Bywyd hwyr y nos cyfrinachol microbau’r Arctig yn destun ymchwil gan wyddonwyr
Dr Arwyn Edwards yn ymchwilio ar Svalbard. Credit: Klemens Weisleitner.
28 Chwefror 2024
Mae academyddion o Brifysgol Aberystwyth yn ymweld â’r Svalbard yn yr Arctig i ymchwilio i fywyd hwyr y nos microbau.
Fel rhan o’r gwaith sy’n cael ei arwain gan Brifysgol Aberystwyth, bydd tri arbenigwr yn edrych ar fywyd microbaidd yn ystod ‘gaeaf golau’’r ardal – pan fo’n dechrau dod allan o’i chyfnod o dywyllwch parhaol yn ystod y nos begynnol.
Tan yn ddiweddar, roedd gwyddonwyr wedi rhagdybio bod ecosystemau ar rewlifoedd yn fywiog yn ystod golau'r haul ac yn nhymor toddi byr yr haf yn unig, ond mae data diweddar yn herio’r dybiaeth honno.
Bydd yr astudiaeth, sy'n ymchwilio i fywyd microbaidd ym mhob tymor o'r flwyddyn yn y rhanbarth, gan gynnwys y cyfnodau o dywyllwch 24 awr, yn casglu samplau ar gyfer dadansoddi moleciwlaidd a mesur gweithgaredd ficrobaidd.
Nod y gwaith yw taflu goleuni ar sut mae'r microbau'n goroesi yn yr amodau hyn, a sut maen nhw'n rhyngweithio â chylchredau carbon a maetholion y rhewlifoedd.
Yn ogystal, mae’n profi’r ddamcaniaeth bod cynefinoedd microbaidd ar arwynebau rhewlifoedd yn weithredol drwy gydol y flwyddyn, ac felly’n ffynonellau annisgwyl o nwyon tŷ gwydr.
Dywedodd Dr Arwyn Edwards o Brifysgol Aberystwyth:
“Nod ein hymchwil yw cynnig darlun clir am y tro cyntaf o sut mae bywyd yn goroesi pob tymor ar rewlifoedd yr Arctig a beth mae hyn yn ei olygu i ecoleg y rhewlifoedd wrth iddynt wynebu dyfodol ansicr yn yr Arctig sy’n cynhesu.
“Gwyddwn yn barod bod yr ecosystemau hyn yn storio carbon a thywyllu iâ wrth i ynni solar gael ei drosi i garbon tywyll organig. O ganlyniad, mae ecosystemau ar rewlifoedd yn cael dylanwad ar dynged rhewlifoedd yn ein byd sy’n cynhesu.
“Mae’n ardal heriol i gynnal ymchwil ynddi, ond mi all datgloi cyfrinachau’r microbau sy’n byw yn y rhewlifoedd yn yr Arctig gynnig atebion pwysig i ni am sut mae’r hinsawdd yn newid. Gallai hefyd ddatgelu meddyginiaethau posibl ar gyfer y dyfodol a hyd yn oed rhoi gwybod i ni am sut i olchi ein dillad gan ddefnyddio cynhyrchion sydd yn fwy cyfeillgar i’r amgylchedd.”
Ariennir yr ymchwil gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol ac fe’i harweinir gan Brifysgol Aberystwyth gyda chefnogaeth prifysgolion yn Svalbard, Prifysgol Bergen yn Norwy, Prifysgol Aarhus yn Nenmarc a’r Ganolfan Begynol Byrd yn Ohio, yr Unol Daleithiau.
Fel rhan o’r daith ymchwil, fe fydd y grwp yn gweithio yng Ngorsaf Ymchwil Arctig Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol y DU.