Dathlu Wythnos Ffoaduriaid 2024 yn Aberystwyth

19 Mehefin 2024

Daeth ffoaduriaid, sefydliadau cymorth lloches, llunwyr polisi ac ymchwilwyr academaidd o bob rhan o Gymru ynghyd yn Aberystwyth ddydd Mercher 19 Mehefin ar gyfer dathliad arbennig o gelf, cerddoriaeth, barddoniaeth a chymunedau amrywiol i nodi Wythnos Ffoaduriaid 2024.

Roedd y rhaglen o weithgareddau yn bandstand y dref yn cynnwys gweithdy a ddaeth ag ymchwilwyr a myfyrwyr o Brifysgol Aberystwyth ynghyd â phobl o gefndiroedd ffoaduriaid o nifer o wledydd, gan gynnwys Syria, Swdan, Irac a’r Wcráin, yn ogystal â chynrychiolwyr o lywodraeth leol, cyrff anllywodraethol NGO ac elusennau o Geredigion, Caerdydd ac Abertawe.

Nod y gweithdy oedd defnyddio dulliau creadigol, sy’n seiliedig ar y celfyddydau, i ystyried blaenoriaethau a phryderon cymunedau ffoaduriaid, a meithrin cysylltiadau a chydweithio rhwng y cymunedau hyn ac ymchwilwyr ac ymarferwyr.

Dywedodd cyd-drefnydd y digwyddiad, Dr Naji Bakhti o Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol y Brifysgol:

“Fe wnaethon ni ddylunio’r gweithdy hwn i gyd-fynd â thema Wythnos Ffoaduriaid 2024, sef ‘cartref’, a defnyddion ni ddyfyniad Maya Angelou i ysbrydoli ein trafodaethau: ‘The ache for home lives in all of us. The safe place where we can go as we are and not be questioned.’ 

“Gan ddefnyddio collage fel cyfrwng creadigol, gwahoddwyd yr holl gyfranogwyr i ystyried beth sy’n gwneud i ni deimlo’n ddiogel neu ‘gartref’. Yna defnyddiwyd y collages hyn i ysgogi sgyrsiau am sut a ble y gall pobl ddod o hyd i’r hyn sydd ei angen arnynt i deimlo’n ddiogel neu ‘gartref’, gan nodi meysydd lle nad yw’r anghenion hyn yn cael eu diwallu ac edrych ar sut y gallwn ni gydweithio i greu’r rhain yn ein cymunedau.”

Caiff y gwaith collage ei arddangos yr wythnos nesaf yng Nghynhadledd Ymchwil Dulliau Arloesol Mewn Ymfudo ym Mhrifysgol Fetropolitan Manceinion.

Ychwanegodd Dr Katy Budge, cyd-drefnydd a darlithydd yn Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol y Brifysgol:

“Mae pobl sydd â phrofiad byw o ddadleoli yn aml yn cael eu cadw ar gyrion ymchwil ac ymyriadau polisi neu ymarferwyr ar faterion mudo a lloches. Nod y diwrnod hwn oedd herio’r ddeinameg honno drwy cynnig digwyddiad a lywiwyd gan sgyrsiau ag aelodau o’r ‘gymuned ffoaduriaid’ ac a oedd yn ymgysylltu’n uniongyrchol â’r rhai sy’n destun ymchwil a pholisi ymfudo a lloches.

“Byddwn nawr yn adeiladu ar y cysylltiadau a’r rhwydweithiau a ffurfiwyd o fewn a thu hwnt i’r byd academaidd yr wythnos hon i lywio prosiectau cymunedol, prosiectau ymchwil, cynigion ariannu a chyfnewid gwybodaeth yn y dyfodol.”

Roedd gweithgareddau eraill yn cynnwys cinio rhwydweithio, gyda bwyd yn cael ei ddarparu gan Brosiect Cinio Syria, busnes lleol a sefydlwyd gan ffoaduriaid o Syria.

Gwahoddwyd aelodau’r cyhoedd hefyd i ymuno â gweithdai creadigol agored gydag ymchwilwyr, myfyrwyr ac unigolion â chefndir ffoadur. Unwaith eto, defnyddiwyd collages cydweithredol ac ymyriadau celfyddydol eraill i ystyried themâu allweddol yn ymwneud â dadleoli a mudo gorfodol, gan gynnwys cartref, alltudiaeth, symud, noddfa, undod a ffiniau.

Ddydd Sadwrn 22 Mehefin, caiff y ffilm ‘Green Border’ ei dangos yn sinema Canolfan Celfyddydau Aberystwyth gyda thrafodaeth yn dilyn ar gyfundrefn ffiniau’r UE yng nghwmni Dr Budge.

Ariannwyd prosiect Wythnos y Ffoaduriaid gan Strategaeth Arloesedd a Chyfnewid Gwybodaeth y Brifysgol drwy ei rhaglen AberCollab sy’n helpu ymchwilwyr i adeiladu a chryfhau cydweithrediadau a rhannu gwybodaeth yn effeithiol i gefnogi arloesedd ac effaith ymchwil.

Dywedodd Dr Jen Wolowic, Prif Arweinydd Canolfan Ddeialog y Brifysgol:

“Roedd yn wych gweld cymaint o wynebau hapus a phontio rhwng syniadau ymchwil â phrofiadau byw aelodau o’n cymunedau yn Aberystwyth a thu hwnt. Roedd hefyd yn wych gweld y gweithdai yn defnyddio pecyn cymorth Deialog Mewn Collage a lansiwyd yng Ngŵyl y Gelli ym mis Mai 2024 gan y Ganolfan Ddeialog a Chanolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth.”

Wythnos Ffoaduriaid yw gŵyl gelfyddyd a diwylliant fwyaf y byd sy’n dathlu cyfraniadau, creadigrwydd a gwydnwch ffoaduriaid a phobl sy’n ceisio noddfa. Fe’i sefydlwyd ym 1998 yn y DG ac mae’r mae’n asio ag amcanion Diwrnod Ffoaduriaid y Byd, a ddathlir yn fyd-eang ar 20 Mehefin.