Gwobr gynllunio o fri i brosiect yr Hen Goleg

Chwith i’r Dde: Mathew Dyer, Austin-Smith:Lord (Cadwraeth Bensaernïol); Lyn Hopkins, Lawray (Penseiri), Andrea James, Cyfarwyddwr Ystadau, Cyfleusterau a Llety, Prifysgol Aberystwyth; a  Dylan Green, Asbri Planning.

Chwith i’r Dde: Mathew Dyer, Austin-Smith:Lord (Cadwraeth Bensaernïol); Lyn Hopkins, Lawray (Penseiri), Andrea James, Cyfarwyddwr Ystadau, Cyfleusterau a Llety, Prifysgol Aberystwyth; a Dylan Green, Asbri Planning.

19 Mehefin 2024

Mae’r cynlluniau sy’n trawsnewid cartref Coleg Prifysgol cyntaf Cymru yn ganolfan ddiwylliannol a chreadigol o bwys wedi’u cydnabod mewn seremoni wobrwyo fawr yn Llundain.

Dan arweiniad y penseiri Lawray, enillodd y gwaith o ailddatblygu’r Hen Goleg yn Aberystwyth y wobr am y ‘Defnydd Gorau o Dreftadaeth wrth Greu Lleoedd’ yng Ngwobrau Cynllunio 2024 y mis hwn.

Mae’r wobr yn cydnabod prosiectiau sy’n defnyddio treftadaeth safle mewn ffordd sy’n gwella cymuned.

Unwaith y bydd wedi’i gwblhau, disgwylir i’r Hen Goleg ddenu 200,000 o ymwelwyr a chyfrannu hyd at £14.5m yn flynyddol i’r economi leol, gan ei roi ar yr un lefel â chyrchfannau twristiaeth o bwys megis cestyll Caernarfon a Chonwy.

Dywedodd Lyn Hopkins o Lawray a phrif bensaer prosiect yr Hen Goleg: “Mae hwn yn newyddion gwych i’n tîm amlddisgyblaethol, sy’n cynnwys Austin-Smith:Lord (Cadwraeth Bensaerniol), Asbri Planning, Hoare Lee (MEP), Mann Williams Peirianwyr Ymgynghorol Strwythurol a Sifil, Blake Morgan LLP, a’r Prif Gontractwr, Andrew Scott Cyf.”

Dywedodd yr Athro Anwen Jones, Arweinydd Gweithredol Prifysgol Aberystwyth ar brosiect yr Hen Goleg: “Mae hyn yn newyddion ardderchog; llongyfarchiadau i'r tîm cyfan a fu'n ymwneud â'r gwaith dylunio ar gyfer y prosiect uchelgeisiol hwn. Ers dros 150 o flynyddoedd, mae’r Hen Goleg wedi ysbrydoli cenedlaethau o fyfyrwyr, staff ac ymwelwyr ag Aberystwyth. Mae’r wobr hon yn cydnabod gweledigaeth y tîm dylunio ar gyfer creu gofodau ysbrydoledig newydd ac agor yr adeilad mewn ffyrdd nas gwelwyd o’r blaen, tra’n parchu ei dreftadaeth bensaernïol gyfoethog y mae cymaint yn ei garu.”

Datblygodd yr Hen Goleg o gasgliad o adeiladau pensaernïol arwyddocaol o'r 18fed a'r 19eg ganrif sy’n cael eu hadlewyrchu yn ei statws rhestredig gradd I.

Wedi'i lywio gan yr arwyddocâd hwn, bydd adfywio'r adeiladau yn cynnal ac yn defnyddio'r gwerthoedd hyn i gyfrannu'n gadarnhaol at Aberystwyth.

Mae'r prif gontractwr, Andrew Scott Ltd, wedi dechrau adeiladu atriwm newydd yr Hen Goleg, sy'n allweddol i ddatgloi potensial yr adeilad.

Bydd y gofod dramatig tri llawr yn ymestyn dros y filas rhestredig gradd II cyfagos, ac yn cynnig mynediad i saith llawr yr Hen Goleg am y tro cyntaf yn ei hanes, drwy’r grisiau a’r lifftiau newydd.

Cefnogir prosiect yr Hen Goleg gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Llywodraeth Cymru a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, Cronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU, Cronfa Cymunedau’r Arfordir, Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, ymddiriedolaethau dyngarol, ac unigolion.