Canlyniadau ardderchog i Brifysgol Aberystwyth mewn arolwg myfyrwyr ar draws y DU
10 Gorffennaf 2024
Aberystwyth yw’r brifysgol orau yng Nghymru am foddhad myfyrwyr am y nawfed flwyddyn yn olynol yn ôl yr arolwg diweddaraf o farn myfyrwyr am ansawdd eu cyrsiau.
Mae rhifyn 2024 o’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr, sydd wedi ei gyhoeddi heddiw ddydd Mercher 10 Gorffennaf, wedi’i lunio gan ddefnyddio dros 345,000 o ymatebion gan fyfyrwyr o bob rhan o’r DU.
Ar sail y sefydliadau addysg uwch sydd wedi eu rhestru yng nghanllaw prifysgolion diweddaraf The Times / Sunday Times mae Aberystwyth yn y 5 uchaf yn y DU ar gyfer ‘Trefniadaeth a Rheolaeth’ ac ‘Adnoddau Dysgu’ ac yn y 10 uchaf yn y DU ar gyfer ‘Cyfleoedd Dysgu’ a ‘Chymorth Academaidd’.
Gyda chyfradd boddhad myfyrwyr gwell, mae 86% o fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth yn fodlon ag ansawdd eu cwrs, 6 pwynt canran yn uwch na chyfartaledd y sector yng Nghymru.
Ac unwaith eto, mae Aberystwyth wedi perfformio’n well na’r sector ar draws y DU ym mhob un o saith thema graidd yr arolwg eleni: Addysgu ar Fy Nghwrs, Cyfleoedd Dysgu, Asesu ac Adborth, Cymorth Academaidd, Trefniadaeth a Rheolaeth, Adnoddau Dysgu a Llais Myfyrwyr.
Dywedodd yr Athro Tim Woods, Dirprwy Is-Ganghellor dros Ddysgu, Addysgu a Phrofiad Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth: “Mae canlyniadau’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr heddiw yn dangos unwaith eto bod ein myfyrwyr o’r farn fod Prifysgol Aberystwyth yn un o’r prifysgolion gorau yn y DU ar draws pob categori, gan adlewyrchu ymroddiad ein staff i ddarparu’r profiad dysgu gorau posibl. Mae gan ein Prifysgol enw da hir sefydlo a rhagorol am foddhad myfyrwyr ac mae canlyniadau heddiw’n tanlinellu ein lle ymhlith prifysgolion cryfaf y DU.”
Dywedodd Bayanda Vundamina, Llywydd Undeb Myfyrwyr Aberystwyth: “Llongyfarchiadau i Brifysgol Aberystwyth ar ganlyniad llwyddiannus arall yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr. Mae’r llwyddiant hwn yn amlygu’r gwaith cadarnhaol a’r effaith sylweddol ar brofiad myfyrwyr, er gwaethaf yr heriau niferus eleni. Mae Undeb Aberystwyth yn edrych ymlaen at gydweithio’n agos â’r Brifysgol i gynnal boddhad myfyrwyr uchel yn Aberystwyth, gan sicrhau bod myfyrwyr Aber yn mwynhau eu bywyd fel myfyrwyr. Mae profiad myfyrwyr yn parhau i fod yn ganolog i’n penderfyniadau ac mae hynny’n amlwg yn y canlyniad heddiw.”
Mae’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr yn arolwg blynyddol o fyfyrwyr mewn prifysgolion, colegau a darparwyr eraill ar draws y DU.
Mae'n gofyn i fyfyrwyr israddedig sydd yn eu blwyddyn olaf i sgorio eu prifysgol ar draws ystod eang o fesuriadau boddhad myfyrwyr.
Roedd cyfle hefyd i fyfyrwyr yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon i fynegi boddhad cyffredinol gyda’u prifysgol.
Caiff yr arolwg ei reoli gan Swyddfa’r Myfyrwyr (Office for Students – OfS) ar ran cyrff cyllido a rheoleiddio’r DU – Adran yr Economi (Gogledd Iwerddon), Cyngor Cyllido’r Alban a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.