Cogydd dwy seren Michelin yn agor cromen chwaraeon a champfa newydd y Brifysgol
Chwith i’r dde: Darren Hathaway, Pennaeth Chwaraeon a Thiroedd; Meri Huws, Cadeirydd Cyngor y Brifysgol; Gareth Ward, Ynyshir; Yr Athro Jon Timmis, Is-Ganghellor a Bayanda Vundamina, Llywydd Undeb Myfyrwyr Aberystwyth yn agoriad campfa a chromen chwaraeon newydd y Brifysgol.
17 Ionawr 2024
Mae cromen chwaraeon newydd Prifysgol Aberystwyth, sy’n cynnwys y diweddaraf mewn offer campfa hunan-bweru, wedi ei hagor gan un o gogyddion mwyaf blaenllaw’r Deyrnas Gyfunol.
Agorodd Gareth Ward, prif gogydd a chyd-berchennog bwyty dwy seren Michelin Ynyshir, ac sy’n defnyddio cyfleusterau hyfforddi’r Brifysgol yn rheolaidd, y gromen newydd ddydd Mercher 17 Ionawr 2024.
Darparwyd yr ‘Air Dome’, sy’n 40 metr wrth 23 metr ac wedi ei lleoli yn ymyl cae chwaraeon amlbwrpas Canolfan Chwaraeon y Brifysgol, gan gwmni Rockly gyda chefnogaeth cyflenwyr lleol Electrical Estimates, Afan Construction a Padarn Alarms.
Mae’r gromen yn cynnwys 130 o orsafoedd ymarfer, gan gynnwys beiciau, peiriannau rhwyfo a pheiriannau rhedeg, a gall defnyddwyr fonitro eu cynnydd ar sgriniau digidol wedi'u pweru yn bennaf gan yr ynni y maent yn ei gynhyrchu wrth iddynt ymarfer ar nifer ohonynt.
Darparwyd yr offer newydd gan Matrix Fitness, ac mae’r datblygiad wedi elwa ar grant o £250k gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.
Wrth siarad yn yr agoriad, dywedodd Gareth Ward, y mae ei fwyty yn Ynyshir wedi’i enwi’n Fwyty Gorau’r Deyrnas Gyfunol ar gyfer 2022 a 2023, ac sydd ymhlith y pum bwyty gorau yn y DG yn ôl y Good Food Guide:
“Mae'n anrhydedd i mi i agor y gromen chwaraeon anhygoel hon. Mae'n wych gweld tîm y Brifysgol yn bwrw ymlaen â'u gofod newydd, gan ehangu ac ysbrydoli mwy o bobl i wella eu hiechyd a'u ffitrwydd. Fel defnyddiwr rheolaidd o'r gampfa, mae'n wych gweld ymdrechion parhaus y Brifysgol i fuddsoddi mewn cyfleusterau newydd, ac rwy'n siŵr y bydd yn llwyddiant mawr.”
Dydwedodd yr Athro Jon Timmis, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: “Rydyn ni’n ymfalchïo’n fawr yn y cyfleusterau sydd gennym ni yma ym Mhrifysgol Aberystwyth ac mae’n wych croesawu Gareth Ward i agor y gampfa newydd ardderchog hon. Rwy’ hefyd yn falch iawn o weld cymaint o grwpiau cymunedol ac unigolion yn manteisio ar ein cyfleusterau. Yn union fel ein Canolfan Gelfyddydau hynod boblogaidd, mae ein cyfleusterau chwaraeon yn cynrychioli un o gonglfeini ein cenhadaeth ddinesig ac yn cynnig cyfleoedd hynod werthfawr sy’n agored i bob aelod o’n cymuned.”
Mae datblygiad y gromen newydd, sy’n cynnwys croen dwbl afloyw i’w atal rhag gorboethi ar ddiwrnodau heulog braf a cholli gwres yn ystod tywydd oer, wedi’i arwain gan Darren Hathaway, pennaeth tîm Chwaraeon a Thiroedd y Brifysgol.
Dywedodd Darren Hathaway: “Rydym yn ymdrechu’n barhaus i fuddsoddi yn ein cyfleusterau a, lle bo’n bosibl, i arloesi wrth uwchraddio ein hoffer. Mae ein cit hunan-bŵer newydd yn gam bach arall tuag at gyfyngu ar ein defnydd o ynni a gobeithiwn hefyd y bydd pawb sy’n ei ddefnyddio yn teimlo ychydig yn well o wybod eu bod o fudd i iechyd, y meddwl a’r amgylchedd.”
“Mae’r datblygiad hwn hefyd yn bwysig gan ei fod yn golygu y bydd ein Neuadd Chwaraeon nawr yn dychwelyd at ddefnydd hamdden a chwaraeon tîm fel pêl-rwyd a phêl-fasged, a rhaglen ymarfer corff grŵp helaeth ‘Fit-rhwydd’ y Ganolfan Chwaraeon.”
Bydd y gromen chwaraeon newydd ar agor rhwng 6:30am a 9pm o ddydd Llun i ddydd Gwener a rhwng 8am a 4pm ar ddydd Sadwrn a dydd Sul.