Morloi yn datgelu oedran dŵr yr Antarctig am y tro cyntaf

Llong ymchwil y Syr David Attenborough, credyd llun Jenna Plank, Arolwg Antarctig Prydain.

Llong ymchwil y Syr David Attenborough, credyd llun Jenna Plank, Arolwg Antarctig Prydain.

01 Gorffennaf 2024

Mae oedran dŵr yr Antarctig wrthi’n cael ei ddatgelu gan forloi am y tro cyntaf.

Mae ymchwilwyr o Brifysgol Aberystwyth yn dechrau derbyn data lloeren wrth forloi sy’n dangos faint o ocsigen sydd yn nŵr y rhanbarth - ffordd o fesur ei oedran ac o le y mae’n dod.

Yn rhan o’r ymdrech ryngwladol i ddeall effeithiau newid hinsawdd mewn rhanbarthau pegynol, mae’r data yn cael eu defnyddio er mwyn gweld sut mae cylchrediad dŵr yn newid a’i effaith ar rewlifoedd.

Bydd pa mor bell a pha mor gyflym y mae'r cerrynt cynnes yn llifo o dan rewlifoedd yr Antarctig, gan eu dadmer oddi tano, yn effeithio ar pa mor gyflym y byddan nhw’n cilio.

Gallai eu diflaniad arwain at gynnydd trychinebus yn lefel y môr; gan adael aneddiadau arfordirol mawr ar draws y byd o dan y dŵr.

Yn gynharach eleni, buodd Dr Gui Bortolotto o Brifysgol Aberystwyth yn darganfod lleoliad ac yn tagio morloi yn yr Antarctig yn ystod taith llong ymchwil y Syr David Attenborough, fel rhan o brosiect PICCOLO.

Mae e bellach yn derbyn y data’n ddyddiol trwy loeren gan olrhain symudiadau morloi ar draws Gogledd-ddwyrain Môr Weddell ac asesu newidiadau yng nghylchrediad y dŵr yn y rhanbarth.

Os daw rhagor o ddŵr i mewn i’r Antarctig o'r tu allan, gallai fod yn arwydd y bydd y cefnfor yn cynhesu’n gyflymach.

Dywedodd Dr Gui Bortolotto o Brifysgol Aberystwyth:

“Rydyn ni’n gwybod bod yr iâ yn yr Antarctig yn dadmer a bod lefel y môr yn mynd i godi dros amser. Mae newid hinsawdd yn digwydd, ond mae’r ffordd mae’n ei newid yn allweddol er mwyn darogan cyflymder y broses.

“Mae’r data sy’n dod yn ôl gan y morloi yn dweud wrthon ni faint o ocsigen sydd ynddo ac felly ei oedran. Mae hefyd yn dweud wrthon ni i ba raddau mae cylchrediad y dŵr yn newid. Mae faint o ddŵr sy’n dod i mewn o gefnforoedd eraill yn cael effaith fawr ar gyflymder dadmer y rhewlifoedd - ac mae hynny â goblygiadau mawr i ni gyd.”

Hyd yn oed gydag offer blaengar, gall fod yn anodd iawn mesur nodweddion dŵr dwfn yn Antarctica - yn enwedig o dan yr iâ.

Fodd bynnag, mae morloi Weddell ac eliffant yn nofio'n rheolaidd trwy'r union ddyfroedd y mae gwyddonwyr am eu monitro, gan blymio i ddyfnderoedd o dros 1000 o fetrau. 

Ychwanegodd Dr Bortolotto:

“Mae deall y newidiadau yn y cefnforoedd hyn, gan gynnwys cynhesu rhanbarthau penodol, yn rhan hanfodol o roi'r offer i lunwyr polisi gyfyngu ar yr argyfwng hinsawdd a'i liniaru. Mae morloi yn greaduriaid gwerthfawr a hardd ac mae’n fraint gweithio gyda nhw. Maen nhw fel tîm ymchwil arbennig - yn cyrraedd mannau na all hyd yn oed ein technoleg fwyaf datblygedig eu cyrraedd.

“Mae gen i ddiddordeb arbennig mewn ymchwilio i wahanol bethau am ecoleg ac ymddygiad y morloi hynny, fel nodweddion plymio a’r mannau y mae’n well ganddyn nhw fynd iddyn nhw. Gobeithio y bydd eu nofio yn helpu’r byd i ddeall yr effaith ddifrifol y mae newid hinsawdd yn ei chael ar ein planed.”

Ariennir y prosiect ymchwil PICCOLO gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol.