Hwb ariannol i ymchwil bwyd drwy Gronfa Ddaear Bezos

Dr David Bryant, Prifysgol Aberystwyth

Dr David Bryant, Prifysgol Aberystwyth

24 Mehefin 2024

Bydd ymchwil Prifysgol Aberystwyth yn elwa o fod yn rhan o grant $30 miliwn gan Gronfa Ddaear Bezos i wneud systemau bwyd byd-eang yn fwy ecogyfeillgar, mewn prosiect rhyngwladol a arweinir gan Goleg Imperial Llundain.

Bydd cyllid ar gyfer Canolfan Protein Cynaliadwy Bezos yn helpu i ddatblygu cynhyrchion bwyd amgen sy'n fuddiol yn economaidd ac yn amgylcheddol yn ogystal ag yn faethlon, fforddiadwy a blasus.

Bydd y Ganolfan newydd yn datblygu ymchwil i eplesu manwl gywir, cig wedi'i feithrin, biobrosesu ac awtomeiddio, maeth, a deallusrwydd artiffisial a dysgu peirianyddol.

Mae Cronfa Ddaear Bezos yn darparu'r cyllid fel rhan o ymrwymiad $100 miliwn i ddatblygu protein cynaliadwy amgen ac ehangu dewis defnyddwyr, ac ymrwymiad cyffredinol o $1 biliwn i drawsnewid bwyd.

Mae Canolfan Protein Cynaliadwy newydd Bezos yn un o nifer o Ganolfannau Cronfa’r Ddaear sy’n gweithio gyda sefydliadau eraill a phartneriaid diwydiant i ddatblygu a masnacheiddio cynhyrchion protein amgen newydd er mwyn rhoi mwy o ddewis i ddefnyddwyr o ran cynnyrch cig a llaeth.

Dywedodd Dr David Bryant o Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth:

“Mae’n wych bod yn bartner allweddol yn y ganolfan newydd hon. Rydyn ni’n gwybod bod bwydo poblogaeth gynyddol y byd mewn ffordd gynaliadwy yn ganolog i ymdrechion i fynd i’r afael â newid hinsawdd.

“Mae protein yn hanfodol i iechyd pobl; ‘dyw ein celloedd, meinweoedd, ac organau ddim yn gallu gweithredu hebddo fe. Wrth i boblogaeth y byd ehangu, bydd iechyd pobl a'r blaned yn dibynnu fwyfwy ar argaeledd eang proteinau sy'n blasu'n dda ac sy'n cael eu cynhyrchu mewn ffyrdd sy'n lleihau allyriadau ac yn gwarchod natur.

“Gan weithio gyda’r diwydiant bwyd-amaeth, gallwn ni ddefnyddio’r buddsoddiad hwn i helpu i lywio a chyflymu’r llwybr tuag at sero net.”

Yng Ngholeg Imperial Llundain y bydd prif leoliad y Ganolfan , gyda Phrifysgol Aberystwyth yn un o dri phartner yn y Deyrnas Gyfunol. Bydd tri phartner dramor hefyd, gyda mwy na 65 o bartneriaid rhyngwladol yn cwmpasu meysydd ymchwil ac arloesi blaengar i fasnacheiddio cynhyrchion newydd.

Dywedodd yr Athro Hugh Brady, Llywydd Coleg Imperial Llundain:

“Diogelwch bwyd yw un o’r heriau mwyaf sy’n wynebu dynoliaeth. Er mwyn sicrhau dyfodol cynaliadwy, mae angen i ni sicrhau y gall pobl ledled y byd gael eu bwydo’n ddigonol ac yn faethlon gyda’r effaith leiaf bosibl ar fioamrywiaeth, hinsawdd a’n hamgylchedd naturiol ehangach.

“Mae gan Imperial yr ymchwil blaengar, yr arloesedd, y partneriaethau a’r nerth i dynnu eraill ynghyd i ddatblygu systemau bwyd byd-eang ac rydyn ni’n llawn cyffro am botensial ein Canolfan Bezos newydd ar gyfer Protein Cynaliadwy.”

Dywedodd Dr Andrew Steer, Llywydd a Phrif Swyddog Gweithredol Cronfa’r Ddaear:

“Mae Cronfa Ddaear Bezos yn falch o gefnogi Imperial fel cartref ar gyfer ein hail ganolfan brotein cynaliadwy. Erbyn 2050 bydd poblogaeth y byd yn uwch na 10 biliwn, felly nawr yw’r amser i ailfeddwl y ffordd rydyn ni’n cynhyrchu ac yn bwyta bwyd. Bydd y gwaith hwn yn helpu i sicrhau bod ein dyfodol yn cynnwys mwy o opsiynau protein – a’u bod yn blasu’n wych, yn faethlon ac yn isel o ran eu cost.”