Trobwyntiau hinsoddol: prawf cyntaf o ‘fflachiadau’ rhybudd cynnar
Drilio dwfn gwyddonol yn Chew Bahir, de Ethiopia. Llun: Dr Verena Förster-Indenhuck
13 Mai 2024
Mae tystiolaeth o newid rhwng cyfnodau o sychder eithafol a glaw trwm cyn trobwyntiau hinsoddol mawr wedi'i chanfod am y tro cyntaf mewn gwaddodion llyn hynafol.
Mae’r astudiaeth newydd gan dîm sy’n cynnwys yr Athro Henry Lamb, o Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth yn datgelu am y tro cyntaf bod y trobwynt sydyn o amodau llaith i sych yng ngogledd Affrica 6,000 o flynyddoedd yn ôl wedi’i ragflaenu gan ‘fflachiadau’ hinsoddol.
Mae'r fflachiadau hyn yn gyfres o newidiadau rhwng cyfnodau o wlypter a sychder eithriadol, pob un yn para rhwng 20 ac 80 mlynedd, dros gyfnod o fil o flynyddoedd.
Wedi’i gyhoeddi yn y cyfnodolyn ‘Nature Communications’, mae’r ymchwil yn dadansoddi sawl trawsnewidiad gwlyb-sych yn y cofnod amgylcheddol 620,000 o flynyddoedd ym masn Chew Bahir yn ne Ethiopia.
Tan nawr roedd y symudiadau rhwng cyfnodau gwlyb a sych cyn newidiadau mawr yn yr hinsawdd wedi eu darogan mewn theori yn unig.
Mae'r canfyddiadau newydd yn tynnu sylw at y posibilrwydd o drobwynt hinsoddol yn y dyfodol, lle mae'r hinsawdd yn newid yn sydyn ac yn sylweddol i gyflwr newydd.
Cafodd y newidiadau amgylcheddol cyflym hyn effaith fawr ar fodau dynol yng ngogledd Affrica, wrth i laswelltiroedd, coedwigoedd agored a llynnoedd ddiflannu.
Arweiniodd y newid hwnnw yn yr hinsawdd, a elwir yn ddiwedd Cyfnod Llaith Affrica, at gyfyngu poblogaethau dynol i raddau helaeth i gynefinoedd ffafriol mewn mynyddoedd, gwerddonau ac yn Nyffryn Nîl.
Casglodd y tîm rhyngwladol, gan gynnwys yr Athro Lamb, samplau 600,000 oed o waddodion Chew Bahir, llyn sych yn ne Ethiopia. Dywedodd ef:
“Mae’n bosibl y bydd cadarnhad bodolaeth y ‘fflachio’ eithafol hwn rhwng gwlypter a sychder sawl gwaith yn y gorffennol yn rhoi cipolwg ar arwyddion rhybudd cynnar posibl ar gyfer trobwyntiau hinsoddol graddfa fawr yn y dyfodol. Mae hwn yn bosibilrwydd real a pheryglus wrth i weithgarwch dynol orfodi newid yn y system hinsawdd.
“Mae hyn wedi digwydd yn y gorffennol, gyda chanlyniadau dramatig i boblogaethau dynol, fel y mae ein data newydd o dde Ethiopia yn dangos. Mae'r cofnod hir a gawson ni o’r samplau yn dangos bod newidiadau hinsoddol cyflym tebyg hefyd wedi digwydd cyn trawsnewidiadau llawer cynharach yn yr hinsawdd, sy'n awgrymu y gall trobwyntiau o'r fath ddigwydd yn naturiol, ymhell cyn effaith dyn ar yr hinsawdd.
“Rydym ni’n gweld fflachiadau hinsawdd fel rhybudd o’r effeithiau trychinebus posibl y byddai trobwyntiau yn y dyfodol yn eu cael ar y biosffer, gan gynnwys poblogaethau dynol. Yn amlwg, mae’n bwysig ystyried yr amrywiadau hinsoddol presennol fel rhybudd posibl o ddirywiad hinsoddol, nid yn unig yn Affrica, ond hefyd mewn systemau hinsawdd sensitif eraill fel Gogledd yr Iwerydd.”
Mae modelwyr hinsawdd wedi nodi dau brif fath o drobwyntiau tyngedfennol. Mewn un math, mae prosesau'n newid ar raddfa gynyddol ac mae'r hinsawdd yn ei chael hi'n anodd adfer ar ôl aflonyddwch nes bod trawsnewidiad yn digwydd. Nodwedd o’r ail fath yw newidiadau rhwng hinsoddau llaith a sych sefydlog sy'n digwydd ychydig cyn y trawsnewid.
Ychwanegodd geowyddonydd Prifysgol Potsdam, yr Athro Dr. Martin H. Trauth:
“Mae’r ddau fath o drobwyntiau’n wahanol o ran y signalau rhybudd cynnar sy’n gallu cael eu defnyddio i’w hadnabod. Mae'n bwysig eu hymchwilio a'u deall yn well os ydym ni am allu rhagweld y trobwyntiau posibl yn yr hinsawdd sy’n cael eu hachosi gan fodau dynol yn y dyfodol. Tra bod yr arafu sy’n cael ei weld yn y math cyntaf o drobwyntiau yn arwain at leihad mewn amrywioldeb, awto-gydberthynas, a sgiw, mae’r fflachiadau yn yr ail fath yn arwain at y gwrthwyneb yn union – ac, mewn rhai achosion, at fethu adnabod y trobwynt sydd ar ddod.”
Ariannwyd y prosiect gan, ymhlith eraill, Sefydliad Ymchwil yr Almaen (DFG), Sefydliad Gwyddoniaeth Cenedlaethol yr Unol Daleithiau a Chyngor Ymchwil Amgylchedd Naturiol y Deyrnas Gyfunol.