Cydnabod arloeswraig ym maes menywod mewn cyfrifiadura ar restr Anrhydeddau Penblwydd y Brenin

Dr Hannah Dee MBE

Dr Hannah Dee MBE

14 Mehefin 2024

Mae sylfaenydd cynhadledd arloesol sy’n hyrwyddo rôl menywod mewn technoleg wedi cael ei chydnabod ar rhestr Anrhydeddau Penblwydd y Brenin.

Sefydlodd Dr Hannah Dee, uwch ddarlithydd mewn cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Aberystwyth, Colocwiwm Lovelace BCSWomen 17 mlynedd yn ôl, yn sgil profiad brawychus o fod yr unig fenyw yn yr ystafell wrth gyflwyno gwaith yn ei chynhadledd gyfrifiadura ryngwladol gyntaf fel myfyriwr PhD.

Mae Dr Dee yn cael ei chydnabod yn eang fel un o’r menywod mwyaf dylanwadol ym myd TG ac mae ganddi dros 20 mlynedd o brofiad ym myd addysgu ac Ymchwil. Mae’n derbyn yr MBE am ei  gwasanaeth i ‘Dechnoleg ac i Fenywod yn y Sector Technoleg Gwybodaeth’.

Sefydlodd Dr Dee Colocwiwm Lovelace yn 2008 tra’n ymchwilydd ym Mhrifysgol Leeds, ac mae wedi bod yn gadeirydd neu’n ddirprwy gadeirydd bob blwyddyn ers hynny.

Y gynhadledd undydd flynyddol i fenywod a myfyrwyr anneuaidd ym maes cyfrifiadura a phynciau cysylltiedig yw’r fwyaf o’i bath yn y DU ac mae’n darparu fforwm i fyfyrwyr israddedig a Meistr rannu eu syniadau a rhwydweithio.

Wrth dderbyn y wobr, mae Dr Dee yn dilyn yn ôl troed ei thad a gafodd yr OBE am wasanaethau i gydraddoldeb yn 2002.

Dywedodd Dr Dee: “Rwy’n hynod falch bod fy nghyfraniad yn cael ei gydnabod fel hyn, ac mae derbyn y wobr hon am waith ym maes cydraddoldeb yn arbennig iawn i mi gan ei fod yn adlewyrchu’r gydnabyddiaeth a roddwyd i fy nhad dros ugain mlynedd yn ôl, pan oeddwn yn dechrau ar fy ngyrfa academaidd.

“Mae Colocwiwm Lovelace wedi bod yn rhan fawr o fy mywyd ac mae’n braf iawn cael fy nghydnabod am waith sydd wedi rhoi llwyfan i filoedd o fenywod a myfyrwyr anneuaidd rannu eu syniadau gyda’u cyfoedion ym maes cyfrifiadura mewn amgylchedd cefnogol. Hoffwn hefyd gydnabod cyfraniad Prifysgol Aberystwyth a’r Adran Gyfrifiadureg sydd wedi cefnogi’r digwyddiad yn hael trwy roi’r amser sydd ei angen i mi a chydweithwyr ddatblygu’r digwyddiad ac annog ein myfyrwyr i fynychu. Wedi’r cyfan, rydyn ni’n gwneud hyn ar gyfer ein myfyrwyr.”

Llongyfarchodd yr Athro Jon Timmis, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, Dr Dee ar ei llwyddiant: “Ar ran y Brifysgol hoffwn longyfarch Dr Dee yn gynnes iawn ar dderbyn yr MBE. Mae ei hymroddiad i hyrwyddo cydraddoldeb mewn cyfrifiadureg yn rhyfeddol ac mae’r wobr hon yn gydnabyddiaeth haeddiannol iawn o’r hyn y mae wedi ei gyflawni wrth roi llais i fenywod a myfyrwyr anneuaidd mewn byd sy’n cael ei ddominyddu’n draddodiadol gan ddynion. Dylai’r ffaith bod ein Prifysgol ni wedi rhoi’r amser sydd ei angen arni hi a’i chydweithwyr dros y blynyddoedd i ddatblygu Colocwiwm Lovelace ac annog ein myfyrwyr i gymryd rhan a llwyddo, fod yn destun balchder mawr i bawb yma ym Mhrifysgol Aberystwyth.”

Mae Dr Dee, sy’n cael ei disgrifio gan y BCS fel ‘ymgyrchydd dros ferched mewn cyfrifiadura’, hefyd wedi cynnal llawer o weithdai i blant a theuluoedd, menywod sy’n dychwelyd i’r gweithle ac wedi bod yn rhan o’r rhaglen sbarduno deallusrwydd artiffisial.

Dros y blynyddoedd mae hi wedi derbyn nifer o wobrau gan gynnwys gwobr teilyngdod gwasanaeth y BCS a gwobr Gwyddoniaeth i Ferched am Fathemateg a Chyfrifiadureg, ac y mae hefyd wedi’i derbyn i Oriel Anfarwolion Menywod mewn Technoleg y cylchgrawn Computer Weekly.