Gŵyl eplesu ym Mhrifysgol Aberystwyth
Yr Athro Nigel Holt
05 Ebrill 2024
O kombucha i kefir a sauerkraut, caiff manteision bwydydd wedi eplesu i'n meddyliau a'n cyrff sylw arbennig mewn Gŵyl Eplesu ym Mhrifysgol Aberystwyth ym mis Ebrill.
Mae'r digwyddiad yn agored i bawb a bydd yn amlygu ymchwil sy'n cael ei wneud yn y Brifysgol ar kombucha, finegr seidr afal wedi eplesu, bragu cwrw, cynhyrchu te, bwydydd microbaidd a chynhyrchion eraill.
Bydd yn dwyn ynghyd ymchwilwyr academaidd, cynhyrchwyr bwyd a diod wedi eplesu, a chyrff diwydiant yn ogystal ag aelodau o'r cyhoedd sydd â diddordeb mewn darganfod mwy am y traddodiad prosesu hynafol hwn a sut mae ymchwil yn llywio datblygiadau heddiw.
Caiff rhaglen lawn o weithgareddau ei chynnal rhwng 10yb a 3.30yp ar ddydd Gwener 19 Ebrill yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth, gydag amryiwaeth o sgyrsiau, trafodaethau panel ac astudiaethau achos yn ogystal ag arddangosiad gwneud kefir a sauerkraut a chyfle i flasu ychydig o gynnyrch wedi eplesu.
Bydd ardal arddangos hefyd ar gyfer ystod o gynhyrchion bwyd a diod wedi eplesu o Gymru, ochr yn ochr â stondinau cyrff diwydiant a phrosiectau ymchwil academaidd.
Ar drothwy’r brif raglen, bydd derbyniad anffurfiol ar nos Iau 18 Ebrill a dangosiad rhad ac am ddim o’r ffilm ddogfen ‘Fermented’ am 6yh yn sinema Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth.
Mae’r digwyddiad yn cael ei drefnu gan Adran Seicoleg Prifysgol Aberystwyth, mewn cydweithrediad â’r Adran Gwyddorau Bywyd.
Dywedodd Pennaeth yr Adran Seicoleg, yr Athro Nigel Holt:
“Mae eplesu bwyd yn draddodiad sy’n dyddio’n ôl ganrifoedd ond yn ystod y blynyddoedd diwethaf rydyn ni wedi gweld diddordeb cynyddol yn y broses a’i buddion posib. Yma yn Aberystwyth, rydyn ni’ n gwneud ymchwil hynod gyffrous yn edrych ar gysylltiadau rhwng seicoleg a bwyta cynnyrch wedi eplesu. Mae hwn yn un o nifer o brosiectau ymchwil sydd ar waith ar hyn o bryd. Bydd ein Gŵyl Eplesu ym mis Ebrill yn ddathliad o’r ymchwil yn y maes – o fwydydd allai wella iechyd y perfedd a llesiant i gynnyrch a allai ein helpu i greu dyfodol cynaliadwy."
Mae mynediad am ddim ar y dydd Iau a’r dydd Gwener, gan gynnwys lluniaeth ond mae angen i fynychwyr gofrestru ar Eventbrite erbyn 12 Ebrill i sicrhau eu lle: www.eventbrite.co.uk/e/gwyl-eplesu-festival-of-fermentation-tickets-860940936517.
Mae rhagor o fanylion ar gael ar-lein neu e-bostiwch ferment@aber.ac.uk os oes gennych chi unrhyw gwestiynau.