Gwaith yr Hen Goleg yn datgelu olion tân mawr 1885
Yr Hen Goleg ar dân: llosgwyd rhan helaeth o adain ogleddol yr adeilad gan y tân ar noson 8/9 Gorffennaf 1885.
05 Ebrill 2024
Daeth gweddillion y tân mawr a ddinistriodd lawer o Hen Goleg Prifysgol Aberystwyth i’r golwg wrth i’r gwaith i adfer yr adeilad rhestredig Gradd 1 brysuro.
Yn ôl un adroddiad, achoswyd y tân ar noson yr 8fed/9fed o Orffennaf 1885 gan wastraff cotwm oedd wedi cynnau’n ddigymell ar ôl ei ddefnyddio i lanhau arbrofion cemegol yn adran y labordai yn nho rhan ogleddol yr adeilad.* Tŷ’r Castell, cartref y Prifathro, a’r adain ddeheuol oedd yr unig rannau na losgwyd.
Goruchwyliwyd llawer o’r gwaith ailadeiladu gan y pensaer J P Seddon, a fu’n gweithio ar yr adeilad i’r Brifysgol wrth iddi baratoi i groesawu ei myfyrwyr cyntaf ym mis Hydref 1872.
Gyda’r £10,000 o arian yswiriant a’r hyn a godwyd gan ymgyrch godi arian dan arweiniad y Prifathro Thomas Charles Edwards, cyllidwyd y gwaith arweiniodd at adeiladu’r Cwad, a ddaeth yn galon i’r Hen Goleg.
Yr Hen Goleg ar ôl y tân.
Yn yr Hen Goleg ar ei newydd wedd bydd y Cwad yn ganolbwynt i orielau arddangos y parth Cymunedol a Diwylliant a fydd yn cynnwys arddangosfeydd wedi’u curadu o gasgliadau’r Brifysgol ac arddangosfeydd teithiol gan bartneriaid blaenllaw, a Chanolfan Ddeialog gyntaf y DU.
Mae’r cynlluniau ar gyfer adfer y Cwad yn cynnwys gosod llawr newydd ar ôl i waith archwilio ddatgelu bod angen cryfhau'r llawr gwreiddiol a oedd yn cynnwys concrit wedi'i gymysgu â brics wedi torri a hyd yn oed llwch glo.
Rhan o hen lawr y Cwad.
Mae’r gwaith paratoi wedi cynnwys clirio rhannau o seler yr Hen Goleg ac agor gofodau ar ochr Stryd y Brenin o’r adeilad y credir eu bod wedi’u cau ar ôl y tân.
Mae’r gwaith wedi datgelu pren wedi llosgi a waliau wedi duo sy’n tystio i ddwyster y tân a laddodd dri dyn lleol yn ystod ymdrechion i ddiffodd y fflamau ac achub yr adeilad a’i gynnwys.
Darn o bren wedi llosgi a photeli gwydr a daeth i’r golwg wrth ostwng y lloriau ar gyfer yr orielau newydd.
Mae arwyddion pellach i'w gweld yn nenfwd y seler lle gosodwyd llawr y Cwad ar rwbel o'r tân.
Eisoes mae'r tîm adeiladu wedi dod o hyd i ragor o dystiolaeth o'r tân wrth iddyn nhw ddatblygu'r orielau arddangos newydd fydd yn rhedeg gyfochr â’r Cwad.
Bydd yr orielau newydd yn cynnal arddangosfeydd o Amgueddfa Genedlaethol Cymru, y Llyfrgell Genedlaethol ac amgueddfeydd ac orielau pwysig eraill ledled y DU.
Bydd y gwaith hwn yn golygu gostwng y lloriau mewn ystafelloedd ar hyd Heol y Brenin hyd at fetr yn is nag ar hyn o bryd.
Mae ymchwiliadau cychwynnol yn awgrymu y gallai'r tîm ddod o hyd i weddillion hen gegin a ddefnyddiwyd yn ystod dyddiau cynnar y Brifysgol, gafodd ei chladdu ar ôl y tân.
Yn ogystal â thystiolaeth o’r tân mawr, mae’r gwaith hefyd wedi datgelu’r hyn sy’n ymddangos fel system wresogi tan y llawr gynnar oedd wedi ei datgysylltu ers tro byd.
Bydd y gwaith yn cael ei oruchwylio gan dîm Gwasanaethau Archaeolegol Ymddiriedolaeth Archaeoleg Dyfed a fydd yn cofnodi eitemau o ddiddordeb a allai ddod i’r amlwg gan y gwaith cloddio.
Dywedodd Jim O’Rourke, Rheolwr Prosiect yr Hen Goleg: “Mae’r Hen Goleg yn rhyfeddol ac yn datgelu ei stori ei hun wrth i ni ei ailddatblygu. Dros y blynyddoedd, mae’r adeilad wedi esblygu ac wedi’i addasu i adlewyrchu anghenion myfyrwyr, staff a’r gymuned ehangach, a’n rôl ni yw parhau â’r broses hon tra’n parchu ei dreftadaeth bensaernïol.
“Gallai’r tân fod wedi golygu diwedd Prifysgol Cymru yma’n Aberystwyth, ond roedd penderfyniad y myfyrwyr, y staff â chefnogaeth pobl ledled Cymru yn golygu y gallai’r gwaith ailadeiladu fynd yn ei flaen, er iddi gymryd blynyddoedd lawer i’r adeilad gael ei gwblhau. Mae’r hyn rydym wedi ei ddarganfod yn ychwanegu at ein hadnabyddiaeth o’r adeilad a bydd yn cyfoethogi hanesion yr Hen Goleg ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”
Paratoadau ar gyfer gosod y llawr newydd yn y Cwad. Llun: Mark Lewis Photography
Bydd llawr newydd y Cwad yn 28.5 centimetr o ddyfnder ac wedi ei atgyfnerthu gyda dur ac o leiaf 10 centimetr yn fwy trwchus na'r hen lawr. Bydd hefyd yn cynnwys system wresogi tan y llawr newydd.
Cefnogir prosiect yr Hen Goleg gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Llywodraeth Cymru a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, Cronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU, Cronfa Cymunedau’r Arfordir, Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, ymddiriedolaethau dyngarol, ac unigolion.
Pan fydd wedi'i gwblhau bydd yn ganolfan newydd o bwys ar gyfer dysgu, treftadaeth, diwylliant a menter mewn tri pharth thema: Byd Gwybodaeth, Diwylliant a Chymuned, a Menter ac Arloesi.
Wedi’i hysbrydoli gan arwyddair y Brifysgol, bydd Byd Gwybodaeth yn cynnwys canolfan sy’n dathlu Gwyddoniaeth ac Ymchwil arloesol, Amgueddfa Prifysgol, parth Pobl Ifanc gyda gweithgareddau dan arweiniad ieuenctid i hybu sgiliau, dyheadau a lles, canolfan astudio 24-7 i fyfyrwyr a chyfleuster sinema flaengar.
Bydd y cwad, calon draddodiadol yr Hen Goleg, yn ganolbwynt i orielau arddangos y parth Cymunedol a Diwylliant a fydd yn cynnwys arddangosfeydd wedi’u curadu o gasgliadau’r Brifysgol ac arddangosfeydd teithiol gan bartneriaid blaenllaw. Mae’r parth hwn hefyd yn cynnwys Canolfan Ddeialog gyntaf y DU.
Bydd y parth Menter ac Arloesi yn darparu 12 Uned Busnes Creadigol a mannau cymunedol i annog entrepreneuriaid ifanc mewn busnesau creadigol a digidol.
Unwaith y bydd wedi'i gwblhau disgwylir i'r Hen Goleg ddenu 200,000 o ymwelwyr a chyfrannu hyd at £14.5m yn flynyddol at yr economi leol, gan ei roi ar yr un lefel â chyrchfannau twristiaeth mawr megis cestyll Caernarfon a Chonwy.
Bydd hyd at 130 o swyddi'n cael eu creu yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol a bydd mwy na 400 o gyfleoedd gwirfoddoli. Bydd llety gwesty 4*, bariau, caffis a gofodau ar gyfer gweithgareddau a digwyddiadau ar draws 7 llawr a 143 o ystafelloedd, gan gynnwys ystafell ddigwyddiadau ddramatig i 200 o bobl gyda golygfeydd godidog ar draws Bae Ceredigion.
Disgwylir i Ran 1, sy'n cynnwys yr Hen Goleg ei hun a'r filas Sioraidd (1 a 2 Rhodfa’r Môr), gael ei gwblhau tua diwedd 2025.
Disgwylir i Ran 2, Y Cambria, gael ei gwblhau erbyn diwedd 2026.
*Dyma oedd casgliad ymchwiliad y Cyrnol Syr Charles Firth, Llywydd Cymdeithas y Frigâd Dân, Llundain, i achos y tân. Cyhoeddwyd ei adroddiad yn rhifyn 17 Gorffennaf 1885 The Cambrian News and Meirionethshire Standard.