Clod Llywodraeth Prydain i brosiect gwrthfiotigau academydd

Dr Gwen Rees, Prifysgol Aberystwyth

Dr Gwen Rees, Prifysgol Aberystwyth

21 Mai 2024

Mae prosiect academydd o Brifysgol Aberystwyth i fynd i’r afael ag ymwrthedd gwrthficrobaidd wedi’i amlygu fel enghraifft o’r arfer gorau gan Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol.

Mae Rhwydwaith Pencampwyr Rhagnodi Milfeddygol, sydd wedi’i arwain gan Dr Gwen Rees o Brifysgol Aberystwyth yn gweithio i helpu milfeddygon i ragnodi gwrthfiotigau’n gyfrifol a gwella eu heffeithiolrwydd

Mae’n rhan o’r prosiect Arwain DGC ehangach, sy’n cael ei arwain gan Fenter a Busnes gyda phartneriaid prosiect WLBP, Iechyd Da a Phrifysgol Bryste, sy’n helpu ffermwyr a pherchnogion ceffylau i fynd i’r afael â lledaeniad ymwrthedd gwrthficrobaidd mewn anifeiliaid a’r amgylchedd drwy leihau’r angen i ddefnyddio gwrthfiotigau.

Mae’r rhaglen, sy’n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru, yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau amaethyddol allweddol o Gymru, partneriaid cyflenwi milfeddygol, a sefydliadau academaidd i amlygu’r broblem.

Drwy hyfforddiant, rhoi technoleg newydd ar waith, casglu data, a gwella dealltwriaeth, mae’r rhaglen yn annog a dangos ffyrdd o leihau’r angen i ddefnyddio gwrthfiotigau a’r risg o ddatblygu ymwrthedd gwrthficrobaidd.

Ym mhapur polisi newydd Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol ar fynd i’r afael ar ymwrthedd gwrthficrobaidd, mae sôn am brosiect Dr Gwen Rees fel enghraifft o sut i hybu rheolaeth wrthficrobaidd fel ffordd o wneud y gorau o’u defnydd. Mae’r papur yn nodi:

“Mae Rhwydwaith Pencampwyr Rhagnodi Milfeddygol, Arwain, wedi dod â milfeddygon o 90% o filfeddygfeydd fferm neu gymysg yng Nghymru at ei gilydd ers 2020 i gymryd rhan mewn rhaglen hyfforddiant ar ddefnyddio meddyginiaeth filfeddygol gyfrifol ochr yn ochr â grwpiau trafod, dysgu gan gymheiriaid, gweithdai, gweminarau a digwyddiadau personol ac ar-lein eraill.

“Drwy gyfuno profiad ymarferol milfeddygon fferm clinigol ag adolygiadau llenyddiaeth a gynhaliwyd gan academyddion ym Mhrifysgol Aberystwyth, lansiwyd y canllawiau clinigol hyn yn 2023 ac maen nhw wedi’u nodi mewnamrywiaeth o adnoddau, gan gynnwys canllawiau cyfeirnod cyflym fel adnodd ymarferol ar y fferm i filfeddygon, mewn dogfennau ar-lein, sy’n cynnwys yr adolygiadau llenyddiaeth sylfaenol ac mewn cynllunwyr triniaeth, y gall ffermwyr a milfeddygon eu cwblhau gyda’i gilydd i’w harddangos i holl staff y fferm.”

Dywedodd Dr Gwen Rees o Ysgol Gwyddor Filfeddygol Prifysgol Aberystwyth:

“Mae’n galonogol gweld ein prosiect yn derbyn cydnabyddiaeth o’i waith pwysig gan Lywodraeth Prydain. Mae nifer o ffrydiau gwaith y rhaglen eisoes wedi arwain at ddealltwriaeth well o ddatblygiad a lledaeniad ymwrthedd gwrthficrobaidd, ac mae’r Rhwydwaith Pencampwyr Rhagnodi Milfeddygol wedi datblygu cymuned arloesol o filfeddygon sydd wedi’u hyfforddi’n dda sy’n gallu gwneud gwahaniaeth go iawn i sut mae gwrthbiotigau yn cael eu defnyddio yma yng Nghymru.

“Rwy’ mor falch o fod wedi cael y cyfle i weithio gyda thîm gwych o gydweithwyr. Yn bennaf oll, rwy’n ddiolchgar am waith caled ac ymroddiad ein rhwydwaith o filfeddygon rhagorol am wneud y prosiect y fath lwyddiant.”

Y llynedd, enillodd Gwobrau Gwarcheidwaid Gwrthfiotig sy’n cael eu rhoi i sefydliadau ac unigolion sydd “wedi dangos llwyddiannau wrth fynd i’r afael ag ymwrthedd gwrthficrobaidd ar lefel leol, ranbarthol, neu genedlaethol”.