Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth yn cyhoeddi ei fwriad i roi’r gorau i’w rôl

Yr Athro Tim Woods

Yr Athro Tim Woods

12 Mehefin 2024

Mae Dirprwy Is-Ganghellor Dysgu, Addysgu a Phrofiad Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth wedi cyhoeddi ei fwriad i roi’r gorau i’w rôl ar ddiwedd y flwyddyn academaidd gyfredol.

Mae’r Athro Tim Woods, cyn-bennaeth yr Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol a Deon Adran y Celfyddydau, wedi bod yn Ddirprwy Is-Ganghellor ac yn aelod o Weithrediaeth y Brifysgol ers 6 blynedd ac yn bwriadu dychwelyd i waith academaidd yn y Brifysgol.

Yn ystod ei gyfnod yn y swydd, bu’r Brifysgol yn gyson ymhlith y gorau yn y DU am foddhad myfyrwyr fel rhan o’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr a dyfarnwyd iddi wobr Prifysgol y Flwyddyn Ansawdd y Dysgu gan The Times / The Sunday Times Good University Guide.

Mae’r Athro Jon Timmis, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth wedi diolch i’r Athro Woods am ei gyfraniad at lwyddiant y Brifysgol.

Dywedodd yr Athro Timmis: “Hoffwn ddiolch i Tim ar ran y Brifysgol gyfan am ei waith a’i ymroddiad dros ei gyfnod yn y rôl, a hoffwn ddiolch iddo’n bersonol hefyd am y gefnogaeth a roddodd i fi fel Is-Ganghellor ers i fi gychwyn yn y swydd.

“Yn ystod ei gyfnod fel Dirprwy Is-Ganghellor gyrrodd nifer o fentrau sydd wedi cynnig buddion mawr ar draws y Brifysgol ac wedi symud ein sefydliad yn ei flaen. Adeiladodd ar yr enw da am brofiad ein myfyrwyr, gan gyflawni canlyniadau cryf cyson yn arolwg yr NSS, gan adael gwaddol y byddai’r rhan fwyaf o brifysgolion yn dymuno ei gael.  Mae ein cynnydd yn y tablau cynghrair yn dangos bod hynny wedi talu ar ei ganfed.”

Mae diddordebau academaidd yr Athro Woods yn cynnwys ysgrifennu o’r Ugeinfed Ganrif, llenyddiaethau Affricanaidd mewn Saesneg, barddoniaeth gyfoes Brydeinig ac Americanaidd, ysgrifennu modernaidd ac ôl-fodernaidd, a theori lenyddol, yn enwedig Marcsiaeth ac ôl-strwythuriaeth.

Yn wreiddiol o Dde Affrica, mae ar hyn o bryd yn ysgrifennu llyfr ar lenyddiaeth ôl-apartheid De Affrica ac yn ymchwilio i farddoniaeth Americanaidd yn New England yn y 1950au a'r 1960au.

Cadarnhaodd yr Athro Timmis hefyd ei fwriad i recriwtio Dirprwy Is-Ganghellor newydd a bydd y broses o gynllunio’r broses ar gyfer y penodiad newydd yn dechrau ar unwaith.