod ganddi ddwy iaith a bod hynny wedi dod â chymaint o lawenydd a chyfleoedd iddi.

If you haven’t yet, during your time with us in Aberystwyth, for whatever reason, managed to learn Welsh, then let Manon’s words in her acceptance speech for the Carnegie Medal inspire you to seek out those opportunities: ‘There’s a huge, lively, thriving Welsh language cultural scene that I’m honoured to be a part of.’ Then, referring to her prize-winning translation, she declared: ‘I can confidently tell you that this book is the tiniest speck on the very tip of a massive iceberg of Welsh language literature that you would love.’

She then went on to explain how each language offers a unique and enriching perspective on the world, and how literature in translation has the potential to enhance our lives greatly.

Manon Steffan Ros

Yn sicr ddigon, rwyt ti Manon, wedi cyfoethogi ein bywydau ninnau’n fawr iawn drwy dy allu i drin geiriau ym mha bynnag gyfrwng. Mae dy weithiau di’n ysbrydoliaeth i’n myfyrwyr ni – y deialogi, y tempo, y ffrâm stori, y cymeriadu, y tyndra, y dweud dramatig a thelynegol … ac mae colofn wythnos Golwg yn batrwm i unrhyw un a fynn ddysgu cynildeb.

Yn ystod wythnos yr etholiad, wrth roi’r llwyfan i’r ferch heb ddigon o arian i dalu rhent, dywedaist fel hyn: ’da’n ni’n cyfri, ond ’da ni ddim wastad yn cael ein cyfri’.

Mae gwers bwysig yno – inni gyd – ac wrth fynd ar eich taith o’r lle hwn, raddedigion – cofiwch eiriau Manon - mae pawb yn cyfri.

Ac yn sicr ddigon, ein braint ni heddiw, Manon Steffan Ros, yw cael dy gyfri dithau yn un ohonom ni.

Anrhydeddau Prifysgol Aberystwyth 2024

Bob blwyddyn, mae Prifysgol Aberystwyth yn dyfarnu Graddau er Anrhydedd i nifer fach o unigolion nodedig er mwyn cydnabod eu cyflawniad a’u cyfraniad rhagorol.

Dyma Gymrodyr er Anrhydedd 2024:

  • Yr Athro Syr Stewart Cole KCMG FRS, microbiolegydd o fri rhyngwladol sy'n gweithio ym maes iechyd byd-eang
  • Jess Fishlock MBE, pêl-droedwraig a hyfforddwraig broffesiynol, a enillodd 150 o gapiau rhyngwladol dros Gymru
  • Clare Hieatt, cyd-sylfaenydd yr ŵyl syniadau fyd-enwog The Do Lectures a chwmni Hiut Denim Co
  • David Hieatt, cyd-sylfaenydd cwmni jîns Hiut Denim Co o Aberteifi a The Do Lectures
  • Yr Athro Uzo Iwobi CBE FLSW FRSA, Sylfaenydd a Phrif Weithredwr Cyngor Hil Cymru
  • Dr Anna Persaud, Prif Swyddog Gweithredol a Sylfaenydd y brand moethus gofal croen a lles, This Works
  • Manon Steffan Ros, awdur arobryn, colofnydd a sgript-wraig