Draig anwes i ymddangos am y tro cyntaf yn LabTraeth

Dr Patricia Shaw a'r ddraig robotig, sydd eto i'w henwi, y tu allan i'r Labordy Tŷ Clyfar newydd lle mae robotiaid yn cael eu profi i weld sut y gallent helpu pobl hŷn i fyw'n annibynnol yn hirach.

Dr Patricia Shaw a'r ddraig robotig, sydd eto i'w henwi, y tu allan i'r Labordy Tŷ Clyfar newydd lle mae robotiaid yn cael eu profi i weld sut y gallent helpu pobl hŷn i fyw'n annibynnol yn hirach.

06 Mehefin 2024

Bydd draig anwes robotig newydd yn gwneud ei hymddangosiad cyhoeddus cyntaf yn nigwyddiad LabTraeth Prifysgol Aberystwyth a gynhelir yn y Bandstand yn Aberystwyth ddydd Sadwrn 15 Mehefin.

Gyda’i gwisg goch lachar, ei llygaid mawr gwyrdd a chynffon sy’n fflachio, mae’r ddraig yn byw yn Labordy Tŷ Clyfar newydd y Brifysgol lle mae’n rhan o astudiaeth i sut y gallai robotiaid helpu pobl hŷn i fyw’n annibynnol yn hirach.

Ochr yn ochr â’r ddraig bydd llu o robotiaid eraill o bob lliw a llun yn cael eu harddangos yn nigwyddiad hynod boblogaidd LabTraeth a fydd ar agor i’r cyhoedd rhwng 10am a 4pm.

Bydd cadair olwyn glyfar yn cael ei harddangos yno hefyd, yn ogystal â dronau hedfan sy'n cael eu datblygu i gynorthwyo gyda chyfathrebu yn dilyn trychinebau naturiol, robotiaid rhad a ddefnyddir i fonitro newidiadau i arfordir Cymru a hyd yn oed ci sy'n perfformio triciau.

Yn ogystal, bydd aelodau presennol a chyn-aelodau clwb roboteg ar ôl ysgol a chymdeithas roboteg israddedig y Brifysgol yn dangos eu creadigaethau, gan gynnwys robot dringo agennau a ddatblygwyd gan Rowen King sydd ar hyn o bryd yn astudio ym Mhrifysgol Sheffield.

Ac, i'r rhai a hoffai ddysgu sut i adeiladu robot, bydd staff wrth law i gynnig cyngor ac arweiniad, a bydd drysfa ar gyfer gyrwyr robotiaid ifanc.

Mae LabTraeth hefyd yn nodi dechrau wythnos o ddigwyddiadau i ddathlu popeth yn ymwneud â roboteg.

Ddydd Llun 17 Mehefin, bydd Dr Patricia Shaw, Uwch Ddarlithydd yn yr Adran Gyfrifiadureg, yn trafod technoleg ar gyfer byw’n annibynnol yng Nghaffi Gwyddoniaeth Aberystwyth yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth. Mae’r digwyddiad agored i bawb ac yn dechrau am 7:30pm.

Ddydd Mawrth 18, dydd Mercher 19 a dydd Iau 20 Mehefin bydd y Brifysgol yn cynnal y Gemau Olympaidd i Robotiaid.

Mewn cydweithrediad â Chyngor Sir Ceredigion, bydd dros 300 o ddisgyblion o Ysgolion Ceredigion yn cymryd rhan mewn cystadlaethau tîm yn ymwneud ag adeiladu ac addasu robotiaid.

Dr Shaw yw cydlynydd rhaglen yr wythnos.

“Rydym yn falch iawn o gynnal LabTraeth unwaith eto yn y Bandstand, digwyddiad sydd wedi bod mor boblogaidd dros y blynyddoedd. Mae robotiaid yn dod yn rhan gynyddol bwysig o’n bywydau dydd i ddydd ac felly mae’n wych gallu dangos rhywfaint o’r ymchwil sy’n digwydd yn y Brifysgol, a’r manteision posibl y gallai’r gwaith hwn eu cynnig.”

Mae Dr Shaw yn gweithio yn Labordy Tŷ Clyfar, byngalo a gwblhawyd yn ddiweddar ar gampws Penglais, gyda robotiaid sydd wedi'u dylunio i helpu pobl hŷn i fyw'n annibynnol.

Mae'r ddraig robotig yn un o gyfres o robotiaid cydymaith a chynorthwyol sy'n cael eu profi ac sy'n ymwneud â phobl.

Mae ganddi’r gallu i symud ei lygaid, ei chlustiau a goleuo ei chynffon, a monitro symudiadau person hŷn gan ddarparu data gwerthfawr ar gyfer cynllunio gofal, a hefyd ysgogi person i symud neu ymateb iddi.

Bydd cyfle hefyd i’r rhai fydd yn ymweld â LabTraeth awgrymu enw ar gyfer y ddraig.