Prosiect ymchwil i drais a cham-drin domestig yn rhyddhau adnodd newydd yn Iaith Arwyddion Prydain  

14 Mehefin 2024

Mae Prosiect Dewis Choice yn nodi Diwrnod Byd-eang Ymwybyddiaeth am Gam-drin Pobl Hŷn (15 Mehefin) trwy ryddhau fersiwn yn Iaith Arwyddion Prydain o'i animeiddiad trawiadol sy'n tynnu sylw at yr heriau unigryw y mae oedolion hŷn yn eu hwynebu lle y mae camdriniaeth yn digwydd ar yr aelwyd.

Mae 'Niwed Cudd', a grëwyd mewn partneriaeth â Bwrdd Diogelu Oedolion Norfolk a’r Stiwdio Animeiddio Creative Connection, yn edrych ar brofiadau byw dioddefwyr/goroeswyr hŷn cam-drin domestig.  

Mae'r animeiddiad bellach ar gael am y tro cyntaf i bobl fyddar neu’r rhai sy’n colli eu clyw ac sy'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL).

Dywedodd Elize Freeman Cyd-Arweinydd Menter Dewis Choice:

“Mae cam-drin domestig yn brofiad echrydus i lawer, ond mae rhai dioddefwyr/goroeswyr yn dal i fod yn enwedig o anweledig oherwydd bod ganddynt heriau unigryw. Ymhlith y rhain y mae unigolion hŷn sy'n cyfathrebu drwy Iaith Arwyddion Prydain.

"Mae dioddefwyr/goroeswyr hŷn sy'n fyddar neu’n colli eu clyw yn llai tebygol o allu cael y wybodaeth sydd ar gael i'r cyhoedd am gam-drin domestig trwy’r radio, y teledu, ymgyrchoedd cyhoeddus, neu ffynonellau clywedol eraill. I'r unigolion hyn mae’r unigedd, sy’n brofiad cyffredin ymhlith dioddefwyr cam-drin domestig, yn waeth byth oherwydd y diffyg adnoddau  a gwasanaethau cymorth hygyrch i ddiwallu eu hanghenion cyfathrebu nhw."

Mae dwy filiwn o oedolion yn y Deyrnas Unedig sy'n fyddar, yn colli eu clyw neu â thinitws.

Yn yr amcangyfrif ar ôl cyfrifiad 2021, mae tua 22,000 o bobl dair oed neu’n hŷn yn defnyddio BSL yn brif iaith iddynt yng Nghymru a Lloegr.

Dywedodd Rebecca Zerk Cyd-Arweinydd Menter Dewis Choice:

"Eleni ar Ddiwrnod Byd-eang Ymwybyddiaeth am Gam-drin Pobl Hŷn, mae Dewis Choice yn annog darparwyr gwasanaethau i ddatblygu systemau cymorth mwy cynhwysol sy'n diwallu anghenion penodol defnyddwyr BSL hŷn. Mae hyn yn cynnwys darparu dehonglwyr BSL yn y gwasanaethau brys, ymgyrchoedd i godi ymwybyddiaeth yn y gymuned Fyddar a cholli clyw, a hyfforddi gweithwyr cymorth i adnabod yr arwyddion unigryw sy’n awgrymu bod unigolion hŷn yn cael eu cam-drin.

"Drwy ddarparu'r animeiddiad 'Niwed Cudd' yn BSL, gobeithiwn y bydd yr animeiddiad yn cyrraedd dioddefwyr/goroeswyr nad ydynt wedi cael sylw hyd yn hyn. Mae'n gam bach tuag at chwalu'r rhwystrau sy'n gadael defnyddwyr BSL hŷn yn agored i niwed, gan sicrhau eu bod yn cael yr addysg, y cymorth a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt."

Dywedodd Natalie Hancock, arweinydd rhanbarthol ar Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV):

"Rydym yn hynod ffodus yn y rhanbarth i gael Dewis Choice yn ein Partneriaeth VAWDASV. Cafodd yr animeiddiad 'Niwed Cudd', sy'n tynnu sylw at brofiad dioddefwyr hŷn, groeso mawr, gan dderbyn canmoliaeth gan gydweithwyr ac ymarferwyr ar draws y bartneriaeth gyfan. Drwy ein galluogi i rannu'r animeiddiad drwy gyfrwng BSL, gallwn symud yn nes at ddarpariaeth sy’n fwy cynhwysol, teg a hygyrch i bobl hŷn sy’n dioddef y mathau hyn o drais a chamdriniaeth."

Ariannwyd animeiddiad 'Niwed Cudd' ganFwrdd Diogelu Oedolion Norfolk.  Ariannwyd y fersiwn Gymraeg o'r animeiddiad gan Ranbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru o VAWDASV.  Ariannwyd y fersiwn newydd yn BSL gan Dewis Choice.

Mae Menter Dewis Choice, sydd wedi’i lleoli yn Adran y Gyfraith a Throseddeg, yn astudiaeth hirdymor yn ymchwilio i brofiad dioddefwyr/goroeswyr cam-drin domestig yn ddiweddarach yn eu bywyd. Mae hefyd yn cynnig gwasanaeth i bobl hŷn sydd wedi cael profiad o gam-drin domestig.