Academyddion talentog o Aberystwyth wedi'u dewis ar gyfer rhaglen Crwsibl Cymru

O'r chwith i'r dde:  Rebecca Zerk, Dr Adil Mughal a Dr Kim Kenobi

O'r chwith i'r dde:  Rebecca Zerk, Dr Adil Mughal a Dr Kim Kenobi

23 Mai 2024

Mae academyddion o Brifysgol Aberystwyth sy'n ymchwilio i gam-drin domestig a phobl hŷn, problemau pacio, a sut y gellid defnyddio ystadegau ym maes bioleg wedi cael eu dewis ar gyfer rhaglen nodedig i ddatblygu arweinwyr ymchwil y dyfodol yng Nghymru. 

Rhaglen datblygu personol, proffesiynol a sgiliau arwain yw Crwsibl Cymru, sydd bellach yn ei degfed flwyddyn ac yn rhaglen arobryn a chystadleuol iawn.

Mae’n cynnwys siaradwyr gwadd, seminarau, sesiynau sgiliau a thrafodaethau anffurfiol i ysbrydoli gan roi cyfle i ymchwilwyr ystyried sut i weithio gyda’i gilydd i fynd i’r afael â’r heriau sy’n wynebu Cymru ym maes ymchwil heddiw.

Mae'r cyfle unigryw hwn, a gynigir i ddeg ar hugain o bobl yn unig bob blwyddyn, yn cefnogi arloesedd a ysbrydolir gan ymchwil, a chydweithio ar draws y disgyblaethau yng Nghymru.

Un o'r tri academydd o Brifysgol Aberystwyth sydd wedi cael ei dewis ar gyfer rhaglen Crwsibl Cymru yw Rebecca Zerk, sy'n gwneud ei Doethuriaeth ar bwnc bobl hŷn a cham-drin domestig, gan edrych yn benodol ar sut mae pobl yn ceisio cymorth yn ddiweddarach mewn bywyd. Mae Rebecca yn gweithio yn Adran y Gyfraith a Throseddeg, a hi yw Cyd-Arweinydd prosiect Dewis Choice, sef astudiaeth hirdymor yn ymchwilio i brofiad goroeswyr-dioddefwyr cam-drin domestig yn ddiweddarach yn eu bywyd. Mae hefyd yn cynnig gwasanaeth i bobl hŷn sydd wedi profi cam-drin domestig.

Mae Dr Adil Mughal, ffisegydd damcaniaethol, hefyd wedi ennill lle ar Grwsibl Cymru.  Mae Dr Mughal yn darlithio ar fodelu mathemategol, ac yn ymchwilio i broblemau’n ymwneud a phacio a meysydd o ffiseg mater meddal.

Mae'r darlithydd ystadegau Dr Kim Kenobi hefyd wedi'i ddewis.  Mae ei ddiddordebau ymchwil ef yn ymwneud â defnyddio ystadegau ym maes bioleg, gan gynnwys modelu dosbarthiad rhywogaethau a dadansoddi siapiau’n ystadegol.  Mae ei ymchwil wedi cynnwys modelu dosbarthiad rhywogaethau adar ar ddwy ochr Môr Iwerddon, gan asesu effaith newid hinsawdd a defnydd tir. 

Dywedodd yr Athro Angela Hatton, Dirprwy Is-Ganghellor Ymchwil, Cyfnewid Gwybodaeth ac Arloesi ym Mhrifysgol Aberystwyth:

"Rwy'n falch iawn bod tri academydd o Aberystwyth wedi cael y cyfle i fynd i Grwsibl Cymru.  Mae'r rhaglen yn cynnig cyfleoedd heb eu hail i feithrin cysylltiadau a rhannu syniadau ag ymchwilwyr o ddisgyblaethau eraill ac i ystyried sut y gall eich ymchwil gael mwy o effaith trwy gydweithio ac arloesi.”

Ariennir Crwsibl Cymru gan gonsortiwm o sefydliadau addysg uwch Cymru a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC).