Ymchwil cnydau biomas â nod i roi hwb i’r economi wledig

Helyg

Helyg

20 Mai 2024

Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth yn edrych ar allu cnydau, megis helyg a gwern, fel ffynhonnell incwm amgen i ragor o ffermwyr.

Mae’r fenter, sy’n rhan o ymdrech ar draws y Deyrnas Gyfunol, yn asesu dichonoldeb cnydau biomas i wella incwm ffermydd a chynaliadwyedd amgylcheddol.  

Fel rhan o brosiect, mae’r academyddion wedi plannu ystod eang o goed sy’n tyfu’n gyflym wedi’i deilwra ar gyfer cyfnodau cynaeafu cylchdro byr na choedwigoedd traddodiadol.

Mae’r ymchwil yn edrych ar rywogaethau cynhenid fel helyg, gwern, poplar yn ogystal â rhai ecsotig megis locust du (Robinia) ac ewcalyptws.

Mae cnydau eraill, fel miscanthus, pefrwellt, sida, a phlanhigion cwpan hefyd yn cael eu tyfu yn y treialon ychydig y tu allan i Aberystwyth a saith safle arall yn y DU.

Cyfeirir atynt ar y cyd fel cnydau biomas, ac mae gan y rhywogaethau hyn sawl defnydd, gan gynnwys cynhyrchu gwres a phŵer, tanwydd trafnidiaeth, deunyddiau adeiladu, a hyd yn oed colur.Gallan nhw hefyd wella iechyd y pridd a'r ecosystem ehangach.

Mae'r holl rywogaethau lluosflwydd hyn yn tyfu'n gyflym, gyda rhai yn rhoi incwm o'r cynhaeaf cyn gynted â dwy flynedd ar ôl plannu, tra bod eraill yn cymryd mwy o amser i aeddfedu.

Mae’r treialon hyn yn rhan o’r prosiect Cyswllt Biomas sy’n cael ei ariannu gan Adran Diogelwch Ynni a Sero Net y Deyrnas Gyfunol.

Dywedodd yr Athro Iain Donnison, Pennaeth IBERS ym Mhrifysgol Aberystwyth:

“Fel rhan o nod y Deyrnas Gyfunol i gyrraedd sero net, mae cnydau biomas yn un dimensiwn addawol nad yw eto wedi gwireddu ei lawn botensial. Fel rhan o systemau amaeth, gan gynnwys amaeth-goedwigaeth, er enghraifft, mae cnydau biomas yn cyfrannu mewn sawl ffordd, gan gynnwys trwy gefnogi poblogaethau peillwyr, gwella bioamrywiaeth, cysgod i dda byw, lleihau perygl llifogydd, gwella ansawdd dŵr, cynyddu atafaeliad carbon yn y pridd a gwella iechyd y pridd.

“Er gwaethaf y manteision sylweddol hyn, mae integreiddio cnydau biomas i systemau amaeth heb ei ddatblygu’n ddigonol o hyd, ac mae’r wybodaeth sydd ar gael yn gyfyngedig. Nod y prosiect Cyswllt Biomas yw darparu'r wybodaeth gadarn, annibynnol honno ar fiomas ynghyd â'r manteision economaidd ac amgylcheddol posibl i dirfeddianwyr a rheolwyr tir. Rydyn ni’n gobeithio y bydd y math hwn o waith yn rhoi’r holl wybodaeth sydd ei hangen ar ystod eang o randdeiliaid i allu gwneud penderfyniadau ynglŷn â thyfu’r cnydau hyn, a sut maen nhw’n gweddu i hinsoddau a lleoliadau gwahanol.

“Rydyn ni’n gobeithio y bydd yr holl ymchwil yn cefnogi cynyddu’r diwydiant bio-ynni a’r lefel o blannu’r cnydau hyn sy’n ofynnol er mwyn alinio â llwybr y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd ar gyfer sero net.”

Mae prosiect Biomass Connect yn cynnwys naw sefydliad ymchwil ac endid masnachol, gan gyfuno arbenigedd academaidd ac adnoddau i sefydlu un o'r treialon cnydau biomas amlrywogaeth mwyaf ledled y DU.Mae rhagor o wybodaeth, gan gynnwys manylion am ddigwyddiadau a sioeau arddangos, ar gael yn: www.biomassconnect.org