Pam mae straeon am ysbrydion mor boblogaidd o hyd ar dymor y Nadolig?
Llun: K-Vlogger, Pixabay
22 Rhagfyr 2023
Gan Dr Luke Thurston, Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol
Prifysgol Aberystwyth
Atgofion sydd wrth galon y Nadolig, “cof y cyhyrau” chwedl Rowan Williams, atgofion am rywbeth sy’n fythol gyfarwydd ac nad oes modd dianc rhagddo rywsut, rhywbeth cysurus ond eto ar yr un pryd efallai ychydig yn llethol neu’n undonog. Byth ers ‘A Christmas Carol’ mae hefyd yn dymor o gymwynasgarwch gorfodol Dickensaidd, yn siwgraidd o ordeimladol ond yn eithriadol o bwysig i elusennau, y byddai rhai ohonynt yn methu â goroesi heb yr holl ewyllys da tymhorol hwnnw. Ond os felly, pam ar wyneb y ddaear y mae’r “scary ghost stories” y canodd Andy Williams amdanynt yn gymaint o draddodiad Nadoligaidd?
Eto, Dickens sy’n gyfrifol i raddau helaeth: ar ôl llwyddiant ysgubol Scrooge a’i negeseuwyr moeswersol drychiolaethus, fe sicrhâi fonws iddo ef ei hun bob blwyddyn drwy gyhoeddi rhifyn arswydus arbennig o’i gylchgrawn bob Nadolig, yn llawn o straeon iasol a ysgrifennwyd gan rai o sêr llenyddol oes Fictoria megis Elizabeth Gaskell ac Wilkie Collins.
Cyn hir daeth y Nadolig bron fel petai o dan fasnachnod Dickens, ac fe ddaeth y cyhoedd i ddisgwyl y cyfuniad rhyfedd o’r cartrefol a’r arswydus, i gyd-fynd â’u min-peis a’u gwin sbeis cynnes. Dychmygent ei fod yn draddodiad yn tarddu o’r oes cyn y rheilffordd a’r ffatri, ond mewn gwirionedd roedd hi’n agwedd ar y Nadolig a oedd newydd gael ei dyfeisio.
Roedd ymhlith y digwyddiadau cyntaf a hyrwyddwyd ar gyfryngau aml-lwyfan, wrth i’r ysbrydion Dickensaidd ymddangos ar lwyfan y theatr, yn y papurau newydd, y theatr gerdd, mewn partïon. Ac fel pob ysbryd gwerth ei halen, fe wrthododd adael, ac roedd hyd yn oed cyfres hirhoedlog ffilmiau’r BBC, ‘A Ghost Story at Christmas’ yn edrych yn ôl tuag at ysbrydion Nadolig y gorffennol.
Y flwyddyn hon yw canmlwyddiant cyhoeddi’r stori ysbryd ‘The Looking-Glass’ gan Walter de la Mare; llenor a aned ychydig ar ôl marwolaeth Dickens, ond roedd cysgod Dickens yn dylanwadu’n sylweddol ar de la Mare.
Magwyd de la Mare yn Llundain yn y 1870au, ac yntau’n ddim ond pedair oed pan fu farw ei dad. Roedd rhaid i’w fam frwydro i gynnal y teulu mawr ar aelwyd heb ddyn yn ennill cyflog. Pan oedd Walter yn ifanc, fe fyddai’n ymwybodol iawn, mae’n rhaid, o sut roedd y cymysgedd Dickensaidd o ofn a hiraeth ar adeg y Nadolig yn adlewyrchu gwirionedd ansicr ei fywyd ei hun.
Yn ‘The Looking-Glass’ mae menyw ifanc o’r enw Alice (ho, ho) yn sylweddoli nad yw’r ysbryd sy’n cerdded ei thŷ ond yn adlewyrchiad annaearol ohoni hi’i hun: “The Spirit is me. I haunt this place.”
Mae rhoi Alice yn ‘The Looking-Glass’ yn enghraifft nodweddiadol o gellwair llenyddol de la Mare, ond yr hyn sy’n cael ei watwar mewn gwirionedd—a dyma sy’n nodweddu safbwynt unigryw de la Mare fel llenor—yw’r syniad bod llenyddiaeth yn gallu adlewyrchu neu gynrychioli realiti mewn gwirionedd.
Yn aml yn ei straeon, nid rhyw ysbryd y gellir ei weld yn llusgo ei gadwyni sy’n ein trwblu, ond yn hytrach rhywbeth sy’n aflonyddu ar realiti ei hunan, yn gwneud i’r pethau mwyaf materol, i bob golwg, fynd yn rhyfedd o ansylweddol. “What made him so extortionately substantial, and yet in effect, so elusive and unreal?” y mae adroddwr un o straeon de la Mare yn gofyn i un o’r cymeriadau, gan ychwanegu, “What indeed constitutes the reality of any fellow creature?”
Yng ngwaith de la Mare, nid yw straeon ysbrydion bellach yn ddathliad tymhorol o ewyllys da ac elusengarwch, ond yn ffordd o fyfyrio ynghylch cwestiynau sydd fel arfer yn cael eu gohirio a’u hosgoi gan brysurdeb ein gwaith a’n bywydau bob dydd. Os ateb cymharol hawdd sydd i gwestiwn Nadoligaidd Dickens – sef sut y gallwn ni fod yn well pobl? – cafodd de la Mare ei dynnu at gwestiynau cythryblus ac efallai amhosib eu hateb, yn mynd y tu hwnt i’r ddelwedd wenieithus a gawn yn nrych gwlad hud y gaeaf.
Ond yn aml, yr hyn sy’n gwneud straeon de la Mare eu hunain mor wych yw pa mor rhyfeddol o dda maent yn creu’r teimladau cymysg sydd gan blentyn o orfoledd a phenbleth, o awydd ac arswyd. Yn ‘The Almond Tree,’ mae’r tŷ sy’n cael ei ddwyn i gof, a safai yng nghanol “unmeasured splendour of the heath,” yn ein hatgoffa o Dingley Dell Dickens, ond fe aflonyddir ar y paradwys daearol gan dresmaswr annirnad: “For my father seemed but a familiar guest in the house, a guest ever eagerly desired and welcome, but none too eager to remain.”
Mae’r cysylltiadau rhwng y geiriau ‘ghost’ a ‘host’ a ‘guest’ bob amser yn cael eu pwysleisio gan de la Mare, wrth inni weld, drosodd a thro, gwestiynu ynghylch pwy sydd â’r hawl i’w le ar yr aelwyd, y gwesteiwyr sy’n troi’n ymosodwyr, a’r gwesteion sy’n mynd yn anghartrefol. “Is there anybody there?” yw’r cwestiwn sy’n agor ‘The Listeners,’ sef cerdd enwocaf de la Mare, a dyna’r cwestiwn sy’n cyniwair drwy ei holl waith wrth iddo droi’r modd y mae’r hunan yn cael ei ‘berfformio’ i fod yn rhywbeth mympwyol ac amheus.
Fy hoff un i yw’r stori fendigedig o frawychus o’r enw ‘An Ideal Craftsman,’ lle mae’r bachgen sy’n adrodd y stori yn mynd ar gyrch i’r gegin ganol nos, dim ond i ddarganfod bod ei freuddwyd wedi’i gwireddu: mae ei orthrymwr sydd mor atgas ganddo, y bwtler Jacobs—yn lle bod yn aros amdano i’w ddal a’i gosbi—yn gorwedd yn gelain yn y pantri. Mae comedi ddu ac echryslon y stori—wrth i’r plentyn gynorthwyo’r llofrudd i godi corff yr hen ŵr i’w grogi fel y bydd i’w weld fel petai iddo’i ladd ei hunan—yn crisialu neges Nadoligaidd sylfaenol de la Mare: byddwch yn ofalus iawn wrth wneud dymuniad, rhag ofn y caiff ei wireddu!
Dr Luke Thurston
Mae Dr Luke Thurston yn Uwch-ddarlithydd mewn Llenyddiaeth Fodern yn yr Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae’n dysgu ym maes llenyddiaeth Fictoraidd, fodern a chyfoes gan arbenigo yn y cyfnod rhwng 1880 a 1940; a hefyd theori lenyddol, gan arbenigo mewn dadansoddi seicolegol ac ysbrydion mewn llenyddiaeth. Ef yw awdur y llyfr ‘Literary Ghosts from the Victorians to Modernism’ (Taylor & Francis, 2012).