Prosiectau newydd i gefnogi cymunedau arfordirol y Deyrnas Gyfunol

Borth

Borth

12 Gorffennaf 2024

Bydd academyddion o Aberystwyth â rhan allweddol mewn ymdrechion newydd i wella gwytnwch arfordiroedd y Deyrnas Gyfunol.

Bydd prosiect newydd pedair blynedd dan arweiniad arbenigwyr o brifysgolion Aberystwyth a Greenwich yn gweithio gyda chymunedau arfordirol yng nghanolbarth a gogledd Cymru, aber yr Humber yn Lloegr, Lough Foyle yng Ngogledd Iwerddon a’r Firth of Clyde yn yr Alban gyda’r nod o adeiladu eu gwytnwch.

Yng Nghymru, bydd yr ymchwil yn canolbwyntio ar arfordiroedd gogledd Ceredigion a Gwynedd, gan edrych ar sut mae newid hinsawdd a chynnydd yn lefel y môr yn rhyngweithio yn ogystal â chadwraeth natur, heriau gwledig, datblygiad economaidd, cwestiynau am iaith a diwylliant, a lles emosiynol.

Bydd y gwersi a ddysgwyd o’r prosiect £2.8m, ‘Camau Ymchwil Trawsnewidiol ar gyfer Cymunedau Arfordirol Gwydn’ (TRACC), yn cael eu rhannu drwy ‘Gynulliad Gwytnwch’ newydd ar gyfer y Deyrnas Gyfunol gyfan.

Mae TRACC yn cael ei arwain ar y cyd gan yr Athro Jasper Kenter o Brifysgol Aberystwyth a’r Athro Tim Acott o Brifysgol Greenwich, gyda Dr Hywel Griffiths yn cyfrannu at yr ymchwil yng Nghymru yn ogystal.

Meddai’r Athro Jasper Kenter, Cymrawd Ymchwil mewn Economeg Ecolegol yn Ysgol Busnes Prifysgol Aberystwyth:

“Hyd yn hyn, mae’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau ac ymchwilwyr yn aml wedi mynd i’r afael â heriau ar wahân i’w gilydd. Yr hyn sy’n unigryw am brosiect TRACC yw y byddwn yn torri ar draws materion amgylcheddol, diwylliannol, economaidd a chymdeithasol i fynd at galon gwytnwch cymunedol. Mae newid arfordirol nid yn unig yn digwydd ond hefyd yn cyflymu, ac mae gwytnwch yn golygu gallu addasu i'r newid hwnnw mewn ffordd gynaliadwy. Mae hyn yn gofyn am feddwl mewn ffordd newydd a chreadigol, y byddwn yn ei wneud trwy lawer o wahanol ddulliau arloesol, megis perfformiadau artistig, cynulliadau dinasyddion, ac asesiadau integredig o werthoedd amrywiol pobl a natur.”

Bydd y prosiect yn dod â phobl o bob cefndir ynghyd i ddylunio ffyrdd newydd o fynd i’r afael â heriau arfordirol a helpu i adeiladu cymunedau mwy cynaliadwy a gwydn.

Ychwanegodd Tim Acott, Athro mewn Daearyddiaeth Ddynol ym Mhrifysgol Greenwich:

“Mae cymunedau arfordirol yn y Deyrnas Gyfunol yn wynebu llawer o heriau o ran eu gwytnwch, o gynnydd yn lefel y môr, llifogydd, a llygredd, i allfudo ieuenctid, poblogaethau sy’n heneiddio, colli treftadaeth ddiwylliannol, a thai anfforddiadwy. Mae mynd i’r afael â’r rhain mewn ffordd gynhwysol, gyfannol a chynaliadwy yn gofyn am drawsnewid y ffordd y mae ymchwil a llywodraethu yn gweithio ac yn rhyngweithio.”

Mae prosiect TRACC yn rhan o raglen ehangach ‘Cymunedau a Moroedd Arfordirol Gwydn’ a ariennir gan UKRI a Defra.

Mae’r rhaglen yn ariannu pedwar prosiect strategol mawr, gan gynnwys rhai sy’n cael eu harwain gan dimau ym Mhrifysgol Essex, Prifysgol Heriot-Watt, Prifysgol y Frenhines Mary yn Llundain, prosiect TRACC a arweinir gan Brifysgolion Greenwich ac Aberystwyth, yn ogystal â COAST-R Network Plus a arweinir gan yr Athro Briony McDonagh ym Mhrifysgol Hull.

Bydd yr Athro Sarah Davies o Adran Ddaearyddiaeth a Gwyddorau Bywyd Prifysgol Aberystwyth yn cyfrannu at y rhwydwaith COAST-R sy’n werth £2 filiwn ochr yn ochr Dr Jen Wolowic o Ganolfan Ddeialog y Brifysgol.  Byddan nhw’n gweithio â thimau o Brifysgolion Hull, Glasgow, Leeds, Lerpwl a Southampton, yn ogystal â phartneriaid a chymunedau arfordirol a morol.

Un o amcanion allweddol y prosiect yw rhannu dysgu ac arfer gorau ar draws sectorau a disgyblaethau i wella gwytnwch arfordirol a morol. Bydd academyddion yn gweithio gyda chymunedau a phartneriaid eraill i nodi ac ymateb i anghenion blaenoriaeth gan ddefnyddio Cronfa Hyblyg.

Dywedodd yr Athro Sarah Davies, Pennaeth Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth:

“Mae effeithiau newid hinsawdd ac eithafion tywydd yn gwaethygu’r heriau cymdeithasol y mae cymunedau arfordirol yn eu hwynebu. Mae’n bwysig ein bod yn cydweithio ac yn rhannu arfer gorau ar draws sefydliadau i sicrhau bod profiad a gwybodaeth am gymunedau lleol wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau a chynllunio ar gyfer y dyfodol.”

Mae’r rhaglen newydd yn rhan o Strategaeth “Trawsnewid Yfory Gyda’n Gilydd” UKRI, a fydd yn gweld hwb o £24.3m i brosiectau ymchwil sy’n gwella gwytnwch amgylcheddol y Deyrnas Gyfunol.

Ariennir y rhaglen ar y cyd gan UKRI, drwy Creu Cyfleoedd, Gwella Canlyniadau, ochr yn ochr â Chyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC), y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC), Cyngor Cenedlaethol Ymchwil yr Amgylchedd (NERC) ac Adran Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol (Defra) drwy’r rhaglen Asesiad Ecosystem a Chyfalaf Naturiol.

Mae Creu Cyfleoedd, Gwella Canlyniadau yn un o themâu strategol UKRI. Eu nod yw gwella canlyniadau i bobl a lleoedd ledled y Deyrnas Gyfunol drwy nodi atebion sy'n hybu ffyniant economaidd a chymdeithasol