Hanes a Hanes Cymru yn ennill gwobr Adran y Flwyddyn Aberystwyth

Aelodau o staff yr Adran Hanes a Hanes Cymru. O'r chwith i'r dde: Abby Monk, Dr Arddun Arwyn, Dr Steve Thompson, Dr Diana Valencia-Duarte

Aelodau o staff yr Adran Hanes a Hanes Cymru. O'r chwith i'r dde: Abby Monk, Dr Arddun Arwyn, Dr Steve Thompson, Dr Diana Valencia-Duarte

22 Mai 2024

Llwyddodd yr Adran Hanes a Hanes Cymru i gipio teitl Adran y Flwyddyn yng ‘Ngwobrau Addysgu, Dysgu a Phrofiad Myfyrwyr’ Undeb Aberystwyth 2024.

Cynhaliwyd y seremoni wobrwyo, a drefnir yn flynyddol gan Undeb Aberystwyth, sef undeb y myfyrwyr, ac a gefnogir gan Brifysgol Aberystwyth, ddydd Iau 2 Mai ar Gampws Penglais.

Cyflwynwyd pedair gwobr ar ddeg i gydnabod a dathlu cyfraniadau staff a myfyrwyr at y profiad o fod yn un o fyfyrwyr Aberystwyth.

Canmolwyd yr Adran Hanes a Hanes Cymru, a enillodd gwobr Adran y Flwyddyn, am ei staff croesawgar a chefnogol, gydag un dysteb yn dweud: “Mae’r holl ddarlithwyr a staff yn gweithio mor galed i wneud ein profiad y gorau y gall fod trwy farcio’n brydlon ac yn drylwyr, trefnu teithiau maes, cyfathrebu’n glir ac yn gyson, a chymryd gofal i drin ni fyfyrwyr fel unigolion.”

Dywedodd Anna Simpkins, Swyddog Materion Academaidd Undeb Aberystwyth:

"Roedd y seremoni wobrwyo eleni yn ddathliad gwych a oedd yn anrhydeddu’r goreuon o ran dysgu, addysgu a phrofiad myfyrwyr. Does unman yn debyg i Brifysgol Aberystwyth, ac mae hynny diolch i fyfyrwyr a staff fel y rhain sy'n angerddol dros brofiad myfyrwyr Aber."

Dywedodd yr Athro Tim Woods, Dirprwy Is-ganghellor Prifysgol Aberystwyth ar gyfer Dysgu, Addysgu a Phrofiad Myfyrwyr:

“Da iawn i'r holl fyfyrwyr a staff a enwebwyd ar gyfer gwobr heno, a llongyfarchiadau i'r enillwyr. Mae’r enwebiadau ar gyfer gwobrau eleni yn dangos yn glir pa mor rhyfeddol yw Prifysgol Aberystwyth – does ryfedd fod gennym hanes o lwyddiant rhagorol yn y tablau cynghrair cenedlaethol o ran profiad ein myfyrwyr ac ansawdd ein haddysgu.” 

Enillwyr Gwobrau Addysgu, Dysgu a Phrofiad Myfyrwyr Undeb Aberystwyth 2024 oedd:

Adran y Flwyddyn
Hanes a Hanes Cymru

Darlithydd y Flwyddyn
Dr Chris Finlayson, Yr Adran Ffiseg

Tiwtor Personol y Flwyddyn
Dr Neal Alexander, yr Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol

Arolygydd y Flwyddyn
Dr Amanda Clare, yr Adran Gyfrifiadureg

Aelod Staff Ategol/Gwasanaeth y Flwyddyn
Dr Claudine Young, Gwasanaethau Myfyrwyr

Hyrwyddwr Diwylliant Cymreig
Yr Athro Mererid Hopwood, Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd

Gwobr Ymrwymiad i Gyflogadwyedd Myfyrwyr
Dr Scott Tompsett, Adran y Gwyddorau Bywyd

Athro Ôl-raddedig y Flwyddyn
Harry Marsh

Cynrychiolydd Academaidd y Flwyddyn
Francesco Lanzi

Aelod Staff sy'n Fyfyriwr y Flwyddyn
Renata Freeman

Gwobr Hyrwyddwr Rhyddid
Ren Feldbruegge

Myfyriwr-Fentor y Flwyddyn
Dax FitzMedrud

Hyrwyddwr Cynaliadwyedd y Flwyddyn
Dan Whitlock

Gwirfoddolwr y Flwyddyn 
Trys Hooper