Diwrnod ysgrifennu creadigol yn canolbwyntio ar lenorion ar y cyrion

Y Tŷ Trafod yn y Ganolfan Ddelweddu ar Gampws Penglais Prifysgol Aberystwyth

Y Tŷ Trafod yn y Ganolfan Ddelweddu ar Gampws Penglais Prifysgol Aberystwyth

27 Mehefin 2024

Bydd digwyddiad a gynhelir gan arbenigwyr ysgrifennu creadigol ym Mhrifysgol Aberystwyth y mis nesaf yn canolbwyntio ar rymuso llenorion ar y cyrion i sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed.

Mae Canolfan Creadigrwydd a Lles y Brifysgol yn trefnu 'Diwrnod Meddiannu gan Llenorion ar y Cyrion' ddydd Sadwrn 13 Gorffennaf, yn y Tŷ Trafod yn y Ganolfan Ddelweddu ar Gampws Penglais.

Anelir y diwrnod at awduron sy'n cael eu gwthio i'r cyrion gan ffactorau sy’n hil, abledd, incwm isel, homoffobia, rhagfarn wrth-draws, neu ddosbarth.

Mae'r rhaglen yn cynnwys sgyrsiau, trafodaethau panel, gweithdai a dathliad meic agored. Bydd cyfleoedd i roi llwyfan i waith newydd, siarad ag awduron eraill a gwrando ar bobl sy'n gyrru dulliau gwahanol o gyhoeddi yng Nghymru.

Sairah Ahsan o’r Adran Saesneg & Ysgrifennu Creadigol yw un o'r trefnwyr:

"Bydd ein digwyddiad yn creu lle ar gyfer deialog rhwng awduron sydd ar y cyrion am ba reswm bynnag, a phobl sy’n awyddus i roi llwyfan i’r lleisiau hyn i gael gwell dealltwriaeth o'r heriau sy'n eu hwynebu.

"Ein nod yw meithrin eu hyder, darparu cyngor a fydd yn hwyluso cyfleoedd i gyhoeddi gwaith a chael tâl yn y dyfodol, a rhoi'r cyfle iddynt feithrin cysylltiadau a fydd yn arwain at ddatrys problemau."

Ychwanegodd y cyd-drefnydd, Jo Lambert:

"Mae'n rhwystredig byw mewn byd lle mae pobl yn fwy tebygol o gael llwyfan os ydyn nhw'n ddosbarth canol, yn gefnog, yn wyn, cis, yn abl ac yn syth. Nhw hefyd yw’r rhai sydd fwy tebygol o fod yn rhoi adborth ar ein gwaith fel asiantau neu gyhoeddwyr. Gall hyn fod yn arbennig o anodd pan nad oes ganddynt unrhyw syniad sut i fynegi ein profiad byw ni yn iawn. Nod y diwrnod yw rhoi'r sgwrs yn ôl i awduron nad oes ganddyn nhw lais bob amser."

Bydd y siaradwyr ar y diwrnod yn cynnwys yr awduron Durre Shawar, Grace Quantock, Isabel Adonis, Joshua Jones, a Gareth James.  Bydd y cyhoeddwyr Parthian, Wizard’s Tower Press, y cylchgrawn Gwyllion, a Broken Sleep Books yn bresennol ynghyd â’r cylchgrawn materion cyfoes Cymreig The Welsh Agenda a Newyddiaethaeth Gynhwysol Cymru.

Mae'r digwyddiad yn rhad ac am ddim ac mae croeso i awduron y cyhoeddwyd eu gwaith a’r rhai heb eu cyhoeddi fel ei gilydd.  Darperir lluniaeth. 

Bydd hi’n bosib ymuno ar-lein hefyd trwy Teams. Mae'n rhaid archebu lle yn y digwyddiad wyneb-yn-wyneb ac ar-lein ymlaen llaw yn:
https://www.tickettailor.com/events/marginalisedwritersday/1285501 

Trefnir y Diwrnod Meddiannu gan Awduron ar y Cyrion gan Ganolfan Creadigrwydd a Lles Prifysgol Aberystwyth, ac fe'i noddir gan Parthian Books, Llenyddiaeth Cymru a Newyddiaduraeth Gynhwysol Cymru.