Prosiect arloesol newydd yn cynnig cyfle unigryw i gyfansoddwyr addawol
Cyfansoddwyr CERDDWN Rhes uchaf (o'r chwith i'r dde): David John Roche, Jefferson Lobo (llun hawlfraint Matthew Thistlewood), Mared Emlyn, Nathan James Dearden (llun Hawlfraint Catrin Arwel) Rhes isaf (o'r chwith i'r dde): Gerard Cousins, Heledd Evans, Michelle Maddock, Kian Ravaei
21 Chwefror 2024
Bydd cerddoriaeth glasurol gyfoes greadigol yn cael ei chyfansoddi a'i pherfformio yn rhan o brosiect chwyldroadol newydd dan arweiniad Prifysgol Aberystwyth.
Bydd CERDDWN yn creu canolbwynt ar gyfer arbrofi ac arloesi cerddorol yng nghanolbarth Cymru a fydd yn arwain y byd, trwy hwyluso cysylltiadau rhwng cyfansoddwyr newydd addawol a cherddorion cerddorfaol, gan roi modd iddynt i roi cynnig ar gysyniadau arbrofol, a mireinio eu sgiliau wrth greu cerddoriaeth.
Wedi'i ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Tŷ Cerdd, bydd y prosiect yn rhoi cyfle i gyfansoddwyr weithio'n agos gyda cherddorfa gymunedol Aberystwyth, Philomusica, a cherddorfa siambr broffesiynol flaenllaw, Sinfonia Cymru.
Esbonia Cyfarwyddwr Cerdd Prifysgol Aberystwyth, Iwan Teifion Davies:
"Dyma brosiect cyffrous iawn a fydd yn meithrin rhai o'r doniau sydd i’w cael yng Nghymru ond sydd heb gael cyfle i ddatblygu, ac fe fydd yn rhoi cyfle i bobl nad ydynt efallai fel arfer yn cael cyfle i weithio gyda cherddorion.
"Bydd y prosiect yn torri i ffwrdd o ddulliau safonol o ysgrifennu ar gyfer y gerddorfa, drwy ddarparu cyfleoedd ymarferol i gyfansoddwyr weithio gyda cherddorfeydd drwy bob cam o'r broses gyfansoddi. Bydd y cyfle hwn, a all fod yn drobwynt tyngedfennol i’w gyrfa, yn rhoi digon o le i'r cyfansoddwyr newydd hyn i arbrofi ac esblygu eu gwaith, rhoi prawf ar syniadau arloesol newydd a chymryd risg - i fethu, dyfalbarhau a gwella."
Ar ôl galwad agored am geisiadau, mae pedwar cyfansoddwr newydd bellach wedi'u dewis ac wedi derbyn bwrsariaeth. Dros y misoedd nesaf bydd Gerard Cousins, Heledd Evans, Michelle Maddock, a Kian Ravaei yn cael cyfle i arbrofi â'r cerddorfeydd, wrth iddyn nhw hefyd gael eu mentora gan gyfansoddwr profiadol.
O'r chwith i'r dde: Gerard Cousins, Heledd Evans, Michelle Maddock, a Kian Ravaei
Mewn ail elfen i'r prosiect, mae'r pedwar cyfansoddwr profiadol hyn sy'n darparu'r mentora hefyd yn cael eu comisiynu a'u cefnogi i gyfansoddi gweithiau newydd eu hunain. Bydd y cyfansoddiadau newydd hyn yn amrywio o ran eu harddull a’u cwmpas, yn adlewyrchu tirwedd gerddorol amrywiol Cymru.
Mae’r cyfansoddwyr canlynol wedi’u comisiynu i gyfansoddi darnau siambr: Jefferson Lobo, cerddor a chyfansoddwr a anwyd ym Mrasil sy’n byw yng Nghaerdydd; y delynores a chyfansoddwraig, Mared Emlyn; a'r cyfansoddwr arobryn ac arweinydd, Nathan James Dearden.
O'r chwith i'r dde: David John Roche, Jefferson Lobo (Hawlfraint y llun Matthew Thistlewood), Mared Emlyn, Nathan James Dearden (Hawlfraint y llun Catrin Arwel)
Yn olaf, bydd y prosiect yn comisiynu darn cerddorfaol arloesol a sylweddol gan y cyfansoddwr David John Roche, a berfformir am y tro cyntaf erioed gan Philomusica.
Dywedodd David John Roche, y Cydlynydd Cyfansoddi:
"Rwy'n llawn cyffro ac yn falch o fod yn rhan o CERDDWN. Mae'r prosiect yn brawf o ansawdd ac uchelgais sefydliadau celfyddydol yng Nghymru. Bydd CERDDWN yn denu cynulleidfaoedd newydd, yn meithrin doniau, ac yn fan cychwyn ar gyfer cynhysgaeth newydd o gerddoriaeth gerddorfaol yng Nghymru."
BYWGRAFFIADAU
Daeth Gerard Cousins, sydd yn gitarydd uchel ei fri, yn enwog trwy addasu cyfansoddiadau piano Philip Glass ar gyfer y gitâr. Ac yntau’n gerddor medrus iawn, sydd wrth ei fodd yn byrfyfyrio, mae Gerard wedi perfformio ledled y byd ac wedi rhyddhau wyth albwm. Ar y gitâr y mae ei gyfansoddiadau yn canolbwyntio'n bennaf, ond mae Gerard hefyd wedi ysgrifennu ar gyfer offerynnau unigol a grwpiau bach. Yn 2019, Gerard oedd y "Cyfansoddwr Preswyl" cyntaf yng Ngŵyl Gitâr Caerdydd.
Mae Heledd C Evans yn artist ac yn hwylusydd sy’n byw yng Nghaerdydd. Mae’n gweithio gyda sain ar draws meysydd cyfansoddi, perfformio, a gosodwaith, ac mae ganddi ddiddordeb yn y bydoedd sain y gellir eu creu gydag offerynnau a deunyddiau acwstig, gan ganolbwyntio ar seiniau organig. Mae ei gwaith yn blaenoriaethu gweithio ar y cyd, ac ar agor y drysau i’r celfyddydau yn ehangach.
Michelle Maddock
Graddiodd Michelle Maddock mewn Cerddoriaeth o Southampton, lle’r astudiodd gyda Michael Finnissy. Cynhyrchydd dawns sy’n dychwelyd i gerddoriaeth ar ôl mamolaeth. Yn tynnu ysbrydoliaeth o dirwedd a seinwedd byd natur. Yn prosesu emosiynau a salwch trwy gerddoriaeth. Cathartig. Yn gwneud cerddoriaeth ar gyfer symud a gwella. Trawsffurfiol. Yn mynd y tu hwnt. Yn defnyddio recordiadau maes, electroneg dylunio sain, a thechnegau traddodiadol ar gyfer cyfansoddi a llunio trefniadau cerddorol. Yn gwirioni â sain. Yn chwilio am alawon a harmonïau. Niwrowahanol. Dosbarth gweithiol. Synesthetydd. Artist aml-genre.
Mae'r cyfansoddwr Kian Ravaei yn cydblethu ysbrydoliaeth amrywiol i greu portreadau cerddorol atgofus, gan ddefnyddio caneuon adar o rywogaethau dan fygythiad, er enghraifft, neu gerddoriaeth o’i gefndir teuluol Iranaidd. Mae wedi cydweithio ag artistiaid poblogaidd fel Tessa Lark, Eliot Fisk a Fleur Barron, ac mae wedi derbyn Cymrodoriaeth CULTIVATE Copland House, Cymrodoriaeth Artist Dysgu Cyfansoddwr yng Ngherddorfa Siambr Los Angeles, Gwobr Breswyl Cerddoriaeth Siambr gan Brosiect Protégé Gogledd-orllewin UDA, Gwobr Cronfa Crëwr Cerddoriaeth Newydd UDA, a Chomisiwn Gwaddol Barlow. Graddiodd o UCLA, lle bu'n astudio gyda'r cyfansoddwr Richard Danielpour sydd wedi ennill Gwobr Grammy.
Mae cerddoriaeth David John Roche yn uniongyrchol, yn benderfynol, ac yn uchel. Mae cerddoriaeth heavy metal, cerddoriaeth gerddorfaol drwchus, a'i gefndir dosbarth gweithiol Cymreig i gyd yn ddylanwadau cryf arno, mae wedi cael ei ddisgrifio fel “clear-minded and class-conscious artist” (Culture Matters) ac “one of the most energetic, driven, and successful of Wales’s millennial generation of composers” (Tŷ Cerdd). Mae gwaith David wedi cael ei ddisgrifio fel “exquisite” (Adam Walton, BBC Introducing Wales), wedi’i ganmol am ei “ingenious scoring” (The Arts Desk), a’i glodfori am ei “passages of intense expressive power” (Thomas Adès). Mae ei gyfansoddiadau wedi cael eu darlledu, wedi ymddangos ar y teledu, eu trafod yn ysgrifenedig, a hynny ledled y byd i filiynau o bobl.
Mae Jefferson Lobo, a aned ym Mrasil yn gerddor, cyfansoddwr a chynhyrchydd sy'n byw yng Nghaerdydd. Mae wedi bod yn canolbwyntio ar grŵfs jazz-ffync dyfodolaidd a ysbrydolir gan natur ac ar hyn o bryd mae’n rhyddhau cerddoriaeth newydd yn rheolaidd o’i gatalog. Gwahoddiad i fyd o bosibiliadau sonig annisgwyl yw cyfansoddiadau Jefferson. Mae harmonïau pêr hiraethus wedi’u cyfuno ag alawon tyner ac (ar brydiau) ffraeth yn ffurfio sylfaen ei bair cerddorol, sy’n cynnwys arddulliau megis jazz, cerddorfaol, Lladin, reggae, dyfodolaidd a cherddoriaeth fyd. Mae wedi gweithio gyda’r cwmni theatr August 012 a Radio’r BBC ac wedi cyfansoddi, sgorio a threfnu cerddoriaeth i Garnifal Butetown 2020 a 2021. Uchafbwynt arbennig oedd ei ddarn trawsatlantig Zamba a gomisiynwyd gan Gymdeithas Celfyddydau a Diwylliant Butetown.
Cwblhaodd Mared ei doethuriaeth mewn perfformio ar y delyn a chyfansoddi yn 2014 ym Mhrifysgol Bangor gydag ysgoloriaeth wedi ei hariannu gan yr Undeb Ewropeaidd. Enillodd fedal y Prif Gyfansoddwr yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn 2011 am ei gwaith Perlau yn y Glaw ar gyfer y delyn sydd erbyn hyn yn cael ei berfformio yn aml mewn cystadlaethau a gwyliau telyn. Mae wedi derbyn sawl comisiwn i gyfansoddi, gan gynnwys gweithiau ar gyfer Gŵyl Biano Ryngwladol Cymru, Gŵyl Delynau Ryngwladol Cymru, Côr Meibion Colwyn, comisiwn ar gyfer Gŵyl Gerdd Bangor a gafodd ei berfformio gan Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, a chonsierto i’r delyn ar gyfer Gŵyl Biwmares a berfformiwyd gan Gerddorfa Siambr Cymru, gyda Mared ei hun yn unawdydd.
Mae Nathan James Dearden yn grëwr cerddoriaeth sydd wedi ennill gwobrau, ac mae ei waith wedi cael ei ddisgrifio fel "hauntingly beautiful" (Media Wales). Perfformiwyd ei waith gan Gerddorfa Symffoni Dinas Birmingham, Cerddorfa Ffilharmonig Llundain, Tippett Quartet, Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru, y tenor Nicky Spence, Corau Ieuenctid Cenedlaethol Prydain Fawr, Fidelio Trio a Hebrides Ensemble. Mae ei gerddoriaeth yn cael ei chwarae yn rheolaidd mewn cyngherddau ar draws Prydain a thramor, gan gynnwys Gŵyl Gerdd Cheltenham, Gŵyl Ryngwladol Dartington, Gŵyl Gerdd Newydd Ryngwladol CROSSROADS a Gŵyl Bro Morgannwg. Mae ei gerddoriaeth wedi cael ei darlledu ar BBC Radio 3, BBC Radio Wales, BBC Radio Cymru, Resonance FM, RTÉ lyric FM, S4C a Soho Radio, ac mae hefyd wedi’i rhyddhau ar labelau NMC a Delphian. Mae hefyd cryn alw am Nathan fel arweinydd, ymgynghorydd celfyddydau, curadur digwyddiadau ac addysgwr, ac mae ganddo rolau cynghori ar y celfyddydau i nifer o sefydliadau rhyngwladol.