Prifysgol Aberystwyth yn llongyfarch cyn Is-Ganghellor ar dderbyn y CBE
Yr Athro Elizabeth Treasure CBE
14 Mehefin 2024
Mae Canghellor ac Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth wedi llongyfarch cyn Is-Ganghellor y Brifysgol, Yr Athro Elizabeth Treasure, ar dderbyn y CBE yn Anrhydeddau Penblwydd y Brenin.
Mae’r Athro Treasure, a wasanaethodd fel Is-ganghellor ym Mhrifysgol Aberystwyth rhwng Ebrill 2017 a Rhagfyr 2023, wedi’i chydnabod am ei “Gwasanaeth i Addysg Uwch a phobl Aberystwyth a Cheredigion.”
Dywedodd Canghellor Prifysgol Aberystwyth, yr Arglwydd Thomas o Gwmgïedd: “Mae dyfarnu anrhydedd y CBE i Elizabeth Treasure yn gydnabyddiaeth arbennig. Mae’n cydnabod ei chyfraniad eithriadol at Brifysgol Aberystwyth fel ei His-Ganghellor, yr effaith aruthrol a gafodd wrth sicrhau’r llwyddiant y mae’r Brifysgol yn ei fwynhau unwaith eto a’r budd enfawr a ddaeth yn sgil hyn i’r dref, i Geredigion ac i Gymru.”
Dywedodd yr Athro Jon Timmis, Is-Ganghellor: “Ar ran y Brifysgol hoffwn longyfarch Elizabeth yn gynnes iawn ar dderbyn y CBE. Yn ystod ei chyfnod yma yn Aberystwyth, agorwyd Ysgol Filfeddygaeth gyntaf Cymru a Chanolfan Addysg Iechyd newydd sbon, y ddau’n ddatblygiadau allweddol wrth gefnogi diwydiant a gwasanaethau iechyd lleol. Yn ogystal llywiodd y Brifysgol drwy’r pandemig wrth weithio’n agos gyda gwasanaethau lleol a chenedlaethol, ac adeiladodd ar enw da rhagorol y Brifysgol am ddarparu un o’r profiadau myfyrwyr gorau yn y DU. Rydym yn hynod ddiolchgar iddi am ei hymrwymiad a’i harweiniad i sefydliad sydd mor bwysig i gynifer, yma yn Aberystwyth ac ar draws y byd.”
Mae gan yr Athro Treasure radd BDS mewn Llawfeddygaeth Ddeintyddol ynghyd â doethuriaeth o Brifysgol Birmingham.
Yn dilyn ystod o swyddi clinigol yn y Gwasanaeth Iechyd rhwng 1980 a 1990, symudodd yr Athro Treasure i Seland Newydd lle'r oedd ganddi ddwy rôl fel Deintydd Iechyd y Cyhoedd ac fel Darlithydd, ac yna Uwch Ddarlithydd, ym Mhrifysgol Otago.
Yn 1995, penodwyd yr Athro Treasure yn Uwch Ddarlithydd ac Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus Deintyddol yng Ngholeg Meddygaeth Prifysgol Cymru. Cafodd ei dyrchafu’n Athro yn 2000 a’i phenodi’n Ddeon a Rheolwr Cyffredinol yr Ysgol a'r Ysbyty Deintyddol yn 2006.
Dyfarnwyd Medal John Tomes iddi am ragoriaeth wyddonol a gwasanaeth eithriadol i'r proffesiwn gan Gymdeithas Ddeintyddol Prydain yn 2006 a Chymrodoriaeth mewn Llawfeddygaeth Ddeintyddol gan Goleg Brenhinol y Llawfeddygon yn 2011.
Yn 2010, yr Athro Treasure oedd y fenyw gyntaf i gael ei phenodi'n Ddirprwy Is-Ganghellor ym Mhrifysgol Caerdydd.