Prosiectau trafnidiaeth Powys a Sir Fynwy yn derbyn grantiau Prifysgol Aberystwyth
Yr Athro Charles Musselwhite, Prifysgol Aberystwyth
31 Ionawr 2024
Mae dau brosiect trafnidiaeth gymunedol ym Mhowys a Sir Fynwy wedi derbyn grantiau gan Brifysgol Aberystwyth.
Mae Rhwydwaith Ymchwil Trafnidiaeth ac Iechyd (THINK) y Brifysgol, a ariennir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, yn cefnogi gwaith a arweinir gan Gyngor Cymuned Llangatwg yn edrych ar ddefnydd bysiau trydan cymunedol a chynlluniau rhannu ceir.
Mae’r rhwydwaith yn cefnogi prosiect yn Sir Fynwy i recriwtio gyrwyr gwirfoddol er mwyn cryfhau cynllun ceir cymunedol yn ogystal.
Dywedodd y Cynghorydd Cymuned Llangatwg, Kate Inglis:
"Bydd y grant hwn mor ddefnyddiol, rydyn ni’n gyngor cymuned bach gyda chyllid cyfyngedig. Mae'r grant hwn yn golygu bod gennym ni’r adnoddau i gynnal arolwg ac ymgysylltu â'r gymuned ar y syniad o gynllun bws gwennol cymunedol a/neu rannu ceir cerbydau trydan. Gallai hyn alluogi trigolion mewn pentrefi gwledig anghysbell i gael mynediad i gyfleusterau yn eu tref agosaf, lleihau'r defnydd o geir a'r angen am feysydd parcio newydd drud. Yn yr argyfwng hinsawdd presennol, mae angen i ni archwilio opsiynau gwell ar gyfer teithio'n wledig a lleihau allyriadau."
Ychwanegodd Mike Logan, Cyfarwyddwr Lles Canolfan Bridges yn Sir Fynwy:
“Rwy’n edrych ymlaen at weld canlyniadau ein prosiect ymchwil am yrwyr gwirfoddol. Mae gyrwyr ein cynllun ceir yn gwneud gwaith anhygoel yn Sir Fynwy ac yn darparu cymaint mwy na chludiant. Mae gen i ddiddordeb mewn dysgu beth sy'n cymell ein gyrwyr i wirfoddoli ar gyfer y gwaith hwn, beth sy'n mynd i gynnal eu diddordeb, a beth yw'r rhwystrau i'n darpar yrwyr gwirfoddol. Rwy’n meddwl y gallwn ni ddysgu llawer am ffyrdd gwell o ddod o hyd i yrwyr posibl, sut y gallwn ni eu cefnogi nhw i oresgyn unrhyw rwystrau, a sut y gallwn ni eu helpu nhw i gynnal y diddordeb mewn gwirfoddoli. Rwy’n gobeithio y bydd yr ymchwil hwn o ddefnydd i sefydliadau eraill sy’n cynnal cynllun ceir neu sy’n ystyried sefydlu un.”
Arweinir rhwydwaith THINK gan yr Athro Charles Musselwhite o Adran Seicoleg a Chanolfan Trafnidiaeth a Symudedd (CeTraM) Prifysgol Aberystwyth, a Dr Sarah Jones, Ymgynghorydd ym maes Iechyd Cyhoeddus Amgylcheddol gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Ychwanegodd yr Athro Musselwhite o Brifysgol Aberystwyth:
“Fel rhwydwaith, roedd modd i ni gynnig grantiau bach i brosiectau peilot sy’n edrych ar gyfraniad trafnidiaeth tuag at greu cymunedau iach. Yn ogystal â’r prosiect yng nghefn gwlad Cymru, rydyn ni’n falch iawn o fod yn ariannu prosiect cydweithredol yn India gwledig.
“Pwrpas yr egin gyllid yma yw arwain at ymchwil bellach er mwyn dyfnhau ein dealltwriaeth ac ateb yr heriau trafnidiaeth pwysig sy’n wynebu cymunedau yng Nghymru ac ar draws y byd i gyd.”
Ers ei sefydlu, mae’r rhwydwaith wedi ariannu cyfanswm o naw prosiect yn bennaf yng Nghymru, ond hefyd tramor.
Y prosiect arall i elwa o grant fydd yn edrych ar y rhwystrau rhag mabwysiadu cerbydau rickshaw trydan er mwyn gwella cysylltiadau trafnidiaeth mewn cymunedau gwledig yn India.
Bydd yr ymchwil yn ymchwilio i'r cymhellion dros, a'r rhwystrau rhag, fabwysiadu cerbydau sy’n cael eu rhannu sy’n fwy cynaliadwy, megis rickshaws trydan, yng nghefn gwlad India. Bydd hefyd yn edrych ar ffyrdd o fynd i'r afael â'r rhwystrau hynny er mwyn cynyddu'r defnydd ohonynt.
Dywedodd Dr Anshuman Sharma, Athro cynorthwyol yn Sefydliad Technoleg India, sy’n arwain y prosiect:
“Nod y prosiect hwn yw gosod y sylfaen ar gyfer cynyddu'r defnydd o foddau symudedd micro trydan yn ardaloedd gwledig India. Wrth i ni ymchwilio i hyn, mae angen i ni ystyried nifer o ffactorau, gan gynnwys gwahaniaethau diwylliannol a pholisïau llywodraeth leol. Yn dilyn y gwaith hwn, rydyn ni’n gobeithio treialu amrywio polisïau ac ymchwilio i'w heffeithiau ar ddefnydd. Rydym yn ddiolchgar iawn am y gefnogaeth gan Brifysgol Aberystwyth gyda’r gwaith hwn.”