Datgloi potensial meillion i leihau defnydd gwrtaith ffermydd - nod ymchwil
Canolfan Genedlaethol Ffenomeg Planhigion, IBERS, Prifysgol Aberystwyth
16 Ionawr 2024
Mae gwyddonwyr yn anelu at ddatgloi potensial meillion a chodlysiau eraill i leihau defnydd gwrtaith ac allyriadau da byw mewn amaeth, diolch i grant o £3.3 miliwn gan Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol.
Er mwyn cyrraedd targedau sero net y llywodraeth erbyn 2050, mae angen i allyriadau nwyon tŷ gwydr o ffermio da byw ostwng 78% erbyn 2035. Ar yr un pryd, rhagwelir y bydd poblogaeth y byd yn cyrraedd 10 biliwn o bobl erbyn 2050, a rhagwelir y bydd y galw am fwyd yn cynyddu o 70%.
Mae cynhyrchiant defaid a gwartheg yn y Deyrnas Gyfunol yn dibynnu’n bennaf ar borfeydd glaswelltog sy’n defnyddio gwrtaith nitrogen cemegol i dyfu’r glaswellt a ddefnyddir fel porthiant i’r da byw hyn. Ar hyn o bryd gall y broses o weithgynhyrchu un tunnell o wrtaith nitrogen cemegol ryddhau hyd at wyth tunnell o garbon deuocsid.
Gall meillion a chodlysiau eraill dynnu eu nitrogen eu hunain o’r atmosffer a gallan nhw rannu’r nitrogen hwn â glaswelltydd sy’n tyfu yn yr un cae.
Fel rhan o brosiect newydd a ariennir gan Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol mewn partneriaeth â diwydiant, bydd gwyddonwyr yn IBERS, sefydliad ymchwil ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn edrych ar allu meillion coch a gwyn a chodlys arall, Pysen-y-Ceirw, i wella cynhyrchiant da byw tra’n lleihau dibyniaeth ar wrtaith nitrogen cemegol.
Mae mathau newydd o godlysiau wedi’u datblygu gan Germinal a Phrifysgol Aberystwyth sy’n gallu gwrthsefyll pori gan wartheg a defaid a thywydd eithafol yn well. Mae Pysen-y-Ceirw yn cynnwys cyfansoddion o'r enw taninau, a all leihau allyriadau methan gan wartheg a defaid.
Bydd ymchwilwyr yn gweithio gyda ffermwyr er mwyn sicrhau’r buddion mwyaf. Bydd y prosiect yn edrych ar sut i wneud y mwyaf o allu naturiol codlysiau i dynnu nitrogen o’r atmosffer, gan leihau'r ddibyniaeth ar wrtaith nitrogen cemegol.
Bydd yr ymchwil yn cynnwys treialon ar y fferm er mwyn nodi sut i gefnogi ffermwyr i gyrraedd targedau sero net.
Dywedodd Dr Christina Marley o IBERS ym Mhrifysgol Aberystwyth:
“Gallai’r prosiect hwn helpu i gwtogi ar y defnydd o wrtaith ac allyriadau amaethyddol. Y nod yw gwneud y mwyaf o allu meillion a chodlysiau eraill i gynyddu lefelau nitrogen yn naturiol ar laswelltiroedd y Deyrnas Gyfunol. Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at gydweithio â ffermwyr da byw i ddeall y ffordd orau o ddefnyddio’r codlysiau newydd hyn o fewn systemau ffermio go iawn. Mae cymaint o botensial yn yr addasiadau hyn i rai o’n planhigion brodorol, wrth i ni, fel cymdeithas, wneud ymdrech ehangach ar y cyd i fynd i’r afael â newid hinsawdd.”
Wrth groesawu cyllid DEFRA ar ran partneriaid prosiect ‘NUE-Leg’, dywedodd Mr. Paul Billings, Rheolwr Gyfarwyddwr, Germinal UK ac Iwerddon:
“Mae nitrogen yn faetholyn hanfodol ar gyfer tyfu glaswellt. Hebddo, allen ni ddim tyfu’r glaswellt sydd ei angen arnon ni i fwydo ein da byw a chynhyrchu’r cynnyrch llaeth a chig sydd eu hangen arnon ni. Fodd bynnag, mae gwrtaith nitrogen hefyd yn ffynhonnell fawr o allyriadau nwyon tŷ gwydr wrth eu cynhyrchu a'u cludo, ac o golledion yn y maes megis ocsid nitraidd ac amonia. Maen nhw hefyd yn ffynhonnell colledion nitrad i'n dyfrffyrdd. Maen nhw’n ddrud ac mae ffermwyr wedi gweld newidiadau enfawr mewn prisiau, yn enwedig yn y ddwy flynedd ddiwethaf pan fu amrywiadau mewn prisiau tua 300%.
“Mae llywodraethau ledled y byd wedi dweud yn gwbl briodol bod angen i ni leihau ein dibyniaeth ar wrtaith nitrogen. Mae angen ateb arnon ni. Gall codlysiau fel meillion gwyn a choch sy'n cael eu tyfu gyda glaswellt dynnu nitrogen o'r aer, ond heb unrhyw allyriadau. Gallai glaswelltir presennol gyda chynnwys meillion da echdynnu rhwng 100 a 150 kg o nitrogen yr hectar y flwyddyn ar gyfartaledd. Bydd y meillion yn defnyddio tua 75 kg o hyn drosto'i hun. Mae'r gweddill ar gael i'r glaswellt.
“Ond beth pe bai modd i ni wneud y mwyaf o gapasiti meillion i echdynnu nitrogen trwy sicrhau bod gennyn ni ddigon o feillion sy’n gallu parhau yn y glastir, a’u paru â’r microbau pridd cywir a’r maeth cywir? Mae angen i ni hefyd gyfuno hyn gyda dull rheoli sy’n cefnogi ffermwyr ac yn rhoi’r offer a’r wybodaeth sydd eu hangen arnyn nhw i wneud i hyn weithio mewn cyd-destun masnachol, a gwneud elw.
“Dyma beth rydyn ni eisiau ei gyflawni gyda Phrosiect NUE-Leg. Rydyn ni am sicrhau cynnydd triphlyg yng nghapasiti meillion i dynnu nitrogen o’r atmosffer i hyd at 300 kg nitrogen yr hectar y flwyddyn a thrwy hynny ddileu’r angen am wrtaith nitrogen cemegol.
“Mae gan y prosiect hwn y potensial i fod yn wirioneddol drawsnewidiol i ffermio glaswelltir yn y Deyrnas Gyfunol ac yn fyd-eang. Gallai fod yn drawsnewidiolo ran torri allyriadau a chefnogi proffidioldeb fferm. Yn y cyd-destun hwn, rydyn ni’n ddiolchgar iawn i Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol am y dyfarniad cyllid hwn sy’n caniatáu i’r prosiect pwysig hwn symud ymlaen i’w gyfnod profi nesaf ar y fferm.”
Mae’r prosiect ymchwil NUE-Leg yn bartneriaeth rhwng Prifysgol Aberystwyth, Germinal, Origin Enterprises, Sefydliad James Hutton, Agrecalc, Linking Environment and Farming (LEAF), Dovecote Farm, Pilgrim’s Pride, Müller UK & Ireland a’r Ganolfan Arloesi a Rhagoriaethmewn Da Byw (CIEL).
Ariennir y prosiect gan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol drwy’r Rhaglen Arloesi Ffermio.Mae'r Adran yn gweithio ar y rhaglen mewn partneriaeth ag Innovate UK.