Graddio 2024
Cynhelir graddio Prifysgol Aberystwyth 2024 rhwng 16-18 Gorffennaf
15 Gorffennaf 2024
Bydd seremonïau graddio 2024 yn dechrau ym Mhrifysgol Aberystwyth yfory, dydd Mawrth 16 Gorffennaf.
Cynhelir saith seremoni dros dridiau o ddydd Mawrth 16 tan ddydd Iau 18 Gorffennaf yn y Neuadd Fawr yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth.
Bydd y Brifysgol hefyd yn cyflwyno saith Cymrodoriaeth er Anrhydedd i unigolion eithriadol sydd wedi rhagori ym meysydd chwaraeon, gwyddoniaeth, y celfyddydau, busnes a'r trydydd sector.
Eleni, bydd Cymrodoriaethau er Anrhydedd yn cael eu cyflwyno i arwres pêl-droed Cymru Jess Fishlock; Prif Weithredwr Race Council Cymru yr Athro Uzo Iwobi; yr awdur arobryn Manon Steffan Ros; y microbiolegydd o fri rhyngwladol yr Athro Syr Stewart Cole; cyd-sylfaenwyr The Do Lectures a’r Hiut Denim Company Clare a David Hieatt; a Phrif Swyddog Gweithredol a Sylfaenydd This Works, Dr Anna Persaud.
Dywedodd yr Athro Jon Timmis, Is-Ganghellor y Brifysgol:
"Bydd yn bleser croesawu ein myfyrwyr sy'n graddio yn ôl i Aberystwyth yr wythnos hon, a dathlu eu llwyddiant yng nghwmni eu teuluoedd, ffrindiau a chefnogwyr. Bydd carfan myfyrwyr eleni yn rhannu'r llwyfan â saith unigolyn hynod sydd wedi rhagori yn eu meysydd, ac y byddwn yn cyflwyno Cymrodoriaethau er Anrhydedd iddynt.
"Yn ogystal â bod yn garreg filltir gofiadwy ym mywydau ein graddedigion, y graddio yw uchafbwynt blynyddol calendr y Brifysgol, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at fy seremonïau cyntaf fel Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth."
Bydd yr holl seremonïau yn cael eu ffrydio'n fyw ar-lein yn
https://www.aber.ac.uk/cy/graduation/video/stream/
Trefn y seremonïau:
Seremoni 1: 10.30yb, dydd Mawrth 16 Gorffennaf
- Gwyddorau Bywyd (Gwyddorau Biolegol)
- Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear
Cyflwyno’r Cymrawd er Anrhydedd:
Yr Athro Uzo Iwobi CBE FLSW FRSA
Seremoni 2: 2.00yp, dydd Mawrth 16 Gorffennaf
- Gwyddorau Bywyd (Amaethyddiaeth)
- Seicoleg
- IBERS
Cyflwyno’r Cymrawd er Anrhydedd:
Yr Athro Syr Stewart Cole KCMG FRS
Seremoni 3: 10.30yb, dydd Mercher 17 Gorffennaf
- Addysg
- Hanes a Hanes Cymru
- Cymraeg ac Astudiaethau Celtaidd
- Ieithoedd Modern
Cyflwyno’r Cymrawd er Anrhydedd:
Manon Steffan Ros
Seremoni 4: 2.00yp, dydd Mercher 17 Gorffennaf
- Busnes
- Ffiseg
Cyflwyno’r Cymrodyr er Anrhydedd:
Clare Hieatt a David Hieatt
Seremoni 5: 10.00yb, dydd Iau 18 Gorffennaf
- Cyfrifiadureg
- Astudiaethau Gwybodaeth
- Mathemateg
Cyflwyno’r Cymrawd er Anrhydedd:
Dr Anna Persaud
Seremoni 6: 13.30yp, dydd Iau 18 Gorffennaf
- Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol
- Gwleidyddiaeth Ryngwladol
- Celf
Cyflwyno’r Cymrawd er Anrhydedd:
Jess Fishlock MBE
Seremoni 7: 4.30yp, dydd Iau 18 Gorffennaf
- Y Gyfraith a Throseddeg
- Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu