Ffocws ffres ar ganolfan dechnoleg arloesol prifysgol

Aberystwyth

Aberystwyth

Mewn byd sy’n fwyfwy dibynnol ar dechnolegau diwifr - o ffonau clyfar i ffermio deallus, cerbydau ymreolaethol, Rhyngrwyd Pethau, gofal iechyd a llawer mwy - gallai canolbarth Cymru helpu i fynd i’r afael â heriau chwyldro diwydiannol newydd yn ôl arbenigwr o fri rhyngwladol yn y maes peirianneg sbectrwm radio.

Mae’r Athro Amit Kumar Mishra, a ymunodd â Phrifysgol Aberystwyth fel Cyfarwyddwr y Ganolfan Sbectrwm Genedlaethol ym mis Mawrth, yn credu y gallai gwaith y Ganolfan drawsnewid cysylltedd mewn ardaloedd gwledig, gan greu swyddi o ansawdd uchel a chefnogi’r genhedlaeth nesaf o dechnolegau digidol.

Daw’r Athro Mishra â chyfoeth o brofiad rhyngwladol i’r rôl ar ôl gweithio yn India, Awstralia a Sweden wedi iddo gwblhau ei PhD ym Mhrifysgol Caeredin.

Yn fwy diweddar roedd yn aelod o Grŵp Synhwyro o Bell Radar ym Mhrifysgol Cape Town yn Ne Affrica.

Mae gwaith yr Athro Mishra wedi canolbwyntio fwyfwy ar fentrau sy’n mynd i’r afael â nodau datblygu cynaliadwy ac mae ei benodiad wedi arwain at newid ffocws y Ganolfan Sbectrwm Genedlaethol.

Ers ymuno â Phrifysgol Aberystwyth mae wedi dechrau gweithio ar brosiect ymchwil sy’n cael ei ariannu gan Sefydliad Technoleg India Indore i ddefnyddio amleddau sbectrwm radio presennol i wneud trafnidiaeth gyhoeddus yn fwy hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn ac i gefnogi synhwyro amaethyddiaeth ddeallus.

Mae prosiectau eraill sydd ar y gweill yn cynnwys gwella cynhwysiant mewn trafnidiaeth, defnyddio technoleg drôn i fonitro colli gwres mewn adeiladau, systemau canfod tyllau yn y ffyrdd, a defnyddio dysgu peirianyddol i wneud diagnosis o lefel y brys mewn galwadau brys yn seiliedig ar iechyd.

“Bydd gweithio ar y cyd â sefydliadau academaidd eraill, sefydliadau a mentrau bach a chanolig yn allweddol i ddatblygiad canolfan technoleg sbectrwm o fri cenedlaethol a rhyngwladol yn y dyfodol,” meddai’r Athro Mishra.

“Mae sbectrwm yn adnodd prin gyda nifer cynyddol o gymwysiadau. Mae’r pedwerydd a’r pumed chwyldro diwydiannol sy’n cael eu trafod yn aml yn dibynnu ar dechnoleg sbectrwm fel adnodd craidd ac anhepgor ac mae canolbarth Cymru yn cynnig amgylchedd delfrydol lle gellir profi arloesedd sbectrwm.

Wedi’i ddatblygu dros nifer o flynyddoedd, rhagwelwyd y cysyniad gwreiddiol ar gyfer y Ganolfan Sbectrwm Genedlaethol fel partneriaeth â QinetiQ ac yn destun cais am gyllid i Fargen Twf Canolbarth Cymru.

Mae’r cynlluniau hyn wedi esblygu sy’n golygu na fydd y Ganolfan Sbectrwm bellach yn bartneriaeth gydag unrhyw sefydliad trydydd parti. Mae’r cais gwreiddiol i Fargen Twf Canolbarth Cymru hefyd wedi’i dynnu’n ôl.

Ychwanegodd yr Athro Mishra: “Gallai’r ganolfan ymchwil sbectrwm genedlaethol ddod â manteision mawr i economi canolbarth Cymru, tra’n dod â budd i fusnesau lleol a sectorau fel amaethyddiaeth sy’n troi fwyfwy at dechnoleg i gynyddu cynhyrchiant a lleihau ei heffaith amgylcheddol,” ychwanegodd.