Interniaethau ymchwil rhyngwladol mawreddog i fyfyrwyr o Aberystwyth

Cordelia Bryant (chwith) ac Alice Walker a fydd yn gweithio yng Nghanada yn ystod yr haf ar ôl sicrhau Interniaethau Ymchwil Mitacs Globalink.

Cordelia Bryant (chwith) ac Alice Walker a fydd yn gweithio yng Nghanada yn ystod yr haf ar ôl sicrhau Interniaethau Ymchwil Mitacs Globalink.

22 Mai 2024

Mae dau fyfyriwr israddedig o Brifysgol Aberystwyth yn mynd i fod yn treulio'r haf yn gweithio yng Nghanada ar ôl derbyn interniaethau ymchwil mawreddog.

Bydd Cordelia Bryant ac Alice Walker yn gweithio am ddeuddeg wythnos yn Toronto a Vancouver o ddechrau mis Mehefin tan ddiwedd Awst ar ôl sicrhau lle ar raglen Interniaeth Ymchwil Mitacs Globalink.

Bydd Cordelia, sy’n astudio Mathemateg ac yn wreiddiol o Austin, Texas, ym Mhrifysgol Fetropolitan Toronto lle bydd yn gweithio ar wella cywirdeb sganiau MRI ar gyfer canfod mathau gwahanol o ganser.

Daw Alice o Ynys Wyth ac mae’n astudio Gwyddor y Gofod a Roboteg. Mi fydd e’n gweithio ym Mhrifysgol British Columbia yn Vancouver ar y rhyngwyneb rhwng hylifau a nwyon.

Dywedodd Cordelia: “Mae hon yn rhaglen gystadleuol ac rwy’n falch iawn o fod wedi sicrhau fy lle i ar gyfer yr haf hwn. Mae’n gyfle i mi ddatblygu fy niddordeb i’n y modd y mae ystadegau’n rhyngweithio â byd natur; dyma pam y gwnes i gais i weithio ar sganiau MRI. Yn y tymor hirach, rwy’n gobeithio cael gyrfa mewn ymchwil a bydd yr interniaeth hon yn rhoi cyfle i mi gael profiad o sut beth fyddai hyn. Rwyf bob amser wedi bod yn awyddus i brofi’r opsiynau sy’n fy ngorfodi i dyfu fwyaf, ac rwy’n mawr obeithio y bydd fy amser i’n Toronto yn gwneud hynny.”

Dywedodd Alice: “Rwyf wastad wedi bod eisiau mynd i Ganada ac mae’r interniaeth hon yn cynnig cyfle i mi fyw a gweithio yno am dri mis, ac ar yr un pryd ennill profiad ymchwil ymarferol gwerthfawr. Yn y pen draw, rwy’n gobeithio gweithio ym maes gwyddor y gofod ac mae’n wych cael astudio mewn adran sy’n gweithio ar daith ExoMars yr Asiantaeth Ofod Ewropeaidd, ond yn y cyfamser, rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weithio mewn maes ymchwil cwbl newydd i mi."

Wrth longyfarch Cordelia ac Alice ar eu llwyddiant, dywedodd yr Athro Tim Woods, Is-Ganghellor Dysgu, Addysgu a Phrofiad Myfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Mae rhaglen Interniaeth Ymchwil Mitacs Globalink yn denu ymgeiswyr o’r radd flaenaf ac mae llwyddiant Cordelia ac Alice yn dyst i’w hymroddiad ac i ansawdd y myfyrwyr sydd gennym ni a ym Mhrifysgol Aberystwyth. Rydym ni’n ymfalchïo’n fawr yn y profiad rydym ni’n ei gynnig ac yn annog ein myfyrwyr i ehangu eu gorwelion trwy ein rhaglenni teithio ac astudio dramor ac rwy’n falch iawn bod Cordelia ac Alice wedi manteisio’n llawn ar y cymorth y mae ein tîm Cyfleoedd Byd-eang yn ei gynnig i sicrhau’r interniaethau ar y rhaglenni hyn ac yn dymuno pob llwyddiant iddyn nhw’n ystod eu cyfnod yng Nghanada.”

Mae Interniaeth Ymchwil Mitacs Globalink yn fenter gystadleuol ar gyfer israddedigion rhyngwladol o Awstralia, Brasil, Tsieina, Colombia, Ffrainc, yr Almaen, Hong Kong, India, Mecsico, Taiwan, Tunisia, yr Wcrain, y Deyrnas Gyfunol a'r Unol Daleithiau.

O fis Mai i fis Hydref bob blwyddyn, mae ymgeiswyr yn cymryd rhan mewn interniaeth ymchwil 12 wythnos o dan oruchwyliaeth sefydliadau academaidd yng Nghanada mewn amrywiaeth o ddisgyblaethau academaidd, o wyddoniaeth, peirianneg, a mathemateg i'r dyniaethau a'r gwyddorau cymdeithasol.

Mae’r rhaglen yn un o ystod o raglenni teithio ac astudio dramor sy’n cael eu cynnig neu eu hwyluso gan dîm Cyfleoedd Byd-eang Prifysgol Aberystwyth.

Mae’r rhaglenni’n amrywio o gyfleoedd i dreulio semester neu flwyddyn dramor mewn prifysgol bartner, blwyddyn yn gweithio mewn diwydiant tramor, rhaglenni byr gan gynnwys ysgolion haf a chyllid ar gyfer cefnogi amser tramor fel rhan o’r rhaglen Cyfnewid Dysgu Rhyngwladol, Taith, sy’n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru, a Chynllun Turing Llywodraeth y DG.

Mae Cordelia ar hyn o bryd yn astudio ar y radd Meistr Integredig pedair blynedd mewn Mathemateg (MMath) yn yr Adran Fathemateg.

Mae Alice yn astudio ar y Meistr Integredig pedair blynedd mewn Gwyddor y Gofod a Roboteg (MPhys) yn yr Adran Ffiseg.