Bygythiadau i ieithoedd lleiafrifol dan sylw arbenigwyr rhyngwladol

Dr Elin Royles yw un o drefnwyr y gynhadledd

Dr Elin Royles yw un o drefnwyr y gynhadledd

26 Mehefin 2024

Bydd y bygythiadau sy’n wynebu ieithoedd rhanbarthol neu leiafrifol dan y chwyddwydr mewn cynhadledd ryngwladol sydd i’w chynnal ym Mhrifysgol Aberystwyth ym mis Gorffennaf.

Bydd y digwyddiad yn denu academyddion ac ymarferwyr o bob rhan o Ewrop sy’n arbenigwyr ar y Gymraeg a thros deg o ieithoedd rhanbarthol a lleiafrifol eraill.

Ystyriaeth allweddol i'r gynhadledd fydd sut orau mae ymchwilio i’r prif heriau sy’n wynebu llunwyr polisi ac ymarferwyr iaith.

Mae Dr Elin Royles, Darllenydd yn Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth, yn un o drefnwyr y digwyddiad ar ran Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru (CWPS). 

“Rydym yn falch iawn o gael cynnal y gynhadledd ryngwladol hon ar adeg pan fo academyddion a llunwyr polisi yn dod yn fwyfwy ymwybodol o’r bygythiadau sy’n wynebu ieithoedd rhanbarthol a lleiafrifol. Mae gan ymchwil academaidd ran allweddol i'w chwarae nid yn unig wrth nodi heriau ond hefyd o ran amlygu a rhannu arfer gorau a chynnig atebion ymarferol.

“Bydd ein rhaglen ddeuddydd yn cynnwys sesiynau ar hybu defnydd iaith, yn enwedig mewn meysydd allweddol fel addysg, pobl ifanc, gofal iechyd, cymunedau a’r gweithle, yn ogystal ag ymchwilio dwyieithrwydd, defnyddio technoleg fel arf ymchwil, a’r angen am ymchwil amlddisgyblaethol wrth ystyried ieithoedd lleiafrifol.”

Trefnir y gynhadledd ar y cyd gan Rwydwaith Iaith Canolfan Ymchwil WISERD; Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac UniNet, sy’n rhan o’r Rhwydwaith Hyrwyddo Amrywiaeth Ieithyddol (NPLD).

Mae manylion llawn yn cynnwys sut i gofrestru ar gael ar-lein:
cwps.aber.ac.uk/cy/ymchwil/themau-ymchwil/cynhadledd-methodolegau-2024