Polisi buddsoddi newydd i weithio tuag at sero net
03 Gorffennaf 2024
Mae ymrwymiad Prifysgol Aberystwyth i leihau ei hôl troed carbon wedi cymryd cam pellach ymlaen yr wythnos hon gyda chyhoeddi ei pholisi buddsoddi newydd.
Datblygwyd y polisi gan Bwyllgor Buddsoddi’r Brifysgol, sy’n cynnwys cynrychiolwyr myfyrwyr a staff, ac wedi’i gymeradwyo gan Gyngor y Brifysgol, ac mae’n nodi dull y sefydliad o wneud penderfyniadau buddsoddi mewn modd cyfrifol a gonest.
Gan adeiladu ar y polisi blaenorol a gyflwynwyd yn 2019, mae’r polisi newydd yn tynhau’r meini prawf ar gyfer gwneud penderfyniadau buddsoddi yn seiliedig ar gred y Pwyllgor Buddsoddi bod newid hinsawdd yn ‘fygythiad systemig’.
Er mwyn rheoli’r risg hon, bydd y Pwyllgor Buddsoddi yn gweithio tuag at sefydlu portffolio sero net, gan adlewyrchu uchelgais y Brifysgol i ddod yn ystâd garbon niwtral erbyn 2030.
Mae’r nod sero net wedi’i nodi mewn cyfres o gredoau a pholisïau a fabwysiadwyd gan y pwyllgor â’r nod o ddileu sectorau sy’n cael effaith negyddol ar gymdeithas neu’r amgylchedd.
Mae’r rhain yn cynnwys arfau a systemau arfau dadleuol, tybaco, y rhai sy’n torri Cytundeb Byd-eang y Cenhedloedd Unedig (UN Global Compact Violators) a’r rhai sy’n mynd yn groes i gyfraith ryngwladol.
Er mwyn gweithredu'r polisi newydd, penodwyd cynghorwyr a rheolwyr buddsoddi newydd a sefydlwyd cronfeydd buddsoddi cyfun newydd sy'n dilyn meini prawf Amgylcheddol, Cymdeithasol a Llywodraethol llymach.
Dywedodd Simon Crick, Cyfarwyddwr Cyllid a Chynllunio Prifysgol Aberystwyth:
“Mae Prifysgol Aberystwyth wedi llwyddo i gymryd camau sylweddol i ddatgarboneiddio ei phortffolio buddsoddi dros y blynyddoedd diwethaf ac mae’r polisi newydd hwn yn tanlinellu ymhellach ein hymrwymiad i fuddsoddi’n gymdeithasol gyfrifol. Mae’r polisi newydd yn golygu y byddwn yn rhoi mwy o bwyslais ar agweddau cymdeithasol ar fuddsoddiadau megis cydraddoldeb ac amrywiaeth, yn ogystal â materion amgylcheddol, ac yn canolbwyntio’n fanylach ar fuddsoddiadau anuniongyrchol posibl a allai fynd yn groes i’r credoau amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethiant rydyn ni wedi’u nodi.
“Mae’r polisi newydd hefyd wedi’i gynllunio i fynd i’r afael â rhai o’r pryderon a gafodd eu codi yn sgil digwyddiadau rhyngwladol diweddar. Dylai tynhau’r polisi leihau ymhellach y gyfran fechan iawn o gronfeydd y Brifysgol sydd o bosibl wedi’i buddsoddi’n anuniongyrchol mewn cwmnïau nad ydyn nhw’n bodloni ein meini prawf, a bydd yn golygu mwy fyth o graffu ar y ffordd y mae ein buddsoddiadau ni’n cael eu cadw.”
Mae’r gwaith o sefydlu’r cronfeydd newydd yn mynd rhagddo ac mae’n fwriad gan y Brifysgol gyhoeddi’r wybodaeth ar ei gwefan yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf.
O dan y polisi newydd [ychwanegu dolen] mae’r Brifysgol yn parhau i fynnu bod ei Rheolwyr Buddsoddi yn llofnodwyr i Egwyddorion Buddsoddi Cyfrifol (https://www.unpri.org/) a sefydlwyd fel rhan o fenter gan Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig ar y pryd Kofi Annan.