Ganrif yn ôl aeth menywod Cymru ati i apelio’n daer am heddwch byd – dyma eu stori

Annie Hughes Griffiths yn dal deiseb Menywod Cymru dros Heddwch yn y Tŷ Gwyn ar Chwefror 21 1924, ochr yn ochr â (chwith i’r dde) Gladys Thomas, Mary Ellis ac Elined Prys. WCIA/Archifau'r Deml Heddwch, Author provided (no reuse)

Annie Hughes Griffiths yn dal deiseb Menywod Cymru dros Heddwch yn y Tŷ Gwyn ar Chwefror 21 1924, ochr yn ochr â (chwith i’r dde) Gladys Thomas, Mary Ellis ac Elined Prys. WCIA/Archifau'r Deml Heddwch, Author provided (no reuse)

29 Mai 2024

Mewn erthygl yn The Conversation mae Jenny Mathers o’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol ar Athro Mererid Hopwood o Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd yn edrych ar stori pedair Cymraes a deithiodd i America i gyflwyno deiseb dros heddwch byd-eang.

Chwefror 11 1924, ar fwrdd yr RMS Cedric: Saw Statue of Liberty glowing in the sunlight. Bitterly cold wind, bright sunshine. At lunch, a press man came to me and said: ‘Mrs Griffiths, I am from the press.’ ‘I have nothing to say,’ I said. ‘Oh!’ said he, ‘we know your story of the Women of Wales movement, we want only your photos – will you come to the top deck when you have finished?’ So [we] trotted up to the top deck first class, where we found four burly photographers awaiting us.

Mawrth 12 1924, Los Angeles: A letter was handed to me as I left the station – an anonymous letter, telling us to get out of the United States.

Gan mlynedd yn ôl, teithiodd Annie Hughes Griffiths o Gymru i’r Unol Daleithiau gan ymweld â golygfeydd ysblennydd o Efrog Newydd i Washington DC, ac o San Francisco i Los Angeles. Ond er bod dyddiadur ei thaith yn disgrifio rhai atyniadau y byddai rhywun yn disgwyl i’r teithiwr talog ymweld â nhw – Rhaeadrau Niagara, y Grand Canyon, Pont y Glwyd Aur (neu’r Golden Gate Bridge) a Chofeb Lincoln – nid gwyliau cyffredin oedd y siwrnai hon, ac nid teithwraig gyfffredin oedd Annie Hughes Griffiths.

Roedd hi’n rhan o ddirprwyaeth o bedair Cymraes oedd â’r nod o gludo’r hyn a ddisgrifiodd y South Wales Gazette fel “bwystfil o ddeiseb” (“monster petition”) un a fyddai’n ymestyn dros saith milltir pe bai’r llofnodion wedi eu gosod ochr yn ochr. Apêl oddi wrth fenywod Cymru at fenywod America am heddwch byd-eang oedd y ddeiseb hon.

Roedd y siwrnai i’r UDA yn uchafbwynt ymgyrch chwe mis o hyd a oedd wedi gweld mwy na 400 o drefnwyr lleol yn mynd o ddrws i ddrws yn casglu llofnodion mewn trefi a phentrefi ledled Cymru. Rhyngddynt casglwyd 390,296 llofnod – camp a fyddai’n drawiadol hyd yn oed heddiw, mewn oes lle mae’r rhyngrwyd a’r cyfryngau cymdeithasol yn gallu ein cysylltu ni ar amrantiad â phobl o bob cwr o’r byd. Ond digwyddodd hyn gan mlynedd yn ôl, mewn oes lle’r oedd car a llinell ffôn eto’n destun rhyfeddod.

Cyflwynodd Hughes Griffiths a’i chyd-genhadon heddwch (â phawb wedi talu drostyn nhw eu hunain am y daith dros y dŵr) eu deiseb i brif sefydliadau menywod America, ac yn ddiweddarach i arlywydd yr Unol Daleithiau, Calvin Coolidge, yn y Tŷ Gwyn. Ond er bod llawer yn croesawu’r menywod arloesol hyn o ochr draw Môr yr Iwerydd, roedd eraill – gan gynnwys y llythyrwr dienw y mae Hughes Griffiths yn ei ddisgrifio yn ei dyddiadur – yn gwrthwynebu’n chwyrn y syniad bod yr Unol Daleithiau yn cymryd rhan mewn mentrau rhyngwladol, hyd yn oed os oedd y fenter honno’n ceisio atal rhyfel.

Er gwaethaf y sylw a ddenodd y ddeiseb yn ei dydd ar naill ochr i’r cefnfor – a chreu rhwydweithiau sefydliadol a phersonol hirhoedlog rhwng ymgyrchwyr heddwch Cymru ac America – pylodd hanes yr ymdrech anghyffredin hon o’n cof-ar-cyd. Hyd yn oed yng Nghymru, nid yw’n ymddangos yn y llyfrau hanes, ac nid yw chwaith yn cael ei ddysgu yn yr ysgolion.

Rydyn ni’n olygyddion llyfr newydd Yr Apêl-The Appeal, sef cyfrol sy’n adrodd yr hanes coll hwn diolch i ymchwil fanwl gan awduron y penodau a’u gwaith yn cribo drwy adroddiadau mewn papurau newydd a chofnodion cyhoeddus yr 1920au, a darllen drwy ddyddiaduron a llythyron y menywod hynny (a rhai dynion) a ddaeth â maen y ddeiseb i’r wal.

Roedd digon i wahanu’r miloedd o fenywod o Gymru a lofnododd y ddeiseb: iaith, crefydd, cysylltiadau gwleidyddol, ac amgylchiadau cymdeithasol ac economaidd. Ond roedd y gwahaniaethau hyn yn ddibwys o’u cymharu â’r hyn a oedd yn eu huno: breuddwyd am fyd di-ryfel.

Cynllunio’r ddeiseb

Nid oedd y cysylltiad rhwng menywod ac achos heddwch yn beth newydd. Y ddolen hon oedd conglfaen mudiad rhyngwladol heddwch y menywod yn y cyfnod cyn y rhyfel byd cyntaf. Mudiad oedd hwn a gysylltai heddwch â’r ymgais i ymestyn hawliau sifil i fenywod – yn enwedig, ond nid yn unig, yr hawl i bleidleisio. Y rhesymeg y tu ôl i hyn oedd: pe byddai menywod yn gallu chwarae mwy o ran yn y sffêr cyhoeddus ac yn y broses o wneud penderfyniadau gwleidyddol, efallai y byddai dulliau heddychlon o ddatrys anghydfod yn cael mwy o ystyriaeth.

Lladdwyd tua 40,000 o filwyr o Gymru yn y rhyfel byd cyntaf, a dychwelodd nifer o’r 230,000 o’u cyd-wladwyr o faes y gad gyda siel-sioc (PTSD, neu anhwylder straen wedi sioc) ac anafiadau a fyddai’n newid eu bywydau. Yn wyneb effeithiau trychinebus y rhyfel ar deuluoedd a chymunedau Cymru, lledodd penderfyniad di-droi’n-ôl na ddylai’r fath gyflafan gael ei ganiatáu fyth eto.

I rai, yr ateb oedd ymroi i heddychiaeth. Chwiliodd eraill am atebion mewn pleidiau gwleidyddol: profodd y blaid Lafur yng Nghymru gefnogaeth a ddyblodd fwy neu lai y nifer o ASau a anfonwyd i’r Senedd yn Llundain rhwng 1918 ac 1922, gan gynnwys sawl un a oedd yn ymgyrchwyr yn erbyn rhyfel.

Ar yr un pryd, roedd pobl yn cydnabod yr angen dirfawr am ryw fath o ddull sefydliadol a allai ddatrys anghydfod rhyngwladol. Roedd angen sefydliad a allai dynnu cenhedloedd ynghyd er mwyn setlo eu dadleuon o gylch bwrdd negodi yn hytrach nag yn y ffosydd a’r meysydd cad. Roedd sefydliad newydd, Cynghrair y Cenhedloedd, yn cynnig gobaith o’r fath – gobaith o allu rhoi dodrefn heddwch yn eu lle.

Dwy res o ddynion mewn siwtiau yn sefyll o flaen darlun
Cynrychiolwyr Cynghrair y Cenhedloedd ar ôl ei sefydlu yng Nghynhadledd Heddwch Paris yn 1919-20.Wikimedia Commons

Wedi ei chreu gan Gytundeb Versailles a ddaeth â diwedd swyddogol i’r rhyfel byd cyntaf, y weledigaeth y tu ôl i Gynghrair y Cenhedloedd (1920-1946) oedd cynnig ffordd ymarferol o atal rhyfel yn y dyfodol. Derbyniodd groeso brwd yng Nghymru, gan gynnwys gan David, Gwendoline a Margaret Davies, brawd a dwy chwaer â phrofiad personol o erchyllterau rhyfel – David fel swyddog, Gwendoline a Margaret fel nyrsys gwirfoddol mewn ysbyty maes yn Ffrainc.

Credai’r tri ym mhotensial y gynghrair i drawsnewid gwleidyddiaeth fyd-eang. A, diolch i’r cyfoeth enfawr yr oedden nhw wedi ei etifeddu gan eu tad-cu, y diwydiannwr, David Davies, Llandinam, roedden nhw mewn sefyllfa i gynnig cymorth ymarferol i gefnogi’r ymdrechion i wireddu’r potensial hwnnw. Yn 1919, noddon nhw gadair gynta’r byd mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Dair blynedd wedi hynny, gyda rhodd gan David Davies (y mab) sicrhawyd dyfodol hir-dymor i gangen Cymru o Undeb Cynghrair y Cenhedloedd – o ran ei ymroddiad i heddwch, hwn oedd y corff mwyaf dylanwadol ymhlith cymdeithasau dinesig Prydain yn y cyfnod rhwng y rhyfeloedd

Ond tra bo’r gwaith hwn yn codi ymwybyddiaeth a chefnogaeth i amcanion y gynghrair yng Nghymru, roedd ar yr uchelgais fyd-eang angen ymroddiad gweithredol gan holl genhedloedd y byd – fel arall ni fyddai fyth yn datblygu y tu hwnt i rethreg a breuddwyd am weld dyfodol mwy heddychlon. Ac o’r cychwyn, roedd llywodraethau rhai cenhedloedd yn gyndyn o ymuno – gan gynnwys y genedl fwyaf pwerus ohonyn nhw i gyd, yr Unol Daleithiau.

 

Mae'r erthygl hon wedi ei hailgyhoeddi o The Conversation dan drwydded Creative Commons. Darllenwch yr erthygl lawn a wreiddiol yma.