Prifysgol Aberystwyth yn enwi Cymrodyr er Anrhydedd 2024
Chwith: Jess Fishlock (brig) Manon Steffan Ros (gwaelod) Canol: Dr Anna Persaud (brig), Clare Hieatt (canol), David Hieatt (gwaelod) De: Yr Athro Syr Stewart Cole (brig), Yr Athro Uzo Iwobi (gwaelod)
09 Gorffennaf 2024
Yn seremonïau graddio Prifysgol Aberystwyth yr haf hwn fe anrhydeddir unigolion eithriadol sydd wedi rhagori ym meysydd chwaraeon, gwyddoniaeth, y celfyddydau, busnes, a'r trydydd sector.
Bydd y Brifysgol yn cyflwyno naw Cymrodoriaeth er Anrhydedd i unigolion a chanddynt gysylltiad ag Aberystwyth neu â Chymru, sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol i'w dewis feysydd.
Dyma Gymrodyr er Anrhydedd 2024:
- Yr Athro Syr Stewart Cole KCMG FRS, microbiolegydd o fri rhyngwladol sy'n gweithio ym maes iechyd byd-eang
- Jess Fishlock MBE, pêl-droedwraig a hyfforddwraig broffesiynol, a enillodd 150 o gapiau rhyngwladol dros Gymru
- Clare Hieatt, cyd-sylfaenydd yr ŵyl syniadau fyd-enwog The Do Lectures a chwmni Hiut Denim Co
- David Hieatt, cyd-sylfaenydd cwmni jîns Hiut Denim Co o Aberteifi a The Do Lectures
- Yr Athro Uzo Iwobi CBE FLSW FRSA, Sylfaenydd a Phrif Weithredwr Cyngor Hil Cymru
- Dr Anna Persaud, Prif Swyddog Gweithredol a Sylfaenydd y brand moethus gofal croen a lles, This Works
- Manon Steffan Ros, awdur arobryn, colofnydd a sgript-wraig
Meddai’r Athro Jon Timmis, Is-Ganghellor y Brifysgol:
"Mae’r graddio yn achlysur cofiadwy pan fyddwn ni, cymuned y Brifysgol, yn dod ynghyd i ddathlu llwyddiannau ein graddedigion, ac i groesawu eu cefnogwyr i Aberystwyth. Mae'n arbennig o gyffrous i mi gael y cyfle i rannu yn eu llwyddiannau am y tro cyntaf fel Is-Ganghellor.
"Bydd hefyd yn fraint cael cyflwyno saith o unigolion eithriadol o fyd gwyddoniaeth, y celfyddydau, chwaraeon, gwasanaethau cyhoeddus, busnes, a thu hwnt yn Gymrodyr Anrhydeddus ein Prifysgol, i gydnabod eu cyfraniadau rhyfeddol."
Cynhelir dathliadau graddio'r Brifysgol rhwng 16 a 18 Gorffennaf, a bydd saith seremoni yn cael eu cynnal yn y Neuadd Fawr yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth.